Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Ar Sgwr Maenclochog

TERWYN TOMOS syn bwrw golwg yn l ar Carnabwth, perfformiad panaromig yn adrodd hanes terfysg Beca a lwyfanwyd yn Sir Benfro ganol yr haf. Dymar gyntaf o ddwy erthygl yn edrych ar sioeau cymunedol.

Yn gynharach yn yr haf, cyn ir tywydd poeth gyrraedd cefn gwlad Sir Benfro bm i a thyrfa luosg yn eistedd yn y gwynt ar glaw ar Sgwr Maenclochog yn gwylio perfformiad yr ardalwyr o Carnabwth sioe gymunedol ar ffurf deialog, dawns a chn yn adrodd hanes gwrthryfel Merched Beca yn nhridegaur bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafwyd tri pherfformiad, dair noson or bron, ac ar y llwyfan dros dro a godwyd ar y Sgwr, ymddangosodd rhai degau o drigolion lleol o bob oed gan gynnwys baban bychan ond ychydig fisoedd oed, un neu ddau o deuluoedd cyfain, a phlant Ysgol Gynradd Maenclochog i droi sgript Hefin Wyn yn basiant bywiog ir gynulleidfa.

Yn ystod yr awr a thri chwarter, cawsom ein tywys i Ffair Gyflogi Maenclochog, i aelwyd bwthyn unnos Carnabwth, i gapel Bethel Mynachlogddu, i Lys Barn yn Hwlffordd ac i sgubor Glynseithmaen lle bu Twm Carnabwth ai gyfeillion yn cynllunior weithred hanesyddol yn erbyn tollborth yr Efail Wen. A, do, fe gawsom fynd gyda nhw ir tollborth a gweld ei chwalu ai losgi a gwelsom losgir casglwr trethi ei hun hefyd, wrth i un or actorion gymerud rhan mewn stunt deilwng o un o ffilmiau James Bond. Ac wrth gyd-deithio gydar ffermwyr, cawsom chwerthin ar eu ffraethdineb chwedlonol (ac ar ffraethdebn cyfoes ambell actor!), ymlacio yn eu cwmni wrth iddynt anghofiou gofidiau yn y dafarn ar ffair, a chydymdeimlon llawn gyda chaledi ac anghyfiawnder eu bywyd bob dydd.

Does dim dwywaith nad oedd y gynulleidfa, mor amrywiolei hoed r perfformwyr, wedi cael gwir flas ar y sioe yr oedd y gwrando astud, y chwerthin ar cymeradwyo yn ystod y perfformiad, ar sgwrsio ar dadansoddi wedi iddo orffen yn ddigon o dyst eu bod yn falch o fod wedi mentror tywydd a dod i wylio. Hoeliwyd llygaid a chlystiau pawb ar y llwyfan, gan ganolbwyntio ar bob gair a phob symud.

Sioe gymunedol gyflawn oedd Carnabwth. Cafodd y sgript ar gerddoriaeth eu hysgrifennu au cyfansoddi gan awdur a chyfansoddwr lleol. Yr oedd yr actorion yn cynnwys nifer o newydd-ddyfodiad Saesneg eu hiaith y cerddorion, y criw cynhyrchu a phob un a lafuriodd i droir patshyn gwyrdd yng nghanol Maenclochog yn theatr awyr agored am dair noson, i gyd yn byw yn y cyffiniau. Ni chafodd neb ei gau allan os oedd awydd perfformio arnoch, roedd lle i chi ar y llwyfan.Dyma i chi draddodiad y Noson Lawen draddodiadol wedi ei drawsblannu ir gymdeithas sydd ohoni heddiw wrth odrer Preselau. Adlewyrchwyd adnabyddiaeth yr awdur ar cynhyrchydd ou tm yn y modd y gwwyd cryfderau perfformio unigolion a grwpiau at ei gilydd i greu cyfanwaith. Yr oedd dawnswyr cydnabyddedig yno, canwr neu ddau o statws cenedlaethol, ac roedd y dynwaredwr anifeiliaid yntau wedi cael ei briod le i ddangos ei dalent unigryw.

Codai cynnwys y cynhyrchiad yn uniongyrchol o hanes yr ardal, a hwnnwn hanes a ddatblygodd yn chwedloniaeth, ac yn rhan bwysig o etifeddiaeth Gogledd Sir Benfro. Yn wir, yr oedd disgynyddion a pherthnasau i Twm Carnabwth yn cymryd rhan yn y perfformiad. Yn ogystal gwrthryfel Merched Beca fel digwyddiad hanesyddol, portreadwyd bywyd y cyfnod yn ei gyflawnder hwyl a mirir ffair, anobaith teuluoedd yn wyneb tlodi, dicter y ffermwyr yn erbyn gorthrwm ac annhegwch. Gosodwyd y cefndir yn amlwg. Ond fe gawsom y dadlau hefyd. Nid oes gefnogaeth unfrydol i brotest mewn unrhyw oes, ac felly oedd hi yng nghyfnod Beca, maen si_r. Gwelsom y rhychwant cyflawn o deimladau y penboeth o blaid, yr ofnus yn pryderu am y canlyniadau, ar rhesymol yn mynnu mai trwy drafod yn unig y gellid newid y drefn. A gwelsom hefyd y dwyster teimlad y digri ar difri syn datblygu ac aeddfedu wrth i gymuned o bobl gyd-ddioddef a chydweithio a thyfun gymdeithas.

Yna, yn goron ar y chyfan, yr oedd y lleoliad ynddoi hun yn ychwannegu at effeithiolrwydd yr achlysur. Ni allai neb fynd ar gyfyl Maenclochog yn noson honno heb sylwi na, teimlo bod rhywbeth mawr yn digwydd. Er y buasain gwbl bosib llwyfannur sioe mewn neuadd neu mewn theatr, ni fyddai ei hergyd wedi carior un nerth. Mewn rhyw ffordd gyfrin, yr oedd y pentref ei hun yn rhan annatod or perfformiad yn un or cymeriadau.

Nid dymar tro cyntaf i Glychau Clochog, y gymdeithas a drefnodd y perfformiad, wneud rhywbeth tebyg.

Llwyfannwyd y sioe Imbed, Imbed yn y flwyddyn 2000, cynhyrchiad i ddathlu goroesiad Maenclochog ir unfed ganrif ar hugain. Yna, yn 2002, llwyfannwyd Hitsh-w! i ddathlu bywyd un o gymeriadau y fro, y digrifwr Dilwyn Edwards. Dengys yr ymateb ir tri cynhyrchiad fel ei gilydd bod yr ardal wedi taro ar fformat lwyddiannus ar gyfer adloniant gymunedol fodern.

Gallwn briodolir llwyddiant i nifer o ffactorau. Yn y lle cyntaf, bu pob perfformiad yn achlysur dros gyfnod ar gyfer y gymuned gyfan. Nid cwmni o selogion drama yn penderfynnu rhoi perfformiad oedd yma, ond cymuned yn cyd-dynnu i greu digwyddiad perthnasol ac addysgiadol a wreiddwyd yn ddwfn yn eu hanes au profiad nhw eu hunain. Cydnabuwyd bod gan bob carfan beth bynnag eu hoed, iaith a thras - yr hawl i gymryd rhan, a thrwy hynny yr hawl i fod yn rhan o fywyd cymunedol yr ardal.

Yn ail, bur perfformiad hyn yn ymgorfforiad modern or Noson Lawen draddodiadol yn glytwaith annisgwyl or dwl, y doniol ar difrifol i oglais rhychwant eang o emosiynau, a hynny gan amaturiaid sydd yn barod iw mentro hi. Mae gan rai unigolion dalentau penodol, a manteisiwyd yn llawn ar hynny. Ar y llaw arall, mentrodd ambell gymeriad ar rywbeth oedd yn hollol newydd iddo Nid oedd pob perfformiad yn cyrraedd yr entrychion, ond pa wahaniaeth am hynny? Gwerth y peth yw cael bod yn rhan o dm yn cyd-dynnun gytn y Noson Lawen ar ei gorau, yn ymgorfforiad o fywyd cymdeithasol.

Yn drydydd, bu i arweinwyr y gweithgarwch allu sefyll yn l a gweld y darlun mawr adnabod hanfodion cymuned, bywyd a natur Maenclochog, au gosod fel gweledigaeth i yrrur holl weithgarwch yn ei flaen.

Ond yn sylfaen ir cyfan rhaid wrth waith caled. Maer weledigaeth ym Maenclochog, ar ymroddiad ar dycnwch i dorrir weledigaeth honno yn ffaith, yn esiampl gwerth ei hefelychu. Mae breuddwydion yn bethau cyffredin, ond nid gan bawb maer dyfalbarhad ar egni i droi breuddwyd yn realiti. Mae gan Faenglochog yr arweimwyr hollbwysig hynny syn gallu gweld lle llifar ffrwd gudd, greadigol syn bodoli ym mhob cymuned a dod hi ir wyneb iw hedmygu ai gwerthfawrogi gan bawb.

Credaf y buasai Twm Carnabwth ei hun wedi bod wrth ei fodd ar Sgwr Maenclochog yn y gwynt ar glaw ym mis Gorffennaf.

awdur:Terwyn Tomos
cyfrol:489, Hydref 2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk