Chwilio am Wlad Bell
Y Madogwys gan Gareth Miles, Dalier Sylw, Cyfr. Bethan Jones
Wn i ddim beth wnaeth i mi’ sylweddoli ‘mod i wedi byw yn fy nghartref mabwysiedig yn Y Waunfawr bellach am yn fwy nag y bûm yn byw adra’ yn Aberystwyth lle’m maged. Ydw i’n perthyn i’r naill le neu’r llall erbyn hyn, ynteu i’r ddau? Oes ots? Ond dysgais chwedlau’r ddau le.
Dysgais am chwedlau a hanes Aber yn yr ysgol gynradd, ac yna, llwyr stop ar chwedlau lleol, yn sicr nes i mi adael yr ysgol uwchradd. Rywbryd yn ystod hyn i gyd, deuthum yn ymwybodol o hanes Madog a’r Indiaid Cymreig, a rhan John Evans, y Waunfawr, yn y stori – ond cybolfa gymysglyd oedd y cyfan Blith draphlith ar draws ei gilydd, roedd adrodd ‘Wele’n cy6chwyn dair ar ddeg’, Grym y Lli (cyfrol fuddugol Medal Ryddiaith Eisteddfod y Fflint, 1969, awdur Emyr Jones o’r Waunfawr), parodi Ryan a Ronnie ar ‘Wele’n cychwyn’ – Go he is to put his foot/ Where never before a foot was put...’, Madog T.Gwynn Jones. Ydw, rydw i’n ymwybodol o’r chwedlau.
A rwan dyma wasgu i mewn i’r Ganolfan yn y Waunfawr, efo pawb dwi’n nabod a thipyn mwy, i wylio noson gyntaf drama gan frodor o’r Waun. Nid noson drama bentref ydi hi chwaith, efo golygydd nid anenwog (o’r Waun eto) wrth f’ochr, yn sgriblo mor galed â minnau, Indiaid yn y cast, ffrindiau na welais mohonynt mewn drama o’r blaen yn gwasgu i fyny ar y meinciau cul, fy mhen yn llawn o s_n, o ddyfalu ac o ddisgwyl.
‘Mae hi’n wahanol’. Ydi, os ydach chi’n disgwyl drama bentref. Ond nid dyna rydw i’n ei ddisgwyl gan Gareth Miles. Mae yna gyd-destun rhyngwladol, mae yna neges wleidyddol, bron o’r cychwyn, er eu bod wedi lapio’n drwm iawn ar y cychwyn mewn sain a rhythm a cherddoriaeth. Noson o gelfi arti-ffarti? Hmm, sut fydd y Waun yn cymryd hyn? Fasa’n well ganddyn nhw fersiwn saff o ‘biopic’ am John Evans, eu harwr lleol? Ac y mae yma dair iaith. Gwyliwch y chwedlau’n dirwyn.
O’r miwsig a’r rhythm ar y dechrau, dyma ni’n cael chwedl y creu. Mae hyn yn digwydd yn eu hiaith frodorol nhw, ein hiaith frodorol ni – ac mewn Saesneg Americanaidd. Wrth gwrs mai Saesneg felly sydd gan Alex Rice, a hithau’n dod o’r wlad. Ond mae’n dal yn ysgytwad diwylliannol, oherwydd y math o eiriau sy’n dod allan: Rydan ni wedi ein cyflyrru i dderbyn dim ond deialog Hollywood neu rethreg Arlywyddol yn yr acen arbennig hon. Ond beth gawn ni ydi dechreuad y byd, a dechreuad pobl.
Mae’n hawdd adnabod y chwedlau, wrth i’r storïwyr ddechrau sôn am rawn yn cael ei lyncu gan aderyn, a sut y tyfodd yr egin; am eni gwyrthiol o forwyn. Mae yna bethau yn ein clymu. Yn sydyn, rydan ni draw o fyd y rhythm a’r gân, ac yn ôl yng Nghymru, lle mae Dafydd Ddu Eryri yn bytheirio wrth ei ddisgybl John Evans yn erbyn ‘anffyddwyr, republicaniaid tinboeth a gelynion Eglwys Lloegr’. Dafydd Ddu, oedd â’i gartref i lawr y lôn o’r Ganolfan, John Evans oedd â’i gartref fymryn yn nes. Ond mae o am deithio’n bell. Ydan, rydan ni fymryn yn bellach oddi wrth y miwsig a’r symud yma, ac yn nes at y geiriau. A chan mai Gareth Miles ydi’r awdur, rydan ni’n saff o fod yn ymwybodol o’r wleidyddiaeth y tu ôl i’r freuddwyd – yn fwy fyth felly pan symudwn i Lundain, a chymdeithas y Cymru alltud yno.
John Evans ddirwestol, a’i sê dros grefydd a thros y freuddwyd o ddarganfod yr Indiaid Cymraeg – heb sôn am eu hennill i Grist. Mae’r geiriau crefftus ac ac ystumiau cynnil Arwel Gruffydd yn ein hargyhoeddi o ddidwylledd y creadur bach o’r Waun yng nghanol Gehena Llundain – ond rydan ni hefyd yn nabod y criw sydd yn o’i amgylch, a’r peryglon sy’n ei wynebu: nid yn unig peryglon sydd eisioes yn bygwth dinistrio ei ddiniwedrwydd.
Yn ôl y chwedlau erbyn i John Evans gyrraedd America – ond mae cysgodion gwleidyddiaeth a dichell eisioes yn cau o’i gwmpas. Mae’r stori yn symud yn ei blaen yn gynt pan fydd John, druan, yn cael siarad a thrafod a dadlau a phleidio efo’r gwleidyddion – ond y mae cip ar ddefod a miwsig yn dod yn aml, yn arwydd cryf o’r ddau fyd a’r ddeuoliaeth. Nid brodorion diniwed mo’r Indiaid chwaith: y mae ganddyn nhw eu hystrywiau; ‘Cymanfa falu awyr fydd y gynhadledd heddwch’, medd un o’r trefedigaethwyr. Plus ca change ... Mewn ddrama donnog, anodd dweud a oedd uchafbwyntiau. Ond y darnau llafar oedd y darnau cofiadwy i mi, ar waetha’r elfen o basiant a o chwedl. A does dim darn mwy ingol na’r olygfa o John Evans, druan, wedi cyrraedd y Mandaniaid o’r diwedd ac yn ymdrechu i siarad â nhw yn Gymraeg – ac yn methu’n llwyr. Mor ddigri, a chithau jest â chrio.
Ydi’r chwedl yn fyw? Mae’r uchafbwynt yn awgrymu hynny, gyda’r ddawns a churiad drymiau, a dwyn y gynulleidfa i mewn, yn awgrymu undod. Ond a oes gormod yn cael ei adael i awgrym a rhythm a dawns? Roedd y geiriau cystal, awchai rhywun am fwy. Ond wedyn, un ochr i ddiwylliant ydi hynny. Hwyrach nad ydw i eto yn llawn un o frodorion y pentre byd-eang.
awdur:Meg Elis
cyfrol:424, Mawrth 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com