POENDOD Y BEIRNIAD DRAMA
Y Gosb Ddiddial (Cwmni Theatr Gwynedd) Lope de Vegas/trosiad Gareth Miles; Cyfarwyddwr: Ceri Sherlock
Tydi Bywyd yn Boed, Tydi Petha’n Gwella Dim! Na phoener, tydi’r boen o fod yn feirniad drama yng Nghymru ddim wedi llwyr fwydro fy mhen, ac mi wn mai adolygu cyfieithiad dyn modern o ddrama gan ddyn o hen oes yr ydw i.
Ond pam y daeth teitlau dau lyfr Gwenno Hywyn i’r meddwl? Nid drama i blant mo hon, yn sicr ddigon, a dyna, ar un lefel, yw’r nofelau. Hwyrach mai fi sy’n clywed rhyw islais o boen oesol merched yn y ddau deitl – a dyma a gawn yn y ddrama hon, er bod islais yn aml iawn yn codi’n sgrech. Golwg sydd yma ar gyfnod pan edrychid ar ferched fel nwyddau, angylesau, neu deganau rhyw (naci, del, sôn am yr unfed ganrif ar bymtheg rydw i, nid heddiw. Ia, wn i, wn i.) Mae’r neges yn teithio dros canrifoedd a tydi f’addysg Seisnig i ddim wedi fy nghymhwyso i farnu a ydi’r neges yng ngwaith Lope de Vega, ynteu grefftwaith Gareth Miles sydd wedi dod â’r thema hon i’r amlwg.
Gallwch ddisgwyl y thema yn fras o weld y broliant – ‘byd Pabyddol, siofenistaidd...’ (ac erbyn hyn, mae’n debyg, rhaid i burydd fel fi dderbyn nad yr ystyr gywir – gor-genedlaetholdeb eithafol – a olygir gan hyn ond yn hytrach drahauster gwrywaidd). Chawn ni mo’n siomi yn hynny: agorwn yn syth mewn cyfnod arall, gyda’r set ddychmygus a realistig, oedd yn f’atgoffa i o ddarluniau artistiaid y cyfnod nid yn unig yn ei brif elfennau, ond hefyd ym manylion dibwys, bron, ond hynod arwyddocaol yr anifeiliaid bychain a baentiwyd ar y ‘waliau’. Yn y darluniau, roedd i’r rhain oll eu harwyddocâd arbennig, ac felly hefyd yn y ddrama: mae’r darluniau oll yn ategu ac yn cyfoethogi’r chwarae, a’r mwnci bychan – cynrychiolydd chwant – yn gelfydd amlwg.
Creaduriaid y nos sydd yn symud o gwmpas y set o’r dechrau cyntaf, hefyd. Mae’r uchelwyr yn crwydro strydoedd strydoedd Ferarra yng nghuddliw adar y nos: mae’r cyfan yn cyfleu dieithrwch, ac yr oedd yr arferiad, wrth gwrs, yn gyffredin ymhlith uchelwyr a ddymunai gyfuno’u pleser a’u parch mewn cymdeithas. Dyma un o elfennau hanfodol Y Gosb Ddiddial: mae gwrthdaro galwadau’r wladwriaeth a nwyd personol yn creu’r tensiwn, y cyffro, ac yn y diwedd, y drasiedi.
Cyn i’r drasiedi ddod i’w llawn dwf, fodd bynnag, mae camau ffurfiol y ddawn ddynastig i’w chwarae. Un o’r darluniau cofiadwy yw cyflwyniad ffurfiol y Dug i’w ddarpar-dduges, a swynwyd eisoes gan fab goddrech y Dug. Mae’r ddau brif chwaraewr yn symud fel pypedau, ac yn siarad fel robotiaid – ac am unwaith mewn drama Gymraeg, gwneir hyn yn fwriadol ac i bwrpas: bron nad oes modd cyffwrdd yr isgerrynt o draserch ac anobaith sy’n llifo dan wyneb y llyfnder confensiynol.
Mae hyn oll yn cael ei gyfleu mewn iaith goeth sydd eto yn llwyddo i beidio â bod allan o gyrraedd y gwrandawr deallus, cyffredin (os oes ffasiwn greadur yn bodoli bellach). Dyna mae drama o’r cyfnod yn ei fynnu – byddai mynd yn or-lafar, slangllyd yn chwerthinllyd, a naws or-lenyddol yn marweiddio’r gwaith. Llwyddodd y cyfieithydd yn ei dasg: felly hefyd y rhan fwyaf o’r actorion. Mae Rhian Morgan yn ffitio i’r dim i’w rhan fel Awrora urddasol yn ei phoenyd: wyn Bowen Harries a Richard Elfyn, yn enwedig yn y cyd-chwarae fel y tad a’r mab, yn llwyddo i argyhoeddi naw-deg-naw y cant o’r amser, a Trefor Selway yn cadarnhau ei enw fel un o brif actorion ‘cymeriad’ y llwyfan Cymraeg, yn cyfoethogi is-gymeriad a’i wneud yn llawn a phwysig.
A dyna’r pwynt. Mae yma rannau pwysig sy’n gofyn llawer gan actorion llwyfan – ac un o’r prif rannau yn anad oll. Mae Grug Maria Davies yn weledol berffaith fel y dduges ifanc a aberthir ar allor dyletswydd a gwleidyddiaeth. I wneud y rhan yn gyflawn, fodd bynnag, mae angen cyfleu sefyllfa’r ferch hon trwy eiriau’r ddrama: o’i wneud yn gelfydd, gallesid bod wedi glanio’r ddrama ‘hanesyddol’ hon yn glewt yn yr ugeinfed ganrif. Mae’r set, y symud, y medr technegol oll mor bwysig, ond heb y geiriau, a’r geiriau yn cael eu llefaru’n eglur ac yn ystyrlon, mae’r prif bwysigrwydd yn mynd ar goll. Rwy’n dyrnu ar hen, hen thema yma, ac yn fy ngosod fy hun fel cocyn hitio, yn burydd sy’n ymboeni’n ormodol am iaith a llefaru.
Ddylwn i ddim gorfod gwneud, wrth gwrs. A’r rheswm am hynny yw na ddylai unrhyw actor nac actores fentro ar lwyfan heb feddu ar hanfodion y grefft. Dyna’r caswir nad yw rhai sy’n meddu ar gerdyn Equity eto wedi’i wynebu. A dyma boendod bod yn unrhyw fath o feirniad drama yng Nghymru.
awdur:Meg Ellis
cyfrol:359, Rhagfyr 1992
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com