Yr Ifanc a W^yr
Mae Cyngor y Celfyddydau newydd gyhoeddi dogfen o’r enw Y Celfyddydau a Phobl Ifanc yng Nghymru, a fydd yn sail i strategaeth newydd yn y maes. Un o’r gweithgor a’i paratodd oedd JEREMY TURNER, ac yma mae’n trafod gwerth a photensial un o’r gweithgareddau
Tueddir i roi pob gweithred sy’n cynnwys plant neun bobl ifanc a theatr o dan yr un teitl; i rai, ‘panto’ yw unrhyw gynhyrchiad i blant ac ‘actio’ yw unrhyw weithgaredd lle caiff plant neu bobl ifanc brofiad o ddefnyddio technegau drama a theatr. Ond mae’r mannau cyfarfod rhwng theatr a phobl ifanc (defnyddir ‘pobl ifanc’ yma i gynrychioli plant a phobl ifanc yn eu harddegau) yn niferus ac yn amrywiol eu bwriadau:
(i) Theatr-mewn-addysg (ThMA) – theatr a grëir gan gwmnïau theatr proffesiynol i’w pherfformio i bobl ifanc yn eu hysgolion. Gan amlaf, bydd cywaith ThMA wedi’i seilio ar agweddau’r Cwricwlwm Cenedlaethol, a phob cywaith wedi’i saernïo ar gyfer oedran arbennig. Mae gan Gymru rwydwaith unigryw a gwerthfawr o wyth cwmni ThMA (sydd, ysywaeth, yn wynebu bygythiad deublyg o du Cyngor y Celfyddydau a’r Swyddfa Gymreig).
(ii) Theatr i gynulleidfaoedd ifanc – eto, theatr a grëir gan artistiaid proffesiynol, ond nad ydyw’n gwasanaethu anghenion y Cwricwlwm; gall amrywio o addasiad o lyfr i bortread o chwedloniaeth a dramâu confensiynol a chanddynt themâu dwys ac ystyrlon sydd â pherthnasedd i bobl ifanc o ran thema ac arddull.
(iii) Astudiaethau drama theatr – mae llawer o bobl ifanc yn astudio drama ar ryw adeg mewn ysgol neu goleg, gan gynnwys astudiaethau academaidd neu ymarferol o ddramâu, dyfeisio gwaith newydd, arbrofi gydag arddulliau perfformio amrywiol, sgriptio, gwaith technegol a chynllunio a chymeriadu.
(iv) Drama-mewn-addysg – defnyddir technegau drama, gan gynnwys chwarae rôl, dyfeisio stori neu olygfa yn fyrfyfyr, gwaith symud, er mwyn archwilio a dysgu pynciau a themâu eraill.
(v) Cynyrchiadau ysgol – nad ydynt, bob tro, yn rhan o waith cwricwlaidd. Gallant amrywio o gynyrchiadau o waith Shakespeare i ddramâu cerdd, a gwaith wedi’i ysgrifennu’n arbennig ar gyfer y disgyblion. Mewn un ysgol, rai blynyddoedd yn ôl, defnyddiwyd hanes hen reilffordd ar gyfer gwaith thematig traws-gwricwlaidd a esgorodd ar gynhyrchiad theatr.
(vi) Drama ac opera amatur – er nad yw ‘am drams’ yn withgaredd penodol ar gyfer pobl ifanc, caiff llawer ohonynt brofiad gwerthfawr yn y maes yma.
(vii) Gweithdai drama – mae nifer o fudiadau a chlybiau ieuenctid yn defnyddio technegau a gemau drama, gwaith byrfyfyr a chwarae rôl fel adloniant neu fel gweithgaredd creadigol ynddo’i hun, heb iddo arwain bob tro at berfformiad; gwneir hyn i adeiladu ymdeimlad o berthyn i dîm, i annog cydweithio, i fagu hyder a hunan-barch ac i archwilio pynciau cymdeithasol sydd o bwys a diddordeb i bobl ifanc.
(viii) Theatr Ieuenctid – theatr a berfformir gan bobl ifanc, y tu allan i’r ysgol; fe’i harweinir, gan amlaf, gan oedolion sydd â phrofiad o theatr yn amatur, yn broffesiynol neu o fewn y system addysg.
Er gwaetha’r ffaith fod nifer o weithgareddau theatr ieuenctid wedi cael eu torri neu eu hisraddio’n ddiweddar (er enghraifft Theatr Ieuenctid Clwyd), mae cyhoeddiad diweddar Cyngor y Celfyddydau, Y Celfyddydau a Phobl Ifanc yng Nghymru, yn profi’r angen i ddatblygu mwy o weithgareddau celfyddydol i bobl ifanc fod yn rhan ohonynt. Yn 1992 cyhoeddwyd dogfen arall berthnasol gan Gyngor Ieuenctid Cymru, sef Datganiad y Cwricwlwm: Gwaith Ieuenctid ar gyfer Cymru. Mae’r ddogfen yn cynnig pedair prif elfen y gellir eu defnyddio i gynllunio ac i fesur effeithiolrwydd gweithgareddau ieuenctid o unrhyw fath. Awgryma’r ddogfen y dylai gwaith ieuenctid gynnig cyfleoedd i bobl ifanc sy’n:
Yng nghyd-destun y canllawiau hyn, mae pwysigrwydd theatr ieuenctid, yn artistig ac yn gymdeithasol, yn hollol amlwg. Yn ei hanfod, mae theatr ieuenctid yn annog cyfranogi, cynorthwyo eraill, cydweithio, ffydd ym mhobl eraill, hunanhyder, hunan-barch a pharch at eraill, eu gwaith a’u syniadau. Yn ogystal, fe rydd gyfle i bobl ifanc archwilio syniadau, themâu a sefyllfaoedd, drwy ddadansoddiadau dramatig, a fydd yn eu cynorthwyo i fagu’r sgiliau cymdeithasol a’r agweddau iach sy’n angenrheidiol iddynt allu ymgymryd â’u cyfrifoldebau a mynnu eu hawliau. Mae theatr ieuenctid yn caniatáu i bobl ifanc gyflwyno eu syniadau a’u teimladau eu hunain gan eu galluogi i ymgyrraedd at eu dyheadau ac at unigolyddiaeth diwylliannol mewn ffordd gadarnhaol a chreadigol. Mae theatr ieuenctid dda o fudd i’r bobl ifanc eu hunain ac i ni sydd o’u cwmpas, gan ein galluogi i weld ein bywydau, ein cymdeithas, ein gobeithion a’n problemau trwy lygaid ifanc.
Mae theatr ieuenctid ar gael ar sawl lefel ac mewn sawl ffurf wahanol:
(i) Mae nifer helaeth o grwpiau theatr ieuenctid annibynnol a lleol a weithreda heb gymorth na nawdd unrhyw sefydliad nac awdurdod; fe’u harweinir, gan amlaf, gan oedolion nad ydynt yn artistiaid theatr proffesiynol. Mewn arolwg a wnaed yn 1995-6 y gwyn a leisiwyd gan y rhan fwyaf o’r grwpiau hyn oedd eu bod yn teimlo’n ynysig, nad oes dim cymorth nac hyfforddiant iddynt, ac iddynt gael eu hanwybyddu gan brif sefydliadau’r celfyddydau ac addysg yng Nghymru.
(ii) Roedd gan rai o’r wyth hehn sir bolisïau clir ac effeithiol ar gyfer theatr ieuenctid; mabwysiadwyd rhai o’r gweithgareddau a’r polisïau gan rai o’r siroedd newydd. Mewn rhai siroedd trefnir gweithgareddau cyson trwy’r flwyddyn, mae eraill yn cynnal cyrsiau preswyl yn ystod y gwyliau. Arweinir y gwaith yma gan artistiaid proffesiynol neu gan addysgwyr sydd â phrofiad helaeth o greu theatr. Mae’r broses o ad-drefnu llywodraeth leol wedi cael effaith ddinistriol ar theatr ieuenctid mewn rhai ardaloedd.
(iii) Mae rhai o’r canolfannau celfyddydau a’r cwmnïau theatr yn trefnu gweithgareddau a chyrsiau ieuenctid; weithiau caiff pobl ifanc gyfle i weithio ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol a phrofiadol.
(iv) Mae rhai mudiadau ieuenctid yn cynnwys theatr yn eu gweithgareddau amrywiol.
(v) Gellir cynnwys llawer iawn o weithgareddau theatr mewn ysgolion uwchradd yng nghategori theatr ieuenctid gan ei fod yn mynd y tu hwnt i ffiniau gwaith cwricwlaidd o ran datblygiad artistig a chymdeithasol yn ogystal ag addysgiadol.
(vi) Mae dau gwrs theatr cenedlaethol sef un Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru a Chwrs Drama Siroedd Cymru a gynhelir ym Mangor.
Ar y cyfan, gweithgaredd a arweinir gan oedolion yw theatr ieuenctid. Mae’r berthynas glasurol rhwng yr ‘artist profiadol’ a’r ‘prentis ifanc’ yn un werthfawr; rhan o gryfder theatr ieuenctid yw ymroddiad a phrofiad ei harweinydd sy’n creu sefyllfa sydd yn ddiogel ac yn greadigol i bobl ifanc ddysgu am theatr ac amdanynt eu hunain, eu galluoedd a’u potensial personol. Seilir llawer o weithgareddau theatr ieuenctid ar destunau a dramâu clasurol neu gonfensiynol; rhydd hyn gyfle i bobl ifanc ddod i adnabod hanfodion theatr a thrwy hyn gosodir seiliau cadarn iddynt ddatblygu arnynt neu, yn wir, i wrthtyfela yn eu herbyn.
Dylid bod yn ymwybodol, beth bynnag, fod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn credu bod yn rhaid i theatr ieuenctid gael ei harwain gan oedolion a bod yn rhaid wrth dechnoleg ac offer ac adnoddau arbennig. Mae hyn yn destun pryder. Yn gyntaf – ac er gwaetha’r gwaith hynod a wnaed gan berfformwyr, cwmnïau theatr a rhai athrawon yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf wrth arbrofi gyda ffurf ac arddull er mwyn rhyddhau theatr o’i chyfyngiad a’i chonfensiynau – ymddengys fod nifer helaeth o bobl ifanc yn ystyried theatr fel math penodol o weithgaredd, mewn arddull benodol, gydag adnoddau technegol penodol mewn adeilad penodol. Yn ail, awgrymir fod pobl ifanc yn llwyr ddibynnol ar syniadau pobl h_n i greu theatr. Ac yn olaf, ceir yr argraff na wêl pobl ifanc theatr fel cyfrwng hunanfynegiant.
Hawdd fyddau i ni, yr oedolion parchus a aeth gynt ‘i’r gad’, awgrymu bod pobl ifanc, erbyn heddiw, wedi’u dadwleidyddoli. Ond buan y’n hatgoffir fod ieuenctid yng Nghymru yn dal i brotestio a gweithredu; eu bod yn ofalus iawn yngl_n â’r hyn a wisgant, a sut y’i gwisgant; a bod a wnelo hyn gymaint â gwneud gosodiad esthetig a chymdeithasol am hunaniaeth ac unigolyddiaeth â gydag edrych yn c_l. Mae pobl ifanc wedyn yn chwarae mewn bandiau, yn ysgrifennu geiriau a barddoniaeth wych i’w chanu a’i hadrodd, yn trefnu gigs, rêfs a digwyddiadau eraill nad yw’r awdur pedwar deg-rhywbeth hwn yn gyfarwydd â’un cynnwys na’u teitlau. Pam, felly, nad yw pobl ifanc yn creu eu theatr eu hunain?
Hwyrach fod peth o’r bai ar y math confensiynol o theatr a arweinir gan gyfarwyddwr: os taw felly mae’r theatr broffesiynol yn gweithio mae’n rhaid taw felly y dylai theatr ieuenctid weithio ac na wnaiff dim arall y tro.
Ond hwyrach fod yna ateb pwysicach i’r cwestiwn sydd ynghlwm wrth elitiaeth y theatr gonfensiynol, sydd â’i phwyslais o hyd ar feithrin y sêr. Yn y confensiwn yma un math o berfformio, un math o theatr ac un math o agwedd sy’n dderbyniol; nid ‘rwy’n perfformio achos fod pawb yn gallu perfformio neu fod yn greadigol yn ei ffordd ei hun’ yw’r gred ond, ‘rwyf i’n actio a dwyt ti ddim yn gallu...’ Felly, er gwaetha’r honiad ei fod yn rhoi cymaint o brofiadau i gynifer o bobl ifanc â phosib, yn aml iawn mae theatr ieuenctid yn weithgaredd elitaidd sydd ar gael dim ond i’r sawl a ddengys rhyw allu a pharodrwydd i weithio o fewn ffiniau confensiwn ac arddull arbennig; mae hyn yn fwyfwy gwir wrth symud oddi wrth theatr ieuenctid leol, drwy’r system siriol i’r cwmni cenedlaethol.
Nawr, byddai rhywfaint o gyfiawnhad petai’r ‘rwyf i’n actio a dwyt ti ddim...’ yn golygu ‘rwyf i’n actio ac rwyt tithau’n gwylio...’. Yn anffodus, beth bynnag, ymddengys mai pur anaml y bydd theatr ieuenctid yn denu cynulleidfaoedd ifanc. Nid oes esboniad syml am hyn ond ymddengys nad yw’r rhan fwyaf o weithgareddau theatr ieuenctid, o ran eu cynnwys na’u harddull, yn berthnasol i’r rhelyw o bobl ifanc.
Yn MOVING CULTURE: An enquiry into the cultural activities of youg people (a gomisiynwyd gan y Calouste Gulbenkian Foundation) mae’r awdur, Paul Willis, yn awgrymu ‘...art has become over-associated with its various institutional manifestations ...which may intend to protect but more often destroy vitality. Institutions now contain art; they define what’s valuable and school and train for its appreciation. They take on a life of their own, excluding relevant current forms, projecting and protecting traditional arts quite beyond their moments of living relevance.’
Ymddengys fod theatr ieuenctid, ar y cyfan, yn enwedig ar y lefel uchaf, yn ymgyrraedd tuag at yr un nod â’r theatr gonfensiynol ac yn cael ei diffinio yn ôl yr un canllawiau; nid ydyw, ar y cyfan, ac ar y lefel uchaf, fwyaf cyhoeddus, yn galluogi theatr newydd i gael ei chreu gan amrywiaeth o bobl sydd â syniadau a dyheadau artistig amrywiol a gwahanol. Awgryma Willis y dylid, wrth ystyried diwylliant a phobl ifanc, gosod cwestiynau newydd a gwahanol: ... Not exclusively “how can we bring ‘the arts’ to youth?” but “in what ways are the young already the artists of their own lives?”... Not “how can we inspire the young with the Arts?” but “how are the young already culturally energised in ways which we can re-inforce?”
Ar y cyfan theatr a berfformir gan bobl ifanc, o dan arweiniad oedolion at chwaeth oedolion, yw theatr ieuenctid yng Nghymru, yn enwedig yn y Gymraeg. Mae yna eithriadau wrth gwrs. Mae’r gwaith a wneir gan Theatr Ieuenctid Canol Powys, o dan arweiniad Greg Cullen, yn enghraifft wych o artist profiadol yn arwain ac yn cael ei arwain gan bobl ifanc. Yn eironig, er fod theatr ieuenctid y tu allan i’r ysgol yn dueddol o gydymffurfio ag arddulliau ac ymarferion y theatr gonfensiynol, mae athrawon a disgyblion nifer o ysgolion wedi torri tir newydd. Un o’r nosweithiau mwyaf cyffrous o theatr a welais yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru oedd cyflwyniad gan griw o fyfyrwyr chweched dosbarth o T_ Dol Ibsen mewn pedair arddull a phedwar lleoliad gwahanol; cwestiynu a chwalu arferion yr oedd y rhain, ac archwilio arddulliau newydd, cyffrous a pherthnasol.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae cynulleidfaoedd Cymru wedi cael cyfle i weld dau gynhyrchiad tramor gan bobl ifanc. Yn ystod yr hydref llynedd daeth cwmni Victoria o Wlad Belg â Bernadetje i Aberystwyth; dyma un o’r perfformiadau mwyaf gwefreiddiol a welais ers talwm. A’r cwmni’n gyfuniad o actorion profiadol a phobl ifanc ddibrofiad, llwyddwyd i greu drama delynegol a thrydanol am bobl ifanc gan ddefnyddio arddulliau, ac iaith lwyfan, a oedd yn berthnasol a chyfoes heb fod ynn nawddoglyd na chyfawddadu o ran safon. Yn ôl Katrien Laporte, gweinyddwraig y cwmni, nid hyfforddi’r bobl ifanc oedd yr her, ond i’r actorion profiadol geisio deall safbwynt a syniadau’r bobl ifanc, nad oeddent wedi’u cyfyngu gan gonfensiwn na disgwyliadau cynulleidfa. Yn fwy diweddar daeth Theatr Ieuenctid Mostar i’r Rhondda i berfformio Pax Bosnensis, cyflwyniad a grewyd fel eu hymateb uniongyrchol a phersonol i’r rhyfel ym Mosnia; a’r delweddau’n glir a phwerus, roedd yn amlwg nad perfformio er mwyn actio bod yn actorion yr oeddent, na cheisio boddhau disgwyliadau oedolion, eithr cyfleu a rhannu, yn yr unig ffordd a allent, eu poen a’u hing, eu colled faterol a phersonol, a’u gobaith am heddwch.
Hwyrach y dylid chwilio, yng Nghymru, nid am y ffordd orau o alluogi pobl ifanc i greu theatr (sef theatr a fydda’in plesio oedolion) ond am y ffordd orau o alluogi pobl ifanc i greu eu theatr eu hunain yn eu ffyrdd eu hunain, theatr sy’n uniongyrchol berthnasol o ran ffurf a chynnwys iddynt hwy a’u cyfoedion.
awdur:Jeremy Turner
cyfrol:431/432, Ionawr 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com