Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Gwerth Siwrnai Seithug

Maer Coleg Ger y Lli wedi bod yn feithrinfa i sawl cwmni theatr dros y blynyddoedd. Maer diweddaraf ohonynt, Cwmni Theatr Seithug, newydd fod ar daith gydau cynhyrchiad cyntaf, T_r Amerig. Dau or aelodau syn dweud pam a sut y sefydlwyd y cwmni.

Yn y dechreuad...

IWAN ENGLAND, actor a chyfieithydd House of America

Yn dilyn ambell i sgwrs hirwyntog, obeithiol a goleuedig, penderfynodd criw ohonom a oedd yn astudio drama yn Aberystwyth y byddem nin creu cwmni theatr ein hunain. Wedir penderfyniad bu cryn segura tan un prynhawn, ym mis Mehefin y llynedd, pan eisteddodd y saith ohonom ar y traeth, peint yn un llaw a llyfr nodiadau yn y llall.

Ar diwedd y cyfarfod cyntaf hwnnw, roedd hin anodd credu ein bod ni wedi creu cwmni theatr. Y cyfan oedd gennym oedd pedair prif amcan (digon penagored) a rhestr o ddramu posib iw llwyfannu. Clywsem droeon am anawsterau cwmnau newydd wrth ymsefydlu, ac eto dyma ni wedi sefydlu un, wedi dim ond ugain munud o drafod. Ein prif amcan oedd creu gwaith ac iddo ogwydd newydd a oedd yn berthnasol i weledigaeth y criw or byd. Roeddem ni eisiau canolbwyntio ar rl yr actor oddi mewn ir broses greu, gan leihau pwysigrwydd yr elfennau technegol a oedd wedi bod mor flaenllaw yn ein profiad blaenorol ni or theatr. Roeddem ni oll eisiau arbrofi, ond gan greu darn o waith y byddai cynulleidfa yn dymuno ei weld. Penderfyniad anodd felly oedd dewis drama ar gyfer ein cynhyrchiad cyntaf.

Wrth grafu pen ni allair un ohonom enwi drama Gymraeg y dymunem ei llwyfannu. Or ychydig ddramu sydd wedi eu cyhoeddi yn y nawdegau, roedd y mwyafrif wedi eu cyflwyno gan gwmnau yn ddiweddar. Doedd eraill ddim yn cynnig unrhyw fath o sialens. Yn gyffredinol teimlem fod prinder gwaith cyffrous, egnol, a fyddain apelio at gynulleidfa ifanc, yn ogystal ag un h_n. Er fod sawl dramodydd wedi gwneud enw iddoi hun yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid ywr elfen cool a chyffrous yn perthyn i waith yr un ohonynt. Maen wir fod arwyddion fod y sefyllfan newid, gyda nifer o bobl ifanc yn ceisio ysgrifennu dramu. Mae cwmnau megis y Sdherman yn dangos y ffordd wrth feithrin y talentau ifanc hyn, gan roi cyfle i ddyrniad o ddramodwyr newydd gael y profiad o lwyfannu eu gwaith a chael barn ymarferwyr proffesiynol amdano. Ond amser a ddengys a gawn ni gynhaeaf o ddramu cyffrous a fydd yn denu cynulleidfa ifanc yn l ir theatr.

Wrth chwilio am ddramu daeth y cwmni ar draws problem arall. Ychydig iawn o ddramu syn cael eu cyhoeddi yng Nghymru, ac yn y Gymraeg. Ar wahn ir traddodiadol (Saunders Lewis, Gwenlyn Parry) ar diweddar iawn, doedd braidd dim y gallem edrych arno mewn print. Mae cyhoeddwyr megis Seren a Gwasg Carreg Gwalch iw canmol am fentro ir farchnad yma, gyda dim ond ychydig o nawdd gan Gyngor y Celfyddydau, ond mae angen llawer mwy. Dywr theatr ddim yn chwarae rhan weledol bwysig yn ein diwylliant ni yng Nghymru, ac mae diffyg cyhoeddi yn rhan fawr or broblem. Publication establishes the existence of work in all its diversities, meddair dramodydd Dic Edwards yn y gyfrol diweddar Staging Wales. Heb gyhoeddi nid oes gofnod o unrhyw draddodiad na dilyniant.

Oherwydd yr anawsterau hyn, penderfynodd y cwmni fod rhaid cyfieithu. Ystyriwyd gweithiau o eiddo David Mamet a Sam Shepard, ond yn y diwedd dyma benderfyni ar waith Ed Thomas. Roedd nifer ohonom eisioes wedi darllen ei waith (a gyhoeddwyd gan Seren) ac wedi ein cynhyrfun fawr ganddo. Yn ystod y gwyliau haf, ac yn dilyn ambell i alwad ffn, llwyddais i gael gafael ar y dramodydd a chael ei ganiatd i gyfieithu House of America.

House of America yw un o ddramu mwyaf nodedig Ed Thomas. Wedii chyfansoddi yn 1988 ac fellyn un oi ddramu cynnar, does ganddi ddim cynllun tynn, unedig ond maen ferw o syniadau. Er fod y syniadau hynnyn ymwneud benodol r Gymru gyfoes, nid drama blwyfol mohoni. Maer teimlad o fod ar y cyrion yn gyfarwydd i bawb, a dylanwad y diwylliant Americanaidd yn hollbresennol yn ein bywydau. Dim rhyfedd fod y ddrama wedi ei chyfieithu i sawl iaith ai llwyfannu mewn sawl gwlad ar draws y byd. Ar yr un pryd maen cynnig rhyddid i arosod gweledigaeth bersonol arni; fel y dywed Ed Thomas, does yma ddim atebion na negeseuon, dim ond posibiliadau. Daethom ni at y ddrama gyda gweledigaeth a oedd wedi ei gwreiddio yn niwylliant y pethe, ac ym mywyd y Cymru Cymraeg. Ein bwriad felly oedd rhoir un faint o bwyslais ar yr elfennau syn gwthior plant at y freuddwyd Americanaidd r rhai syn eu denu ati. Dywr delwedd draddodiadol o Gymreictod a gyflwynir gan y Fam yn y ddrama cennin, cawl, defaid a Harry Secombe ddim yn atyniadol o gwbl oi chymharu ag Americana y ffilmiau a cherddoriaeth roc. Nid addasu a wnaethom (cyfieithiais y ddrama yn agos at y gwreiddiol) yn gymaint phwysleisio elfennau oddi mewn ir ddrama mewn ffordd bersonol a chynnil.

awdur:Iwan England
cyfrol:426/427 Gorffennaf/Awst 1998

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk