Mwy o Ymateb
Bu theatr yn holi barn nifer o unigolion am y strategaeth ddrafft. Mae’r atebion yn adlewyrchu teimladau cryf a chymysg.
PAM NAWR?
Mae yna sawl un wedi codi’r cwestiwn beth yw’r brys i gyflwyno strategaeth newydd yn awr, cyn sefydlu’r cynulliad, sef y sefydliad, yn ôl llawer, a ddylai fod yn penderfynu ar faterion mor bwysig â chreu theatr genedlaethol. Yn ôl Michael Baker, Cyfarwyddwr Celfyddydau Perfformio’r Cyngor, mae dau ateb i hynny. ‘Yn gynta’, oherwydd y wasgfa ariannol, mae yna lawer o’r newidiadau yr ydym ni’n eu hargymell yn rhai na allan nhw aros os yden ni am gynnig darpariaeth ddrama o safon in bobl Cymru. Yn ail, does yna ddim pwysau i ohirio wedi dod oddi wrth y llywodraeth.’
THEATR GENEDLAETHOL
Mae’r ddwy farn mor amlwg ag erioed. H.y. bwlch a throi’r dyfynnod ffordd arall. Mae Jeremy Turner, Arad Goch, ymhlith y rhai sy’n gwrthwynebu’r symudiad tuag at genedlaetholi’r theatr. ‘Mae hanes y theatr yng Nghymru yn dangos nad yw’r syniad o theatr genedlaethol yn gweithio. Mae’n hollol groes i natur ein diwylliant a’n cymdeithas ni, ac i realiti demograffig y wlad.’
Ond mae eraill o’r farn ei bod yn hen bryd inni gael sefydliad o’r fath, yn eu plith, yr awdur Ian Rowlands. ‘Mae gwledydd eraill, fel Iwerddon a Cwebéc, wedi gweld pwysigrwydd theatr genedlaethol. Mae angen i ni gael un hefyd. Fe fyddai’n ffocws i’n gweithgaredd theatrig ni, ac yn codi proffil Cymru yn llygaid gwledydd a diwylliannau eraill.’
Mae hyd yn oed y rhai sy’n fodlon cydnabod gwerth y syniad yn dweud bod angen trafodaeth gyhoeddus fanwl cyn creu sefydliad o’r fath, yn ogystal ag arian ychwanegol. Dyna farn Alison Woods, Brith Gof. ‘Mae yna gwestiynau sylfaenol iawn i’w gofyn. Beth yw theatr genedlaethol? Lle fyddai hi’n ffitio i mewn i’r darlun ehangach? ,ae’n rhaid sylweddoli hefyd ei bod hi’n fenter gostus. Mae’n rhaid cael arian ychwanegol o rywle. Heb hynny, fe fydd mathau eraill o theatr yn cael eu haberthu.’
Y THEATR GYMRAEG – Y CHWAER DLAWD?
Mae’r Cyngor yn addo £1 miliwn i Clwyd Theatr Cymru am bob un o’r tair blynedd nesaf i greu’r sefydliad cenedlaethol Saesneg, ond dywedir yn blaen iawn na fydd y sefydliad Cymraeg yn cael arian tebyg. ‘Ni fyddai cydraddoldeb o ran cyllid nac yn y swyddogaeth ei hun,’ meddir, mewn brawddeg sydd wedi cythruddo nifer o selogion y theatr Gymraeg. Bu Cymdeithas Theatr Cymru yn galw ers blynyddoedd am unioni’r cam, ond maent yn gweld y ddogfen fel arwydd fod y blwch yn mynd yn fwy yn hytrach nag yn llai.
Yn ôl Michael Baker, mae’r ffaith fod Clwyd Theatr Cymru yn derbyn nawdd mor hael gan Gyngor Sir Fflint yn ei gwneud hi’n haws i’r Cyngor wneud ymrwymiad ariannol sylweddol. Ond mae’n pwysleisio nad yw’r arian i Glwyd yn dwyn ceiniog oddi ar y gyllideb i’r theatr Gymraeg yn ei chyfanrwydd. Dywed hefyd fod y Cyngor yn anelu at gyfartaledd nawdd i’r ddwy iaith – tua 40% o’r arian drama sy’n mynd at y theatr Gymraeg ar hyn o bryd – ond na cheir hynny dros nos.
Er fod si fod Clwyd Theatr Cymru yn awyddus i gymryd cyfrifoldeb dros theatr bGymraeg yn ogystal, yn ôl Michael Baker mae’r cyngor o’r farn mai creu dau gwmni ar wahân sydd fwyaf priodol ar hynn o bryd, er nad yw’n gwadu na fyddai’n ‘demtasiwn’ ystyried y potensial iddynt gydweithio yn y dyfodol.
THEATR I BOBL IFANC
Mae’r wyth cwmni sy’n darparu theatr ar gyfer pobl ifanc ar hyn o bryd yn seiliedig ar yr wyth Awdurdod Addysg Lleol blaenorol. Dywed y cyngor mai ‘ariannu llai yn well’, unwaith eto, sydd y tu ôl i’r bwriad i haneru nifer y cwmnïau trwy hysbysebu pedwar cytundeb cyfnod penodol. Ond gofyn lle mae’r ffigyrau i ddangos ei bod hi’n bosib i wyth cwmni wneud gwaith pedwar y mae rhai sy’n gweithio yn y maes, fel Jeremy Turner. Ac ar ôl toriadau’r blynyddoedd diwethaf yng ngwariant awdurdodau lleol, a’r symudiad tuag at drosglwyddo’r gyllideb addysg yn uniongyrchol i’r ysgolion, mae ef ac eraill yn rhybuddio y gallai hyn fod yn ddiwedd ar draddodiad Cymreig unigryw o waith Theatr Mewn Addysg.
YSGRIFENNU NEWYDD
Ar hyn o bryd mae Dalier Sylw a Made in Wales â chyfrifoldeb penodol dros hyrwyddo ysgrifennu newydd. Bydd y ddau gwmni yn parhau i dderbyn nawdd refeniw yn ystod 1999-2000, ond bydd y Cyngor yn y cyfamser yn ymchwilio i ffyrdd i ddatblygu’r ddarpariaeth. Un awgrym yw troi Theatr y Sherman yn ‘d_ diogel’ ar gyfer ysgrifennu newydd, gyda rhyw fath o rôl i Dalier Sylw a Made in Wales. Ymhlith y rhai sy’n croesawu’r syniad hwn mae Ian Rowlands, er ei fod o’r farn mai un cwmni dwyieithog sydd ei angen, ac nid dau ar wahân. Mae’n gweld mwy o gyfle i hybu ysgrifennu newydd yn y fframwaith newydd nag yn yr hen un, gyda’r ‘t_ diogel’ yn bwydo gwaith i gwmnïau eraill, gan gynnwys y ddau sefydliad cenedlaethol.
MARWOLAETH YNTEU DECHRAU NEWYDD?
Pryder mwyaf y rhai sy’n amheus o’r syniad o ganolbwyntio adnoddai ar lai o gwmnïau yw colli yr amrywiaeth o waith sy’n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd. Mae dau gwmni eisioes wedi cael gwybod na fyddant yn cael nawdd refeniw ar ôl y chwe mis nesaf – Hijinx, sydd wedi arbenigo ar waith i bobl ag anghenion arbennig, a Brith Gof, sydd wedi bod yn creu theatr arbrofol ers dechrau’r wythdegau. Yn ôl Alison Woods, fe fydd hi yn awr yn amhosibl i Brith Gof ddal i lwyfannu gwaith yng Nghymru ac mae’n rhagweld y byddant yn canolbwyntio fwyfwy ar deithiau i wledydd tramor, gan chwilio am ffynonellau ariannu newydd. Mae hi hefyd yn gweld y symudiad cyffredinol tuag at ddisodli nawdd refeniw gyda grantiau prosiect fel cam gwag. ‘Pwrpas grantiau prosiect yw galluogi pobl ifanc, newydd i gael eu troed i mewn i’r proffesiwn, ac mae hynny’n beth da, ond nonsens yw’r syniad y bydd corff sylweddol o waith yn deillio ohonyn nhw.’
Yn ôl Ian Rowlands, fodd bynnag, mae’r cynlluniau newydd yn cynnig hyblygrwydd y mae mawr ei angen. ‘Ar hyn o bryd, mae yna arian ynghlwm wrth syniadau sydd bellach wedi marw, ac mae angen ei ryddhau. Mi fydd yna golli swyddi, yn anffodus, ond dyw Cyngor y Celfyddydau ddim yna i dalu pensiwn i neb. Maen nhw yna i ariannu’r theatr orau bosib i Gymru. Mae rhai’n gweld y strategaeth newydd fel marwolaeth y theatr yng Nghymru, ond mae pob diwedd yn ddechrau.’
awdur:Menna Baines
cyfrol:424, Mawrth 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com