Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Cadwr Freuddwyd yn Fyw

Dyddiau Difyr oedd enw cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Gwynedd. Dyddiau anodd ywr rhain, fodd bynnag, ir cwmni ar adeilad ym Mangor syn gartref iddo. Theatr Gwynedd sydd dan y chwyddwydr yn yr ail yn ein cyfres erthyglau ar theatrau Cymru. Stori:

Maer albwms yn bochio gan luniau. Lluniau deg ar hugain a mwy o gynyrchiadau a lwyfannwyd gan Gwmni Theatr Gwynedd dros y deuddeng mlynedd diwethaf, yn glasuron Gymraeg, fel Gymerwch Chi Sigaret? ar T_r, yn glasuron rhyngwladol fel Y Cylch Sialc ar Gelli Geirios, yn ddramu newydd fel Leni a Golff ac yn sioeau Nadolig.

Nid ywr lluniau, fodd bynnag, yn dweud hanes yr argyfyngau a wynebodd y cwmni hwn, ar adeilad syn gartref iddo, dros y blynyddoedd a hynny or cychwyn cyntaf. Agorodd y theatr ei drysau yn 1974, ar cynhyrchiad cyntaf oedd Pwyll Gwyllt, pantomeim gan Gwmni Theatr Cymru oedd yn gweinyddur theatr ar ran y perchnogion, sef y Brifysgol, ar bwriad gwreiddiol oedd ir theatr fod yn gartref ir cwmni hwnnw, fel yr oedd Theatr Clwyd, Theatr y Werin yn Aberystwyth ar Torch yn Aberdaugleddau yn gartref iw cwmnau eu hunain. Ond roedd gan Gwmni Theatr Cymru eu swyddfeydd eu hunain ym Mangor ac roeddent yn gynyn o symud eu stondin. Pan benderfynodd Cyngor y Celfyddydau yn 1981 i beidio ag ariannu theatrau heb gwmnau ynddynt, yr unig ddewis i Theatr Gwynedd oedd i sefydlu ei gwmni cynhyrchu ei hun.

Ac yntau wedi gweithio gyda Chwmni Theatr Cymru cyn dod i Theatr Gwynedd fel Rheolwr Blaen T_ yn 1977, mae Dafydd Thomas, cyfarwyddwr presenol y theatr, yn cofior cyfnod cythryblus ar ddechraur wythdegau pan wahanodd llwybraur ddau sefydliad. Roedd Cwmni Theatr Cymru yn amheus o sefyllfa ariannol Theatr Gwynedd, ond yn eironig y nhwu hunain aeth ir wal yn fuan wedyn tra aeth y cwmni cynhyrchu newydd o nerth i nerth, meddai. Un or pethau sydd wedi aros gliriaf yn ei gof ywr ymateb i gynhyrchiad cyntaf Cwmni Theatr Gwynedd yn 1986, addasiad o O Law i Law T. Rowland Hughes, dan gyfarwyddyd Graham Laker.

Mewn saith ar hugain o berfformiadau ledled Cymru, mi welwyd O Law i Law gan bron i ddeng mil o bobl, sef 90% or gynulleidfa bosib. Dwin meddwl fod rheolwr theatr di-Gymraeg yng Nghlwyd, Aberystwyth a Chaerdydd wediu syfrdanu gan yr ymateb.

Er fod cynulleidfaoedd y cwmni ers hynny wedi amrywio rhwng y boddhaol ar da iwan, mae hinsawdd ariannol y deng mlynedd diwethaf wedi creu ansicrwydd parhaus. Gyda grant Cyngor y Celfyddydau wedi aros yn ei unfan ers tro, maer cwmni wedi gorfod rhoir gorau i deithion genedlaethol. Maer nawdd gan Brifysgol Cymru, Bangor perchenogion yr adeilad hefyd wedi gostwng yn sylweddol, a daeth ergyd drom arall eleni wrth i Gyngor Gwynedd dorri 20,000 oddi ar eu grant. O ganlyniad bun rhaid rhoir gorau i logi ystafelloedd ymarfer yn Nhreborth, ac maer cwmni yn awr heb unlle parhaol i ymarfer.

Mae colli treborth wedi gwneud yr angen i wireddu ail ran y cynlluniau gwreiddiol yn boenus o amlwg. Y cwbl sydd yn Theatr Gwynedd fel ag y mae yw awditoriwm, cyntedd a bar. Maer cynlluniau wedi bod yno or cychwyn cyntaf ar gyfer Rhan II, fel maen cael ei alw, sef stiwdio ar gyfer cynyrchiadau llai ac ystafelloedd ymarfer a gwisgo. Maer gofod ynon barod, wrth ymyl yr adeilad presennol. Y drafferth yw diffyg arian ac, maen ymddangos, biwrocratiaeth. I wireddur cynlluniau, byddai angen 3.2m. Y Loteri ywr unig obaith ar gyfer y math yna o arian a byddain rhaid i 25% ohono -800,000- fod yn arian o ffynhonellau eraill.

Mae Dafydd Thomas wedii siomi yn niffyg brwdfrydedd Cyngor Gwynedd yn y cynlluniau. Maen nhwn codi bwganod am ganiatd cynllunio, ond peth bach fyddai goresgyn hynny petaen nhw u calon yn y peth. Mae gynnon ni rywbeth cwbl unigryw fan hyn, theatr syn gartref i gwmni syn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, cwmni sydd wedii brofii hun yn genedlaethol. Ac mae yna botensial i roi gwasanaeth cymaint yn fwy cyflawn i bobl Gwynedd. Honna nad yw awdurdodaur Coleg, ychwaith, mor gefnogol ag y gallent fod, er eu bod yn fodlon rhoir tir ar gyfer y datblygiad.

Er gwaethaf ei rwystredigaeth, dyn syn mwynhau ei waith yw Dafydd Thomas. Er ei fod wedii hyfforddi fel athro, maen gweithio yn Theatr Gwynedd ers un mlynedd ar hugain ac yn dal i deimlo cynnwrf bob tro y bydd cynhyrchiad ar fin agor. Ac maen llawn cyffro wrth sn am ddatblygiad technegol diweddaraf y theatr rhoi system sain newydd sbon i mewn, yn dilyn cais Loteri llwyddianus.

System Sain Dolby Ddigidol Amgylchol maen cael ei galw. Does dim llawer ohonyn nhw ym Mhrydain eto, heb sn am Gymru. Fe gafodd hi ei defnyddio yma am y tro cynta y noson or blaen efo ffilm y Titanic, ac roedd pobl wedi mopio, yn meddwl eu bod nhw ar y llong eu hunain.

Gweld pobl yn mwynhau eu hunain syn gwneud iddo ef, a gweddill y bobl sydd ynghlwm wrth Theatr Gwynedd, gydio er gwaethaf pob anhawster yn y gobaith am wireddur cynlluniau sydd wedi bod yn hel llwch ers cymaint o amser. Maen rhaid inni gredu ei fod on mynd i ddigwydd.

awdur:Menna Baines
cyfrol:426/427, Gorffenaf/Awst 1998

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk