Brwydr ar y Campws
Olenna gan David Mamet, addas. Gareth Miles, Cwmni Theatr Gwynedd, Cyfr. Siân Summers
‘Hambygio defodol ydi addysg’ – dyna un o berlau ysgolheigaidd y darlithydd yn y ddrama hon. Chefais i mo fy hambygio’n ddigonol, mae’n amlwg, gan nad oeddwn i, tan imi weld y cynhyrchiad hwn o Olenna ym Mangor, yn gwybod fawr ddim am David Mamet, awdur Americanaidd y ddrama. (Cofiwch chi, efallai na ddylwn i ddim cyfaddef y fath bethau rhag ofn i Barn gael eu rhoi yn y doc am gyflogi adolygwr di-glem). Ond ‘ta waeth am hynnu, fi fuodd i’w gweld hi a fi sydd â’r dasg, rhyw ychydig yn anodd, o’i hadolygu.
Hynny ydi, nid oes unrhyw anhawster wrth drafod y perfformiad a’r cyflwyniad. Mae perfformiadau Bethan Ellis Owen a Phil Reid yn wirioneddol gaboledig ac addasiad Gareth Miles yn llifo’n rhwydd ac yn gredadwy gan ddal i gadw’r elfennau amwys angenrheidiol. Mae’r set hefyd yn gyfuniad cynnil sydd yn ein hatgoffa o adeilad prifysgol hen ffasiwn (fel y brifysgol leol wrth gwrs), ond eto gyda’r elfen fodern, glinigaidd a allai ei gwneud yn unrhyw ystafell mewn unrhyw goleg.
Na, nid gyda’r cyflwyniad y mae’r anhawster, y testun ei hyn sydd yn ei gwneud hi’n anodd i fynegi barn ddi-flewyn-ar-dafod, ac mae’n debygol iawn fod hynny’n arwydd o lwyddiant yr awdur. Nid noson o adloniant ysgafn sydd yma, fel yr awgryma’r rhaglen: ‘... mae’n syndod fod sawl ffeminydd wedi gweld casineb yn erbyn merched yng ngwaith Mamet... Yn Olenna mae Mamet yn tanio coctel o emosiynau pwerus... (sy’n)... troi’n chwalfa symbolaidd o ddiffyg cyfathrebu gw_r a gwragedd heddiw... Fe’ch heriwn chi i weld y ddrama a phenderfynu eich hunain pa mor fregus yw’r berthynas rhwng p_er a rhyw. Perthynas myfyrwraig a darlithydd sydd dan y chwyddwydr, gyda’r fyfyrwraig yn honni bod John wedi aflonyddu’n rhywiol arni, a hynny mewn golygfa yr ydym ni wedi bod yn dyst iddi. Yr hyn sy’n gwneud y ddrama yn destun trafod mor frwd yw’r ffaith nad oes yma unrhyw aflonyddu amlwg, cignoeth, dim ond awgrymiadau cynnil a’r rheiny yn rhai sydd mor arferol yn ein cymdeithas nad ydym prin yn sylwi arnynt.
Y g_r yw ceidwad addysg; gall godi gradd y ferch dim ond iddi dreulio amser gydag ef yn ail-wneud y cwrs. Mae’r ferch yn gallu cyfeirio at adegau pan fu’r darlithydd yn canmol ei hymddangosiad – ‘Ti’n edrych yn smart heddiw,’ – neu’n rhoi ei fraich o’i amgylch i’w chysuro ac yn ei galw yn ‘cyw’ a ‘machi’. Aeth America ‘gwlad y cyfleoedd’yn ‘wlad y cyfleoedd cyfartal’, ac efallai mai’r cliw mwyaf fod y ddrama yn deillio o’r wlad honno yw’r ffaith fod y ferch, gyda chefnogaeth ei ‘gr_p’ a’i thwrna, yn gallu tynnu sylw at yr holl agweddau rhywiaethol hyn. Yr eironi yw bod y darlithydd yn fwy amlwg dreisgar tuag ati wrth iddo geisio datgan ei ddiniwedrwydd. Mae’r ferch bellach yn gallu defnyddio ei rhyw hi fel modd i reoli’r dyn ac yntau, fel yr oedd hithau yn yr act gyntaf, yn methu ‘dallt’. Y symud cyson yma sydd yn cynnal diddordeb yn y ddrama ac yn ei chadw rhag mynd yn statig, gyda’r grym yn cael ei fynegi mewn hyder corfforol yn ogystal â geiriol.
Nid yw hon yn sefyllfa amhosibl wrth gwrs. Er na fyddai Mamet, rwy’n si_r, yn diolch i mi am y gymhariaeth, mae’r un ddilema yn codi, er enghraifft, mewn cyfresi teledu fel Rownd a Rownd a Neighbours, gyda chymeriad Ari yn y naill a Libby yn y llall ill dau yn caru’n selog gyda’u darlithwyr, er mawr gofid i’w rhieni. Mae drama Mamet yn llawer mwy cynnil a chymleth wrth reswm, a’r hyn sy’n ddiddorol yn y cyflwyniad hwn yw ei bod hi’n anodd iawn peidio â chydymdeimlo gyda chymeriad Phil Reid er fy mod i’n teimlo, fel merch, na ddylwn i ddim. Tybed ai dyma’r bwriad? Wrth chwilio am ystyr yr enw Olenna, bûm yn syrffio ar y We a darganfûm luniau o’r cynhyrchiad gwreiddiol, Americanaidd. Yn y cynhyrchiad hwnnw, mae gan y ferch wallt melyn hir (sydd, gyda holl ensyniadau y ddelwedd honno, efallai yn ei gwneud yn ysglyfaeth mwy amlwg nag yn y cynhyrchiad hwn) a’r darlithydd yn ddyn moel, boliog, canol oed. Byddai’n llawer haws gweld hwnnw fel rhyw hen sglyfath o ddyn yn manteisio ar ferched ifanc, na’r darlithydd ifanc, deniadol yn y fersiwn Gymraeg. Ond mae’n dileu’r stereoteip yn dangos ffydd ynom ni fel cynulleidfa ac yn ei gwneud yn ddrama fwy dyrys eto, ac weithiau gellir cytuno gyda’r creadur y deuthum ar ei draws ar y We a oedd yn adolygu Olenna – ‘Bottom line: it gave me a headache!’
Olenna oedd yr enw a rhoddwyd ar ymdrech i sefydlu cymdeithas iwtopaidd ym Mhensylfania, ymdrech a fethodd yn drybeilig. Ai neges yr awdur yw fod cymdeithas o’r fath yn amhosibl? Siawns fod yna feirniadaeth arnom ni fel unigolion yma – mi fydd fy nghyfreithiwr i mewn cysylltiad...!
awdur:Gwenan Roberts
cyfrol:424, Mawrth 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com