Y Madogwys a Dalier Sylw
BETHAN JONES, cyfarwyddwr artistig y cwmni, sy’n disgrifio’r siwrnai hyd yn hyn
Pan ddarllenais ddraft cyntaf ddrama Gareth Miles, Y Madogwys, ces fy nharo gan gryfder y stori liwgar, anturus, ac wedi deall bod deuganmlwyddiant marwolaeth John Evans yn nesáu, roeddwn yn ei weld fel cyfle rhy dda i’w golli. Y bwriad gwreiddiol oedd creu rhyw extravaganza prif lwyfan, ond wrth weithio ar y testun daeth yn amlwg i mi nad dyma’r arddull orau ar gyfer y darn. Gan fod Antur Waunfawr yn trefnu dathliadau cymunedol ar gyfer y deuganmlwyddiant, roedd yn bwysig mai yn y fan honno y byddai’r sioe yn agor, ynghanol cymuned John Evans gynt. Yn wir, wrth ddarllen mwy am ddiwylliant y brodorion Indiaidd y daeth John Evans ar eu traws, yn enwedig am eu traddodiad llafar o adrodd storïau am hanes y llwyth, deuthum i’r casgliad mai cynhyrchiad i gymunedau ddylai Y Madogwys fod. Roedd yn galw am arddull a fyddai’n caniatáu i ni ddod yn agos at y gynulleidfa i drosglwyddo iddynt stori anurus sy’n cyfuno elfennau o ddiwylliant a thraddodiadau cenhedloedd yr Indiaid brodorol a ddioddefodd gymaint o dan mewnfudwyr Ewropeaidd.
Cefais wybod bod carreg fawr ym mynedfa’r amgueddfa frodorol yn Efrog Newydd, gyda’r geiriau canlynol wedi’u torri arni – ‘We are still here’. ‘ ‘Den ni yma o hyd,’ chwedl Dafydd Iwan. A dyma ddechrau ar y syniad o weu’r diwylliant brodorol a diwylliant Cymru ynghyd i greu cynhyrchiad cerddorol a gweledol cynhyrfus.
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Wrth gwrs roedd rhaid sicrhau perfformwyr gyda sgiliau cerddorol, offerynnol a lleisiol, a oedd hefyd wedi’u trwytho yn y diwylliant traddodiadol Cymreig. A phwy fyddai â’r sgiliau drymio, canu a dawnsio brodorol? Roedd yr ateb yn amlwg, ond sut a lle roedd cael gafael arnynt? Buom yn ffodus yn ein cysylltiad â’r American Indian Trust ym Mryste. Mae ein cydweithrediad â Carlisle Antonio, rheolwr yr ymddiriedolaeth, sydd ei hun o dras Lakhota-Cheyenne y Gogledd, wedi arwain at gysylltiadau a fyddai wedi bod yn anodd iawn i ni ein hunain eu crest. Bydd tri Indiaid brodorol yn cymryd rhan yn y sioe gan gynnwys Carlisle, sy’n arbenigo mewn caneuon protest – Dafydd Iwan ei bobl ei hun efallai!
Ar ôl dilyn siwrnai John Evans trwy’r cynhyrchiad, a chael blas ar ddawnsio a chanu cyfarwydd a dieithr iawn, bydd y noson yn gorffen gyda chyfle i ymuno mewn cân a dawns sy’n asio’r ddau ddiwylliant mewn ffordd gyfoes. Adlais o’n cydweithrediad ni, ac o gydweithrediad John Evans â llwyth y Mandiaid. Ai nhw oedd y Madogwys, disgynyddion Madog? A fyddwn ni’n cychwyn ton arall o ‘Madogmania’? A yw’r chwedl yn dal yn fyw? Dewch i weld y sioe!
awdur:Bethan Jones
cyfrol:431/432, Ionawr 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com