Pedwar Llais
State of Play: Four Playwrights of Wales, Gol. Hazel Walford Davies, Gomer, £19.95
Dyma stepen drws o lyfr sy’n taflu goleuni, na, sy’n llifoleuo gwaith pedwar dramodydd Cymreig – dau fewnfudwr, Greg Cullen a Charles Way, Dic Edwards, yn enedigol o Gaerdydd, a’r Cymro Cymraeg, Edward Thomas. Dyma bedwarawd gwahanol iawn o ran eu cynnyrch hefyd, pedwar perspectif gwahanol sydd, gyda’i gilydd, yn cynnig rhyw fath o weledigaeth, ac yn sicr tystiolaeth ddigon fod y theatr yng Nghymru – sydd wedi ei chladdu cyn ei dydd sawl gwaith yn ddiweddar – yn fyw ac yn iach. Nid yw talent wastad yn hawlio cynulleidfa.
Tarddodd y gyfrol o gyfres o weithdai a drefnodd Hazel Walford Davies yn Theatr y Werin yn Aberystwyth yn 1997. Gyda phedwar ar hugain o draethodau newydd, ynghyd â saith deg o luniau cynyrchiadau, mae yma bron i bedwar cant a hanner o dudalennau heriol, dadleuol a dadansoddol.
Mae’n anodd gwybod yn iawn pwy yw darllenwyr llyfr o’r fath, gydag arddulliau ysgrifennu yn mynd o’r slic i’r astrus yn ddisymwyth. Ond yn ei rhagarweiniad mae Hazel Walford yn dweud bod y gyfrol yn ateb angen gan weithwyr theatr, beirniaid, academyddion, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd am berspectifau beirniadol ar waith dramodwyr sydd, a dyfynnu, yn ‘working out of Wales at this time’. (Defnyddia’r golygydd yr ymadrodd Americanaidd ‘working out of’ yn fwriadol, i gwmpasu’r amrywiaeth o ffyrdd y mae’r dramodwyr yn defnyddio Cymru yn eu gwaith). Does dim dwywaith fod beirniadaeth ddeallus ar ddrama wedi bod yn brin iawn yng Nghymru ac mae llyfr fel hwn yn gam i’r cyfeiriad iawn, ac yn ychwanegiad at lyfrau diweddar megis Staging Wales a Stage Wales. Teimlais, er hynny, fod un traethawd bron yn annarllenadwy, sef ‘Tryweryn of the Soul’, astudiaeth David Rabey o ddrama Ed Thomas, Flowers of the Dead Red Sea. Gallwn ddyfynnu o unrhyw ran o’r traethawd ac ennill lle yn ‘Pseuds’ Corner’ yn Private Eye.
Ceir yn y gyfrol adolygiadau, a gyhoeddwyd mewn gwahanol lefydd, o weithiau’r pedwar, a darllenais y rhain gan sylweddoli pa mor enbyd o isel yw lefel deallusol y sylw i ddrama yn y papurau dyddol. Yn aml nid yw ‘adolygiad’ yn ddim byd mwy na broliant y cwmni ei hun wedi ei ailwampio.
Y traethawd mwyaf heriol, yn ei ffordd, yw ysgrif Dic Edwards o Lanbed amdano’i hun, lle mae’n esbonio pam na fedr ei ystyried ei hun yn Gymro. Mae’n meddwl bod undod yn angenrheidiol ar gyfer diwylliant a bod ‘Wales’ heb yr un undod â ‘Cymru’, gan fod gan Gymru iaith sy’n medru uno. Esbonia mai drama Eugene O’Neill, Bound East for Cardiff, oedd un o’r dylanwadau cyntaf arno. Mae pobl sy’n byw mewn porthladdoedd wastad yn edrych allan, dros y môr, tuag at y byd, yn ôl Dic Edwards, a dywed mai felly y mae yntau’n chwilio am ddeunydd i’w ddramâu. Mae’n esbonio sut y mae twpdra yn un o’i themau cyson. Cawn gliw hefyd pam nad yw’n ddramodydd mwy ffasiynol. Ei fentor, Sophocles i’ws Glaucon, yw Edward Bond, a chawn hanner deialog-trwy-lythyr rhwng y ddau - mae’n biti na chawn ddarllen llythyrau Dic Edwards. Nid yw Bond yn ffasiynol bellach ac mae yna beryg fod disgybl yn dilyn ei athro at allor anffasiynoldeb. Mae’r ddau, yn eu gwahanol ffyrdd, yn awduron gwleidyddol, gyda dicter yngl_n â’r byd a’i bethau – pethau fel annemocratiaeth ac annhegwch dyn tuag at ei gyd-ddyn – heb fod ymhell dan wyneb eu geiriau. Ond does dim amheuaeth yngl_n â’u crefft.
Mae’r ‘bardd llwyfan’ na’r proffwyd diwylliannol hwnnw, Ed Thomas a’r unig un o’r pedwar sy’n obsesiynol yngl_n â Chymru – yn hawlio ychydig mwy o sylw na’r tri arall a chawn gyfweliad rhwng golygydd y gyfrol a’r Mesmer o Gwmgiedd. Cynhaliwyd y cyfweliad hwn yn America, gyda’r dramodydd yn rhannu ei obeithion y bydd Cymru’r dyfodol yn wlad sydd wedi tyfu lan, wedi’i diffinio ei hun ac sy’n rhydd o ystrydebau. Mae’n cyffesu nad yw’n mynychu’r theatr rhyw lawer. Mae ganddo lein ar hyn, dyfyniad parod am y llall. Mae gan y dyn farn am bopeth. Dim rhyfedd felly fod David Adams yn agor ei draethawd ef am y dramodydd gyda rhybudd am ei huotledd: ‘Edward Thomas... soundbites supplied...at best a committed but hopelessly romantic rent-a-gob’. Ond mewn ymdriniaeth ddeallus, mae’n dangos bod yna fwy na hynny i’r efengylwr a’r entrepeneur diwylliannol hwn, gan ddadlau yn argyhoeddiadol taw’r teulu, yn llythrennol ac yn drosiadol, yw gwir destun ei waith.
Mae Katie Gramich yn chwilio am y fam goll yng ngwaith Edward Thomas ac yn asesu’r tadau diffygol. O’i safbwynt ffeminyddol cred hi fod y ffordd y mae’r dramodydd yn gwawdio gwrywdod y dynion ac yn parodïo’r Fam Gymreig yn ei ddramâu yn ansefydlogi’r status quo patriarchaidd.
Mae Charle Way, fel Edward Thomas, wedi ei swyno gan America ac mae ei draethawd ar Dead Man’s Hat yn cymharu’r ddrama â’r ffilm Shane. Dyn tawel, addfwyn yw Charles Way a thra mae Edward Thomas a’i gwmni Fiction Factory yn harneisio holl rym y peiriant marchnata, mae presenoldeb yr awdur hwn yn llai amlwg. Ar ddiwedd ei ysgrif amdano’i hun mae’n rhannu ei obeithion am gwmni drama Cymreig sydd yn aeddfed, sy’n gweithio dan arweiniad cryf ac sy’n gyfartal gyda chwmnïau sydd wedi cael canfas mawr i weithio arno – adlais o’r hen freuddwyd am theatr genedlaethol efallai.
Mae Charles Way wedi ysgrifennu nifer o ddramâu ar gyfer plant, gan ddangos dawn ddiamheuol i ddiddanu cynulleidfa ifanc heb fod yn nawddoglyd nac ysgrifennu dros eu pennau. Mae hefyd wedi mentro i fyd teledu, ac roedd adolygiad gan y bardd Nigel Jenkins o’i gerdd deledu ‘No Borders’ yn f’atgoffa am y farddoniaeth sydd i’w chlywed yn holl waith yr awdur hwn. Dyma sut mae’n disgrifio bywyd y rheini sydd yn eu harddegau ac yn byw mewn trefi bychain ar y Gororau: ‘Time passes slowly for the young/ in these dull towns, until that kiss,/ that lifts the gate/ and lets them through/ leaving the child staring back...’
Dewisia Greg Cullen – brodor o gymuned Wyddelig Llundain, ond yn byw yn Llandrindod ble mae’n gyfarwyddwr Theatr Ieuenctid Canol Powys – ganolbwyntio yn ei ysgrif amdano’i hun ar ei ddrama Frida and Diego, am yr artistiaid o Fecsico. Dywed mai’r hyn y mae ei fagwriaeth ddosbarth gweithiol wedi’i roi iddo yw ansicrwydd, trwy ei roi mewn sefyllfa lle mae pobl yn tanbrisio ei waith ac yntau heb yr hunanhyder i wneud unrhyw beth yn ei gylch. Gwêl ei waith mewn ffordd syml: mae’n gweld ei hun rywle rhwng geni a marwolaeth ac yn gweld ei waith ysgrifennu fel ffordd o geisio dysgu sut i fyw a pha bethau sy’n werthfawr. Yn ei ysgrif ar ei waith mae David Ian Rabey yn agor gyda’r syniad y byddai Greg Cullen, petai’n nofelydd o America Ladin, yn ennill parch a bri yn go sydyn oherwydd y byddai’n bosib wedyn ei gategoreiddio fel realydd hudol, fel Isabel Allende a Gabriel Garcia Marquez. Dramodydd yw hwn sy’n gweu chwedlau cain sydd wedi eu gwreiddio yn realiti gothrwm gwleidyddol. Wrth ddarllen amdano teimlais gywilydd nad ydwyf wedi gweld yr un ddrama o’i waith ar lwyfan, ond o leiaf mae’r sylw a gaiff yn State of Play yn sicrhau y bydd un pen ôl arall mewn rhyw theatr neu’i gilydd ym Mhowys yn y dyfodol.
Mae’r llyfr yn cloi gyda dau draethawd sy’n chwilio am yr hyn sy’n gyffredin – neu ddim yn gyffredin – rhwng gwaith y dramodwyr. Mae Roger Owen yn ystyried sut y mae metafforau cymdeithas a chenedl yn gweithio yn nramâu Charles Way, Dic Edwards ac Edward Thomas. Mae cymeriad Dic Edwards byth a beunydd yn cynnig llwyfan i ddadleuon yngl_n â democratiaeth. Mae Charles Way yn dewis dwy ffordd i greu perthynas – i’w gymeriadau mae yna deulu i berthyn iddo, ac i’r actorion a’r gynulleidfa mae yna gymuned i fod yn rhan ohoni. Man i freuddwydio yw’r llwyfan i Edward Thomas, man ble mae realiti yn cael ei ailddiffinio’n gyson gan y cymeriadau. Pair Dadeni Yw’r theatr i’r dramodydd hwn, medd Roger Owen, a gall yr egni ar gyfer yr adfywiad ddod o bron unrhyw gyfeiriad. Iaith, yn anad dim, sy’n caniatáu’r dadeni, yn enwedig mewn drama megis Flowers of the Dead Red Sea, ble mae chwarae ar eiriau, dyfyniadau a jôcs yn cymysgu yng nghawl y lladd-dy ble mae Mock a Joe, fel Vladamir ac Estragon, yn aros i rywbeth ddigwydd.
Yn y traethawd olaf mae Gill Ogden yn trafod ‘America a Theatr y Cenhedloedd Bychain. Gan ddyfynnu Robert Crawford a ddywedodd ei fod yn ‘nodweddiadol o lenyddiaethau llai fod popeth ynddynt yn wleidyddol,’ mae’n nodi’r ffaith taw er mai Edward Thomas yw’r unig un sy’n datgan bod ganddo ddiddordeb mewn hunaniaeth genedlaethol, fod Dic Edwards a Charles Way hefyd yn ein hatgoffa am rôl theatr fel yr unig le ar ôl ble gellir trafod pethau’n gyhoeddus. Trafodir yma le’r Freuddwyd Americanaidd yn ein bywydau ni a’n cymdogion Celtaidd. Yn draddodiadol mae hunaniaeth cenedl fechan yn troi ffeithiau hanesyddol yn chwedlau byw, yn gwasgu emosiynau mawr o ddigwyddiadau a mythau megis Brad y Llyfrau Gleision, Newyn Iwerddon, Madog a hanes y Wladfa. Ceir yma gyd-destun defnyddiol iawn wrth gasglu tystiolaeth am sut mae Brian Friel, Arthur Miller, Dic Edwards, Marie Jones et al. Yn delio gyda thema mor fawr.
Dyma lyfr sydd nid yn unig yn talu sylw manwl i waith llwyfan cyfoes, ond sydd hefyd yn anrhyddedu’r dramodydd – yn cyhoeddi ei fod yn werth ei drafod a bod ei waith yn werth ei weld. Yn hynny o beth mae Hazel Walford wedi gwneud cymwynas â;r theatr, gan roi inni un prawf arall nad ydym cweit mor anweladwy ag yr ofna Edward Thomas. Cawn weld beth ddaw o ymgynghoriad Cyngor y Celfyddydau yngl_n â dyfodol y theatr. Yn y cyfamser bydd y llyfr yma’n ein hatgoffa ni fod dramodwyr da, yn oes y sinema a’r Nintendo, yn dal i osod cymeriadau ar lwyfan i chwilio am eu gwirioneddau, a thrwy hynny am ein gwirioneddau ni.
awdur:Jon Gower
cyfrol:424, Mawrth 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com