Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Rhoi siâp ar y freuddwyd

Fel cyw gyfarwyddwr hollol ddibrofiad,un o’m prif ofnau wrth geisio chwythu anadl einioes i House of America oedd na fuaswn i’n gallu gwneud cyfiawnder â gwaith Ed Thomas. Lle oedd dechrau? A sut ac ymhle y dylid llwyfannu’r gymysgedd gynhyrfus hon o ‘ryw

Daeth ysbrydoliaeth dros baned (nid peint y tro hwn), a phenderfynasom berfformio yng Nghaffi’r ‘Cabin’, caffi Americanaidd ei naws ynghanol tref Aberystwyth, gynigai ofod perfformio bychan ofnadwy. Sialens a hanner oedd gweithio oddi mewn i ofod mor gyfyng; gorfodwyd yr actorion i fod yn gwbl ddisgybledig, a rhoddwyd ffrwyn ymarferol ar fy nychymig i a’m cyd-gyfarwyddwr. Wedi dweud hynny, roedd y lluniau a addurnai waliau’r caffi’n gefnlen benigamp, a llygaid yr arwyr plastig, y mae eu henwau’n britho’r sgript, yn edrych trosom yn barhaus.

Mae Cwmni Bara Caws wedi hen brofi bellach fod gwerth mewn perfformio mewn lleoliadau cymunedol – y syniad o fynd â theatr at y bobl. Maent hefyd wedi canfod cynulleidfa newydd, o fath cwbl wahanol i’r arfer, wrfth berfformio sioeau ysgafn ar gyfer oedolion yn awyrgylch braf, anffurfiol clybiau nos a thafarndai. Wrth berfformio yng Nghaffi’r Cabin, roeddem ninnau’n defnyddio lleoliad cwbl gyfarwydd i’r gynulleidfa a oedd ar yr un pryd yn lle annisgwyl i lwyfannu drama. Cawsom gynulleidfaoedd teilwng o ganlyniad i gymysgedd o chwilfrydedd a chefnogaeth frwd i’r fenter.

Cawdel o ddrama yw House of America, coctel meddwol o realaeth a swrrealaeth, lle mae realiti a byd afreal cyffuriau ac alcohol yn gorgyffwrdd. Anodd iawn yw cyflwyno digwyddiadau mor eithafol (megis perthynas losgachol brawd a chwaer, a’r olygfa ar ddiwedd y ddrama lle mae dyn yn lladd ei frawd) mewn dull realaidd heb i’r cyfan droi’n ffarsiaidd. Yr hyn a gadwodd y cynhyrchiad ar drywydd cyson oedd y ffaith inni gadw’n golygon trwy’r amser ar y ddelfryd Americanaidd. Er fod y ddrama, sy’n darlunio chwalfa deuluol, wedi ei lleoli yng Nghymru, mae’n digwydd, yn feddyliol, ar gefn Harley Davidson wrth i Sid, y brawd hynaf, ei ddychmygu ei hun yn gwibio hyd wastadeddau Iowa. Pe trosid y cyfan i feddylfryd cwbl Gymreig, ni fyddai’r ddrama’n argyhoeddiadol. Fel y dywed Sid: “drych ar gymru, lle mae’r brenhinoedd, lle mae’n harwyr ni? Un ateb, męt, ‘sdim rhai ‘da ni.”

Mae dylanwad y dramodydd Americanaidd Sam Shepard yn enwedig drama fel True West, yn gryf iawn ar waith Ed Thomas. Yr hyn a geir yw darlun domestig gwyrdroëdig, lle mae sawl perthynas yn dirywio ac yn chwsalu, a’r uned deuluol yn methu â goroesi oherwydd amgylchiadau eithafol a phwysau o’r tu allan. Yng nghynhyrchiad diweddar Cwmni Theatr Sgraps o True West rhoddwyd hunaniaeth gwbl Gymreig i’r ddrama, gan gyfnewid yr Americanrwydd am Gymreictod. Teimlwn o’r dechrau nad oedd angen gwneud hyn gyda’r T_’r Amerig ac na fyddem yn amharchu’r gynulleidfa trwy beidio â mygu’r cyfan â brethyn Cymreig, ond cyfieithu’r gwaith yn bur yn hytrach nag addasu. Y mae diwylliant America yn rhan allweddol o fywyd bron bob un ohonom erbyn hyn; pa ddiben ceisio gwadu hynny trwy osod label ‘Cymreig’ ar ddrama y gall pawb uniaethu â hi yn gwbl ddidrafferth beth bynnag?

Wrth fynd â’r sioe ar daith, roedd yn resyn a dweud y gwir nad oedd modd codi Caffi’r Cabin yn ei grynswth a’i sodro ar gefn lori. Yn hytrach, darn o garped oedd ein set newydd, yn null Peter Brook, ac o sail hwnnw yr aethom ati i adeiladu ‘T_’r Amerig 2’. Er gorfod cyfaddawdu o ran set, credem ei bod hi’n allweddol fod mwy o bobl yn cael cyfle i brofi hud a lledrith y dewin geiriau Ed Thomas. Wedi’r cyfan, gellir dadlaun bod bob un ohonom bellach yn byw mewn rhyw ffurf ar ‘D_’r Amerig’.

Cloriannu

Lle’r gynulleidfa a’r adolygwyr yw rhoi barn wrthrychol ar gynhyrchiad cyntaf Cwmni Seithug. Serch hynny, rydym wedi gallu profi rhai pethau i ni’n hunain. Roedd modd i ni greu cwmni theatr yn weddol ddidrafferth, a hynny heb gael ein clymu mewn dogma a theorďau. Roedd modd i ni greu darn o waith cynhyrfus, egnďol a chyfoes yr oeddem oll wedi ysu i’w weld ar lwyfan Cymraeg. Ac roedd cynulleidfa frwd a chymysg iawn yn bodoli ar gyfer y gwaith hwn, ar daith yn ogystal ag yn Aberystwyth. Na, roedd ein siwrnai ers y prynhawn hwnnw ar y traeth y llynedd ymhell o fod yn un ‘seithug’.

awdur:Lowri Hughes
cyfrol:426/427 Gorffennaf/Awst 1998

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk