TREIALON GLASFYFYRIWR
Cwrw, Chips a Darlith Deg gan Siân Summers Arad Goch Cyfr. Jeremy Turner
Yn ei drama newydd y mae Siân Summers wedi creu comedi arall a chynnig sialens newydd i’r actor dawnus Gwion Huw yr un pryd. Parhad ydyw o saga llanc ifanc, Gary Jones. Ffrwydrodd Gary i’n sylw am y tro cyntaf yn Adreyn Glas Mewn Bocs Sgidiau, a lwyfannwyd gan yr un cwmni rai blynyddoedd yn ôl. Yn union fel y tro blaenorol, y mae Gwion Huw wedi llwydo yn gampus i bortreadu’r cymeriad bywiog sy’n dal i ymladd â’i hormonau ansefydlog heb sôn am geisio goroesi problemau teuluol. Cawsom hanes ei blentyndod a’i arddegau yn y ddrama gyntaf, ac yn Cwrw, Chips a Darlith Deg cawn ddilyn ei hynt a’i helynt wrth iddo geisio dygymod â bywyd gwallgo’r coleg. Hawdd yw uniaethu â phrofiadau’r llanc, ac er mai darluniau ystrydebol a gawn o’r meddwi a’r chwydu a’r cysgu mewn darlithiau a diodde’ sawl ‘penmaenmawr’, mae’n bortread difyr a doniol o las-fyfyriwr hoffus iawn.
Rhydd Gwion Huw egni di-ben-draw i’r perfformiad, ac yn amlach na pheidio mae’n gadael y gwyliwr yn ymladd yn galed am ei anadl ac yn crefu am saib. Nid aeth ar chwâl unwaith yn ystod yr awr a hanner er gwaethaf y cyfnewidiadau aml o lais un cymeriad i’r llall. Fe’n hailgyflwynir i’w fam a’i dad, Joan ei chwaer, ei Yncl George a’i Anti Denise, ei gyn-brifathrol, ac wrth gwrs, Lesley, bwli’r ysgol. Ond wrth i Gary ddechrau ar ei fywyd fel glas-fyfyriwr cawn gwrdd â chymeriadau newydd megis Glyn sy’n rhannu ystafell ag ef, ac sy’n llawn areithiau á la Che Guevarra penboeth. Roedd yr actor ifanc yn amlwg wedi meistroli’r sgript lithrig a oedd yn symud yn hynod o gyflym. Roedd ei berfformiad yn un hwyliog ond hefyd yn un sensitif a oedd yn rhoi ystyr newydd i eiriau megis ‘joio’ a ‘hiraeth’.
Gwelwyd ôl cyfarwyddo effeithiol a deallus gan Jeremy Turner trwy gydol y perfformiad, gyda defnydd dyfeisgar o’r ‘props’, a galluoedd rhyfeddol Action Man yn cael eu hymestyn i’r eithaf! Cafwyd hefyd oleuo effeithiol a seibiau dramatig addas i gyfleu adegau o boen meddwl ym mywyd Gary. Nid camp fechan oedd creu cystal dilyniant i Aderyn Glas Mewn Bocs Sgidiau, ond roedd Cwrw, Chips a Darlith Deg yn ddrama werth ei gweld. Erbyn i hyn o lith weld golau dydd, gobeithio y bydd wedi cael taith lwyddiannus a chynulleidfa werthfawrogol fel yr un a gafwyd ar noson gyntaf y ddrama yn Aberystwyth.
awdur:Gwenno Francon
cyfrol:422, Mawrth 1998
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com