Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y Theatr Lawn

Coron Driphlyg, ond dim Grand Slam, oedd hi i fersiwn llwyfan Amdani, medd MELERI WYN JAMES, wrth adolygu cynhyrchiad syn cylchdroi ir dim yr ymdrech i greu theatr boblogaidd.

Roedd y theatr yn llawn. Ac roedd hynnyn gyffro ynddoi hun. Go wir. Pryd fuoch chi ir theatr ddiwethaf yng Nghymru, i weld cynhyrchiad proffesiynol, a chael eich colli mewn mr o wynebau? Pryd fuoch chi ir theatr ddiwethaf?

Yn hyn o beth, roedd Sgript Cymru wedi llwyddo gydau cynhyrchiad diweddaraf, Amdani. Coeliwch fi, rwy wedi eistedd droeon yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth a theqatrau eraill hefyd yn un o lond llaw o selogion. Ac mae hynnyn cynnwys cynhyrchiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os mai poblogeiddiorddrama yng Nghymru oedd y bwriad, roedd Sgript Cymru wedi rhoir pwyntiau cyntaf ar y bwrdd sgorio. A beth oedd wedi denu pobl o bob oed - a hynny yn eu degau? Wel, ffenomen Amdani, stori hynod boblogaidd Bethan Gwanas am griw o ferched syn codi eu hunain uwchlaw eu bywydau diflas bob dydd trwy ffurfio tm rygbi. Mae eisioes wedi esgor bestseller yn y byd a phedair cyfres deledu boblogaidd ar S4C. Ac os oedd y gynulleidfa yn Aber yn faen prawf, mae ganddi fwy o ffans na thm rygbi Cymru. Ond yn hynny o beth roedd fy mhroblem gyntaf i. Beth yw pwynt y cynhyrchiad? Oherwydd, os ydych chi fel fi fe fyddwch wedi darllen y llyfr a gwylior gyfres deledu. Beth yn fwy allai cynhyrchiad theatrig ei gynnig?

Nid dymar tro cyntaf i gyfres deledu boblogaidd Gymraeg fynd ar y llwyfan. Rwyn cofio gweld y gomedi Cmon Midffld rai blynyddoedd yn l a chael blas anghyffredin arni hefyd. Ond mantais honno, wrth gwrs, oedd ei bod hin gyfres deledu episodig. Roedd stori newydd bob tro. Gallair cwmni theatr gymryd cymeriadau hoffus y gwreiddiol au rhoi nhw ar y llwyfan mewn antur hollol newydd.

Ond beth am Amdani? Beth oedd hi am ei wneud? Ron in falch i weld dau o gast gwreiddiol y gyfres deledu - dau or prif actorion, Ffion Dafis a Dafydd Emyr. Roedd eu presenoldeb yn ddymunol o safbwynt marchnata ond ddim yn gwbwl angenrheidiol yn fy marn i. Wedi dweud hynny, roedd yna gyffro mawr pan ddaeth Dafydd Emyr ar y llwyfan. A mwy o gyffro byth pan dynnodd ei dracsiwt yng ngwydd y gynulleidfa a dangos ei siorts! Ai cyd-ddigwyddiad oedd y ffaith bod mwy o fenywod na dynion wedi dod i wylio?

Doedd hi ddim yn sioe uchelgeisiol. Go brin fod yna rywbeth newydd iawn yn y dweud nar llwyfannu. Ond beth ywr ots am hynny? Dw i ddim yn un or purion syn meddwl bod yn rhaid i bob darn o gelfyddyd addysgu ac ehangur meddwl. Pam na ddylid cael stwff syn ddifyr ac syn ddoniol a dyna hi. Maen gas gen i bobl syn bychanu pethau poblogaidd oherwydd eu bod yn cyrraedd cynulleidfa.

Ar lwyfan, roedd y storin dechrau ar y diwedd. Priodas ond priodas pwy? Wrth gwrs, os ydych yn gyfarwydd r stori maen siwr eich bod wedi dyfalu mai priodas Beryl a Jac (cyfuniad o Emyr a Jac y gyfres) oedd hi. Ond pam roedd Llinos wedi ei halltudio allan yn y glaw? Yn yr olygfa nesaf, rydym ni yn l yn y lownj gydar merched yn un criw cegog. Maen nhwn mwynhau take-away a gwin ac yn cwyno am ddynion. Yn sydyn, maer syniad yn dod y dylid dechrau tm rygbi.

Rych chin cymryd at y merched or dechrau, diolch i berfformiadau cryf yn arbennig oddi wrth Ffion Dafis (Llinos) a Sara Lloyd (Sin Caerberllan). Mae Sara Lloyd, yn arbennig, yn seren go-iawn. Dyma chi actores gomig ardderchog. Hi oedd Nicola yn Dosbarth Geraint Lewis. Roedd hin mynnu sylw ac yn dwyn pob golygfa oddi ar y lleill. Mewn un man maen actio rhywun meddw syn tro bod yn gall ac yn sobr ond ydyn ni gyd wedi bod yno? Maen gwneud rhywbeth mor syml thrio gosod ei chwpan ar y llawr mewn t_ dieithr heb sarnu. Fedrwn im tynnun llygaid oddi arni.

Roedd fflachiadau ysbrydoledig yn y cyfarwyddo, e.e y ffordd y portreadir y lleill yn ennill y blaen ar Sin Caerberllan ar y cae chwarae. Roedd y defnydd o gerddoriaeth (sydd wedi dod yn dipyn o trademark i Sgript Cymru) hefyd yn gweithion dda. Ond os oedd hin gynhyrchiad da, fe ellid fod wedi cael un llawer gwell.

Roedd y hanner cyntaf yn hir rhyw awr a hanner i gyd. Yn yr amser hynny, cafwyd y cyfuniad disgwyledig or difyr ar dwys. Roedd y dafodiaeth yn llifon naturiol fel y byddai rhywun yn disgwyd gan awdures mor brofiadol Bethan Gwanas ac roedd yna ddigon o chwerthin hefyd a ni ddylid bychanu camp rhywun syn llwyddo i wneud i bobl chwerthin.

Ond roedd rhai golygfeudd yn teimlon hir. Roedd y golygfeydd ble roedd merched yn dechrau chwarae rygbi yn teimlo fel gwerslyfr ar sut mae chwaraer gm. Er mor addysgol, don nhw ddim cweit yn ddigon difyr. Os oedd hin stori am roi hawl ac awdurdod i fenywod, tenau iawn oedd y chwaeroliaeth. Ac, ar adegau, roedd y ffraeo di-baid yn fwrn ar rywun. Mae cynulleidfa yn blino ar bobl yn gweiddi.

Y gwendid go-iawn oedd yr ail hanner. Ar l hanner cyntaf hir, cafwyd ail hanner gwallgo o fyr (rhyw hanner awr/deugain munud). Ar ddiwedd y rhan gyntaf fem gadwyd yn y lle disgwyliedig Llinos yn cyhoeddi ei bod yn disgwyl babi Gareth (Dafydd Emyr). Ond yn yr ail hanner roedd T_ Jac yn chwalun racs jibidrs. Roedd Llinos yn dewis diwrnod priodas un oi ffrindiau gorau i drio codymu Wayne. Ar babi ar y ffordd false alarm, fel maen digwydd yn dro hwylus i wneud i Wayne ail ystyried ei gyfrifoldeb iw wraig anffyddlon.

Ar l hanner cyntaf hwyliog, roedd y laffs yn denau ar terfyn yn dod yn ffwrbwt. Nid uchafbwynt a gafwyd ond anti-climax. Ac roedd hynnyn siom. Un peth yw gwneud ymdrech fwriadol i ddenu cynulleidfa ond maen rhaid eu gadael gydar awydd i ddychwelyd ac i drio, pwy a _yr, rhywbeth dipyn bach yn fwy uchelgeisiol, a fwy arbrofol, y tro nesaf. Ai dyna fydd cynhyrchiad nesaf Sgript Cymru efallai? Oherwydd fel cwmni maen nhw wedi llwyddon ddiweddar i gyfunor ysgafn (Dosbarth) gyda chyfle i awduron newydd fel finnau (Diwrnod Dwynwen) ac ymestyn cynulleidfa gydar profiadol (cynhyrchiad gwych Indian Country gan Meic Povey). Coron driphlyg felly, ond dim Grand Slam.

awdur:Meleri Wyn James
cyfrol:489, Hydref 2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk