Mwy Na Rhegi
Y Folsan Fawr gan Robin Griffith a Dyfed Thomas, Theatr Bara Caws, Cyfr. Robin Griffith
Y Folsan Fawr – y ddwy ‘F’, y ffalig a’r ffantastig, y ffraeth a’r –ycin anweddus! Maddeuwch fy Ffrangeg, ond does yna ddim un ymadrodd arall yn gwneud cyfiawnder. Mae’r sioe glybiau, bellach, yn gyfarwydd fel sioe ddoniol, ddi-chwaeth ar gyfer cynulleidfa sydd yn ‘culturally challenged’ (i fathu term y Sais), rhywbeth y tu allan i brif ffrwd y ddrama yng Nghymru. Sinigaidd efallai yw ychwanegu bod y sioe gwrs hon yn llenwi’r clybiau tra mae’r theatrau yn tueddu i fod yn hanner gwag.
Roedd sôn, ‘dwn i ddim pa mor ddifrifol, fod Robin Griffith a Dyfed Thomas, awduron y sioe glybiau, yn teimlo bod y genre wreiddiol hon dechrau chwythu ei phlwc. Nid dyna’r argraff a gefais i. Efallai ei fod yn wendid ynom ni fel Cymry Piwritanaidd ein bod yn barod i chwerthin ei hochor hi bob tro y clywn y gair ‘ffwc’ (ac mi glywais i awdur llawer mwy canol y ffordd a sefydliadol na’r ddau yma yn honni mai ffordd hawdd o gael ‘laff’ mewn drama oedd cynnwys rhegfeydd). Ond y gwir yw y bydd y sioe glybiau, felly, yn parhau i blesio a bodloni cynulleidfa nad yw’n rhy ymhongar i droi eu trwynau arni.
Ac mae yna fwy na rhegi yn Y Folsan Fawr. Mae yma barodi amlwg ar ffurf y pantomein traddodiadol, er enghraifft, fel y profa ymddangosiad Botwm Balog druan ar y dechrau. Ac roedd hi’n hen bryd i rywun dynnu ein sylw at ffolineb yr hen ‘role-reversal’ traddodiadol. Sut mae disgwyl i Sinderela druan gael bywyd priodasol hapus gyda’r tywysog ac yntau, fel y dywedodd, ‘heb bidlan’? A does ryfedd fod gan Niagra (un o’r chwiorydd gwrywaidd) gymaint o broblemau gyda’r ‘water-works’, a hithau wedi gorfod ‘pi pi ar ei heistedd’ ar hyd ei bywyd oherwydd awydd ei rhieni am ferch.Pwnc cyfoes iawn yw trawswisgo ond mae’n werth cofio bod Shakespeare wedi mynd i’r afael ag o ym myd y theatr ganrifoedd yn ôl.
A beth am chwaer Niagra, Viagra? Does dim gwadu ei pherthnasedd hi i drafodaethau brwd y cyfryngau poblogaidd. ‘Over-sexed’ yw Viagra yn ôl ei chyfaddefiad ei hun. Heb fynd i fanylu, mae ffraethineb yr awduron yn ddeifiol, ond mae’n gyfrwng i wyntyllu materion cyfoes mewn modd ysgafn a hwyliog gan arbed y sioe rhag ymdrybaeddu yn llwyr mewn anlladrwydd!
Wrth gwrs, fel ym mhob sioe gymuned dda, mae yma hefyd gyfle i weithio enwau a chyfeiriadau lleol i mewn ac i godi cywilydd ar gynulleidfa ddiniwed. Roedd hi’n braf gweld nad oedd gan Llion Williams et al. Ddim ofn dangos eu cyrff (siapus?) wrth berfformio’r ‘full-monty Cymraeg’ a strytio eu dildos i wynebau’r gynulleidfa! Dim ond un gair o gyngor, felly, os fydd yna sioe debyg Dolig nesaf – eisteddwch yn ddiogel yn y cefn, a gadewch eich alter ego parchus adra’ o flaen y tân.
awdur:Gwenan Roberts
cyfrol:424, Mawrth 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com