Crac yn y Leino
Oedolion yn Unig GAN Robin Griffith a Dyfed Thomas Theatr Bara Caws Cyfr. Robin Griffith
Rydan ni’n byw yn oes y double-entendre, oes pam mae teitl fel Oedolion yn Unig yn gyfystyr â chrechwen a llyfu gweflau. Ac yn y camddehongli hwnnw mae pwynt y ddrama hon a sgrifennwyd ar y cyd gan Robin Griffith a Dyfed Thomas (sydd hefyd yn chwarae’r chwe phrif gymeriad ar y llwyfan.)
Er fod cyfle i’r gynulleidfa bwffian chwerthin a phwyso botwm ‘rhyddhad’, drama am gymeriadau sydd ar gyrion cymdeithas a gawn yma, er eu bod, yn eironig ddigon, yn byw eu bywydau pob dydd ynghanol pobl eraill, ac yn dweud eu hanesion fesul un mewn Clwb Nos. Cawn siarad bymtheg y dwsin yma, cyfathrebu’n gynnes efo’r gynulleidfa, rhannu jôcs budron a chyfrinachau. Ond chwerthin i wagle sydd yma yn y bôn, gwenu ar bawb ac ar neb yn y diwedd.
Teipiau a geir yma, fel cymeriadau Twm o’r Nant yn ei anterliwtiau, cymeriad sy’n personoli rhinweddau a gwendidau mewn cymdeithas. Ond mae dynoliaeth yn gryf iawn yng nghymeriadau’r ddrama yma hefyd; maent yn gysurus o gyfarwydd bron. Oherwydd hyn, mae dyfodiad ‘Y Fo’ yn nechrau ac, yn fwy brawychus, yn niwedd y ddrama, yn cael mwy o effaith byth ar ein hunanfodlonrwydd.
Mae chwe chymeriad – Betie’r Barman, sydd ag obsesiwn am ‘y crac yn y leino’ parhaus yn ei fywyd; Keith Karaoke, sy’n credu yng ngrym y dwrn a’r bidlen; Erica, sy’n stripar unig wedi’i cham-drin yn ifanc; Athy, yr oganydd, sy’n hiraethu am yr hen ddyddiau i gyfeiliant eironig ‘Happy Days Are Here Again’ ar ei Yamaha; Mary’r hen wraig weddw, ac yna ‘Y Fo’.
Er mwyn cael llinyn cyswllt rhwng pawb, mae gan bob cymeriad gysylltiad anymwybodol efo’r lleill. Dangosir hyn trwy gyfeirio at doreth o gymeriadau nad ydym byth yn eu gweld, ond fod ganddynt i gyd rhyw gysylltiad gwahanol efo pob cymeriad a gyflwynir ar y llwyfan; gadewir i ni, felly, y gynulleidfa wybodus, briodoli gwahanol agweddau i’r cymeriadau o’n blaenau. Teimlais fod y cymeriadau anuniongyrchol hyn yn rhy niferus i fod yn bresenoldebau clir yn ein dychymyg a bod ceisio cofio’r cysylltiadau efo’r cymeriadau eraill yn tynnu oddi wrth bathos y cymeriadau gweladwy. Unigrwydd y chwe chymeriad oedd y llinyn arian cryfaf o bell ffordd. Prin fod angen dim arall.
Does dim dwywaith fod Dyfed Thomas wedi rhoi perfformiad graenus wrth gyfleu natur wahanol y cymeriadau. Mae’n brawf ar hunanddisgyblaeth a chrefft actor, yn sicr, i fedru cynnal dros awr a hanner o theatr fyw, a geiriau’r fonolog yr unig gwmni ar y llwyfan. Ond teimlais fod yr awduron wedi gwneud gwaith anodd yn waith anos, wrth geisio mynd ati i bortreadu chwe chymeriad mewn cyn lleied o amser. Fel aelod o’r gynulleidfa, teimlais ei fod yn dipyn o gowdel i orfod canolbwyntio arno, a’r funud yr oeddwn yn dechrau cynhesu a dod i nabod un arall.
Cafwyd diwedd ysgytwol, gyda chonfensiynau golau a sain yn cael ei chwalu’n llwyr wrth i ‘Y Fo’ ddod i flaen y llwyfan a sgrechian ei neges fod cymdeithas wedi mynd i’r diawl, ac mai ‘gwarth yn lle gwerthoedd’ oedd yn y byd heddiw. Gwingodd y gynulleidfa yn ei sêt wrth i ‘Y Fo’ fynd at gefn y llwyfan a sefyll yn ystum enwog y Meseia i gloi.
Ai dychryn a sioc a barodd i’r gynulleidfa sefyll ar ei thraed yn Neuadd y Dref Llangefni i gymeradwyo’r perfformiad, tybed? Mae’n amlwg fod pobl wedi eu cyffroi, yn gwerthfawrogi’r neges, ac yn barod i glodfori’r gamp a aeth i gyfleu’r neges honno. Yn bersonol, mae’n haws gan i lyncu pregerth gynilach. Ond efallai mai gormod o gynildeb sydd wedi bod, a’i bod yn hen bryd mynd yn ôl at ddulliau didactig yr hen Twm o’r Nant ar drothwy’r mileniwm fel hyn.
awdur:Mared Lewis
cyfrol:422, Mawrth 1998
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com