Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Milltir Sgwr a Mwy

Theatr Felin-fach yw theatr fwyaf gwledig Cymru, ac un or rhai sydd mwyaf o hawl ir label cymunedol. Ond beth yw ystyr hynnyn ymarferol? MENNA BAINES fun siarad ag Euros Lewis, syn arwain y gwaith.

Byddair dyn syn rhedeg Theatr Felin-fach wrth ei fodd yn gollwng y gair theatr o enwr lle, ond peidiwch, ar boen eich bywyd, ag awgrymu Canolfan y Celfyddydau, Felin-fach, fel gwelliant. I Euros Lewis, mae theatr, a celfyddydau yn fwy byth, yn eiriau syn sawru o elitiaeth; mae canolfan, wedyn, yn awgrymu mai dim ond rhwng muriaur adeilad dan sylw y maer cyfryw weithgaredd yn digwydd. Maer cyfan, meddai, yn hollol groes i ethos y lle, gydai bwyslais nid ar genhadu dros y celfyddydau ond ar gefnogi a datblygur diwylliant sydd eisioes yn yr ardal. Y gwahaniaeth, iddo ef, yw mai carfan o bobl syn ymhel r celfyddydau, ondbod diwylliant yn rhywbeth syn perthyn i bawb.

Yn ogystal bod yn theatr, mae Theatr Felin-fach yn ganolfan ar gyfer addysg gymunedol, gwaith ieuenctid creadigol a hyfforddi a darlledu cymunedol. Mae cip ar y prospectws yn dangos bod y camps yn lle prysur rownd y flwyddyn, rhwng gweithdai a chlybiau drama a dawns, cynyrchiadau gan gwmnau o bob oed, gweithgareddau ieuenctid, prosiectau radio a fideo, a chynlluniau dysgu-o-bell. Mae traean y staff o ddeunaw yn staff dysgu, ar gweddill yn gweithio ar yr ochr weinyddol a thechnegol. Yr hyn syn clymur holl weithgareddau ynghyd ywr nod cyffredinol o ddarparu cyfleoedd addysgol yn y gymuned trwy gyfrwng y celfyddydau, gydar pwyslais ar y cyfryngau ar celfyddydau perfformiadol, yn enwedig drama.

Drama, yn l Euros Lewis, yw cyfrwng diwylliannol naturiol yr ardal. Fel darlithydd drama y daeth ef ei hun i Theatr Felin-fach ddwy flynedd ar hugain yn l, ac fel actor yi hyfforddwyd. Ond wrth ddisgrifio athroniaeth y lle, maen sn llawn cymaint am economir ardal a materion cymdeithasol ag am egwyddorion theatr. Mae hynny, meddai, o raid.

Mae ein diffiniad ni yma o waith creadigol cymunedol yn wahanol i ddiffiniad cwmne drama cymunedol, dyweder. Nid mater yw e o fynd i mewn i ardal, creu darn o waith yno, ac yna symud ymlaen i rhywle arall i dechre to. Mae rhywun i mewn ynghanol y gymuned, yn rhan or hyn y mae newidiade cymdeithasol ac economaidd yn effeithio arno, ac mae rhywun yn goffo byw gydar methianne yn ogystal r llwyddianne.

Maen rhaid felly wrth ddealltwriaeth a bob agwedd ar fywyd yr ardal a bywyd y Gymru wledig yn gyffredinol. Dyna pam fod y theatr yn cydweithion agos gyda chyrff fel Menter a Busnes ar Awdurdod Datblygu. Yr un yw nod pawb ohonon ni yn y pen draw, sef ysbrydoli pobl i gymryd y dyfodol yn eu dwylo eu hunain.

Nid hap a damwain yw fod drama radio ddyddiol Theatr Felin-fach, syn cael ei darlledu ar Radio Ceredigion, yn troi o gwmpas cop ffermwyr. Mae sawl menter gydweithredol amaethyddol or fath iw cael yng Nghymru, a bu Euros Lewis ai griw mewn cysylltiad rhai ohonynt wrth ymchwilio ar gyfer Bontlwyd.

Roedd en agoriad llygad. Mae trosiant rhai or cops man cymharu throsiant rhai or cwmne mwya yng Nghymru. Dyn ni ddim yn siarad man hyn am bytu cwpwl o ffermwyr yn y mart Woodbines yn eu penne, nin siarad bytu dynion busnes caled iawn syn fuddsoddwyr arian o fri, au dealltwriaeth nhw or economi wledig gydar ddealltwriaeth fwya dwfwn sydd iw chal.

Wrth seilio Bontlwyd ar gop amaethyddol, roedd modd nid yn unig drafod rhai or problemau syn rhan o fywyd cefn gwlad ond hefyd ddangos cymuned yn gweithredi drosti ri hun wrth ymateb ir problemau hynny. Polisi anysgrifenedig Theatr Felin-fach yw cydnabod argyfyngau lleol ond gan ganolbwyntio ar yr un pryd ar y cadarnhaol ar gobeithiol. Mae comedin ffordd ddelfrydol o fynegi rhwystredigaethau. Sbengllyd ywr gair lleol i ddisgrifior math o hiwmor dychanol syn nodweddur pantomeim blynyddol, er enghraifft, lle gwneir rhywun neu rywbeth syn bygwth cefn gwlad yn gocyn hitio. Yn Bontlwyd hefyd, mae i ddigwyddiadau bach doniol a throeon trwstan le pwysig. Ond y gobaith yw fod y cyfan yn gwneud i bobl feddwl yn adeiladol, trwy godi cwestiynau a hyd yn oed gynnig atebion ambell gwaith.

Yn niwedd yw wythdegau, pan gyhoeddwyd fod Hufenfa Felin-fach i gau, roedd hin anochel fod y theatr yn ymateb i hynny. Roedd yr hufenfa dafliad carreg oddi wrth y theatr a nifer fawr or staff yn bobl syn weithgar yn y theatr. Yn y theatr y cynhaliwyd y cyfarfodydd i drafod sut i ddatrus yr argyfwng, ac roedd llawer or brotest ei hun yn digwydd trwy gyfryngau creadigol. Rhan or rali brotest fawr oedd canu baled a pherfformio meim cyfochrog, yn gwneud sbort am ben y Dairy Trades Federation. Mewn ymate b ir argyfwng y sefydlwyd y CIC! Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, Ceredigion, a dymar cyfnod y dechreuwyd ar broses o gomisiynu dramu, gydar comisiwn cyntaf i dri awdur yn gofyn am waith yn ymwneud sefyllfa lle roedd ardal yn colli ei phrif gyflogwr.

Bellach mae pedair ffatri gaws wedi cymryd ller hufenfa, ond mae argyfwng parhaus y byd amaeth yn golygu nad yw problemau lleol fyth yn diflannu oddi ar agendar theatr. I Euros Lewis, dau beth syn mynd law yn llaw yw adferiad economaidd ac adferiad cymdeithasol, diwylliannol.

Nid mater o droi anffawd lleol yn adloniant yw ystyr theatr gymunedol i ni. Ein cyfrifoldeb ni yw defnyddio drama fel arf yn y frwydr i gynnal y gymdeithas ryn nin rhan ohoni.

Mae canmol prif arianwyr y theatr, sef yr awdurdodau lleol, sef Cyngor Sir Ceredigion, am gefnogir weledigaeth honno, ond yn honni mai golwg dra gwahanol ar bethau sydd gan Gyngor y Celfyddydau. Mae eu nawdd nhw i Theatr Felin-fach wedii gyfyngu i berfformiadau, ac maen ofni eu bod nhwn edrych ar y celfyddydau, neu ddiwylliant, fel rhywbeth ychwanegol at fywyd y gymdeithas yn hytrach na fel rhan hanfodol ohono.

Maen poeni hefyd am agwedd arall ar ariannur celfyddydau yng Nghymru, yn wyneb yr ail don o fewnfudwyr syn symud ir gorllewin ar hyn o bryd. Maer mewnfudwyr newydd hyn, meddai, yn fwy o fygythiad ir bywyd diwylliannol Cymraeg nar rhai a ddaeth yn yr wythdegau, a hynny oherwydd eu bod yn fwy penderfonol o wthio eu diwylliant eu hunain ar y brodorion. Yn l Euros Lewis, maent yn gallu cael gafael ar yr arian i wneud hynny yn llawer rhy rwydd oherwydd dyfodiad ffynonellau nawdd newydd a natiur y rheiny.

Yr hyn syn achos pryder yw nad grantie lleol sydd wediu cal trwy ddemocratiaeth leol ywr arian hyd man nhwn ei gal, ond yn hytrach arian sydd wedi dod yma trwy Gaerdydd neu Lundain arian Loteri neu o Gronfar Mileniwm. Mi fydder garfan flaenorol o fewnfudwyr wedi gorfod cal cefnogaeth y gymuned, ond maer rhain yn gallu mynd yn syth at y cronfeydd hyn, cal yr arian a chreu dinistr. Maen digwydd, ac maen rhannu cymunede. Mae ;da ni enghreifftie lle mae hi wedi mynd yn frwydr rhwng y Cymry ar mewnfudwyr. Nin sn am fynycha am genhedlaeth h_n o Gymry, gydau gwerthoedd au gweithgaredde traddodiadol.

Nawr, fe all rhywun fod yn eitha spengllyd or math yna o ddiwylliant, ond y gwir yw taw dynar unig faes gwarchod naturiol sy dar bobl hyn ar l, sef y pethe man nhw wedi arfer nhw. Ac ar y llaw arall maer mewnfudwyr hyderus ma syn gwybod eu hawlie.

Y strategaeth orau yn wyneb bygythiadau or fath, yn l Euros Lewis, yw sicrhau bod y diwylliant cynhenid, Cymraeg yn rhywbeth byw, atyniadolo, deinameg. Yr her fawr, meddai, yw cael y cyrff ariannu i weld mair ffordd i gynnal diwylliant yng nghefn gwlad yw cefnogir potensial sydd ynon barod yn hytrach na gwthio prosiectau estron, amherthnasol ar y lle. Maen gweld gobaith am newid meddylfryd cyffredinol os bydd yr Undeb Ewropeaidd, yn l y disgwyl, yn rhoi Statws Amcan Un i Ogledd a Gorllewin Cymru. Mae hefyd wedii galonogi gan bwyslais cynyddol y rhai syn rhannu arian y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ar ardaloedd o ddiffyg darpariaeth. Dadl criw Theatr Felin-fach yw fod Cymru wledig gyfan yn ardal o ddiffyg darpariaeth, yn enwedig lle mae gweithgareddau Cymraeg yn y cwestiwn.

Y ddadl honno yw sail eu cais diweddaraf nhw eu hunain am arian loteri. Y bwriad, os bydd y cais yn llwyddiannus, yw ailddatblygur safle mewn modd a fydd yn galluogir theatr i gryfhau ei gwasanaeth i ardaloedd gwledig ledled Cymru. Ond sut gall un sefydliad yng nghanol Ceredigion, a hwnnwn sefydliad mor lleol ei bwyslais, wneud hynny? Ateb Euros Lewis yw eu bod nhw wedi hen arfer troir lleol yn genedlaethol.

Maer peth yn digwydd ar hyn o bryd. Ryn nin cydweithio gydag asiantaethe cenedlaethol, yn darparu fideos hyfforddi a phatryme gwaith, yn sgwennu llawlyfre ar ddrama yn y gymuned, ac yn rhoi arweiniad i gwmne theatr ieuenctid mewn llefydd eraill. Ond ar hyn o bryd, maer gweithgaredd ynan digwydd ar yr ymyl. Mae eisiau llawer mwy o ofod gwaith arnon ni. Os cawn ni hynny, maer potensial yno i wneud llawer, llawer mwy, ac mae hynnyn gyfforddus iawn.

awdur:Menna Baines
cyfrol:431/432, Ionawr 1999

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk