Rhoi Bywyd Mewn Bocs
Merch 31 sy’n hanu o Lanfairfechan ond a aeth i’r ysgol uwchradd ym Mangor yw arweinydd artistig newydd Theatr Gwynedd. Bu SIÂN SUMMERS yn sôn am ei chefndir a’i chynlluniau wrth MENNA BAINES.
Siân Summers yw’r gyntaf i gyfaddef fod y syniad o fod yn gyfrifol am raglen artistig Theatr Gwynedd yn ei chyfanrwydd yn codi ofn arni. A hithau wedi canolbwyntio’n ddiweddar ar ysgrifennu a gwaith ar gyfer plant a phobl ifanc, mae’n ymwybodol iawn fod y swydd newydd yn ei sodro yn llygad y cyhoedd. Ar ben hynny mae rhai o’r bobl sydd wedi ei llongyfarch wedi rhoi’r argraff eu bod yn disgwyl gwyrthiau ganddi, er ei bod yn dechrau ar ei gwaith fel Arweinydd Artistig Theatr Gwynedd mewn cyfnod sydd, oherwydd toriadau, gyda’r anoddaf erioed yn hanes y sefydliad. Ei hymateb syml a di-lol i orawen y bobl hynny yw dweud nad ‘chwyldroadwraig’ mohoni. Mae ganddi, er hynny, syniadau pendant iawn am y ffordd yr hoffai ddatblygu Theatr Gwynedd a’r rheiny’n deillio o flynyddoedd o brofiad fel cyfarwyddwraig, perfformwraig ac awdures.
Fe allai fod wedi mynd i gyfeiriad gwahanol iawn. Ddeng mlynedd union yn ôl roedd hi’n graddio mewn Saesneg o Goleg Iesu, Rhydychen. Mae’n cyfaddef mai yn erbyn ei hewyllys, i raddau, yr aeth yno: ei thad, sy’n Sais, yn pwyso arni i fynd a hithau’n gweld ei bod yn anodd gwrthod y cyfle er ei bod wedi rhoi ei bryd ar wneud drama yn Aberystwyth. Mae’n dweud iddi gasáu hanner cyntaf y tair blynedd – gan deimlo’r ‘hiraeth mwya’ ofnadwy’ – a mwynhau’r ail hanner. Y trobwynt mawr oedd mynd ati, gyda pherswâd cyfeillion, i gyfarwyddo sioe lwyfan ar ei liwt ei hun. Canlyniad wythnosau o waith caled oedd cynhyrchiad o ddrama epig ddwy awr Pam Gems, Piaf.
‘Roedd o’n waith caled iawn, ond mi wnes i fwynhau ac mi fuodd o’n lles mawr i mi,’ meddai. ‘Er ‘mod i’n treulio llai o amser uwchben fy nhraethodau yn ystod y cyfnod yna, roedden nhw’n well, achos mi wnes i ddysgu ymddiried yn fy meddwl fy hun yn hytrach na darllen, darllen a darllen, un beirniad ar ôl y llall. Erbyn hyn dwi’n falch ‘mod i wedi mynd i Rydychen. Ro’th o hyder i mi yn sicr.’
Wedi dychwelyd i Gymru, roedd hi angen pob owns o’r hyder hwnnw ynghyd â dogn go dda o benderfyniad wrth geisio gwneud bywoliaeth yn y theatr. Ar ôl cyfnod gyda Hwyl a Fflag ym Mangor, roedd yn wynebu’r cyntaf o sawl cyfnod anodd ar y dôl. A hithau yn byw yn Aberystwyth ar y pryd, un a fu’n help ac yn ysbrydoliaeth iddi oedd Emily Davies, a oedd bryd hynny newydd ymddeol o’i swydd yn adran ddrama’r Brifysgol. Hwb arall oedd cael ei derbyn i goleg actio East 15 yn Llundain, yr un pryd â dau arall o’i chydnabod, Huw Garmon a Deian Creunant. Wedi cael sylfaen dda o hyfforddiant technegol, bu’n actio ar lwyfan ac ar deledu mewn pethau mor wahanol â Dinas a’r Bacchae, tra’n magu profiad cyfarwyddo gydag amwyriol gwmnïau. Ond yn ystod un arall o’r cyfnodau segur ar y dôl, yng Nghaerdydd y tro hwn, y dechreuodd ysgrifennu – a hynny, meddai, er mwyn cadw’i phwyll. Y canlyniad oedd Un Funud Fach, ei drama go-iawn gyntaf, a berfformwyd yn 1993 yn un o wyliau Hwyl a Fflag. Roedd honno’n sôn am unigolion oedd â’u breuddwydion eu hunain ond a oedd wedi cyfaddawdu yn eu bywydau bob dydd. I raddau mae Siân Summers ei hun wedi gorfod dysgu cyfaddawdu wrth dal ati i ysgrifennu.
‘Mae ‘ngwaith i, am ryw reswm, wedi bod yn eitha’ swrrealaidd o’r dechrau. Ond rwyt ti yn cyfaddawdu dipyn bach, yn anwybodol bron, bob tro ti’n sgrifennu ar gyfer cwmni arbennig – mae o’n anorfod. Er enghraifft, rhyw fath o ‘noson allan dda’ oedd gan Arad Goch mewn golwg wrth gomisiynu dwy sioe un dyn am fywyd myfyriwr, Aderyn Glas Mewn Bocs Sgidie yn gynta’ a wedyn Cwrw, Chips a Darlith Deg, ac roeddwn innau’n gwybod hynny wrth sgrifennu. Ie, chwarae’n saff i ryw raddau. Ac eto, mae rhywun eisiau cynulleidfa a dwi’n blês iawn fod cymaint o blant a phobl ifanc wedi mynd i weld y ddwy sioe yna, rhai ohonyn nhw ddim yn arfer mynd i’r theatr.’
Mae’n ymwybodol hefyd fod yna rywfaint o snobyddiaeth yng Nghymru tuag at y math o waith ysgrifennu y mae hi wedi arbenigo ynddo hyd yma, gwaith Theatr Mewn Addysg (I Theatr Clwyd, Arad Goch a’r Frân Wen) neu waith ar gyfer pobl ifanc; snobyddiaeth sydd, meddai, yn codi o’r obsesiwn gyda’r ‘Ddrama Fawr’, mae’n gweld mai’r unig ffordd tuag at y delfryd hwnnw yw yn ara’ deg, gam wrth gam. Dysgu yw y peth arall y bu’n ei wneud cyn dod i Theatr Gwynedd. Treuliodd ddwy flynedd fel darlithydd yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a chael blas ar y gwaith. Y pwysau i ymrwymo i wnaeth iddi benderfynu troi’n ôl at weithio ar ei liwt ei hun. ‘Mae ‘na ran ohona i yn mwynhau ymchwilio, ond mae ‘na ormod i’w ‘neud y tu allan, does? Dwi’n teimlo y galla i gyfrannu mwy at dwf y theatr yng Nghymru mewn ffyrdd eraill.’
Mae hi wedi dod â’r agwedd ymarferol yna gyda hi i Theatr Gwynedd, ac wrth iddi amlinellu ei chynlluniau mae’r gair ‘gwasanaeth’ yn codi dro ar ôl tro. Mae angen a wêl i wasanaethu pobl Gwynedd yn ganolog i’w gweledigaeth o ddyfodol y sefydliad, ac yn hynny o beth mae ei phwyslais yn wahanol, efallai, i eiddo ei rhagfleunydd. Cwmni’n canolbwyntio ar gyflwyno’r clasuron, ynghyd â rhai dramâu newydd, i gynulleidfaoedd ledled Cymru oedd y cwmni y bu Graham Laker wrth ei lyw am dros ddeng mlynedd. Roedd yn anghytuno’n chwyrn ag argymhelliad Cyngor y Celfyddydau eu bod yn rhoi’r gorau i deithio’n genedlaethol ac yn canolbwyntio ar gynyrchiadau llai yn Theatr Gwynedd ei hun, ac roedd hynny’n ffactor yn ei benderfyniad i adael. A’r penderfyniad i dderbyn yr argymhelliad wedi’i wneud cyn iddi gyrraedd, does gan Siân Summers ddim dewis ond plygu i’r drefn. Ond mae wedi hen arfer ymateb i’r her o weithiogydag adnoddau bach iawn ac mae’n gweld y newid fel cyfle cyffrous i gryfhau cysylltiadau’r theatr â’r ardal o’i chwmpas.
‘Dwi’n teimlo bod y dyddiau lle mae rhywun yn mynd â phopeth ar y daith arferol yna i Aberystwyth, Y Drenewydd, Abertawe a lle bynnag, heb hyd yn oed feddwl am y peth, wedi mynd heibio. Dydi o ddim yn gwneud synnwyr ariannol erbyn hyn. Ond be fyddwn i’n licio’i weld fyddai mwy o deithio yng Ngwynedd ei hun. Mae pobl yn Aberdaron, ym mhen draw Sir Fôn, yn Llandudno a Llanrwst yn talu trethi – does bosib na ddylen ni fod yn eu gwasanaethu nhw mewn rhyw ffordd? Mi hoffwn i fynd ag o leia’ un sioe y flwyddyn i’r cymunedau yna.’
Er nad yw’n gweld unrhyw beryg i Gwmni Theatr Gwynedd ddyblygu gwaith Bara Caws, gan na fyddant yn teithio’n gyson, mae’n fwy na bodlon arddell y disgrifiad ‘cymunedol’ am y gwaith sydd ganddi mewn golwg. ‘Cwmni cymuned yden ni mewn gwirionedd, dim ond fod y gymuned honno’n un fawr, am fod y dalgylch mor anferth’. Mae’n gobeithio llwyfannu gwaith fydd yn adlewyrchu gwahanol agweddau ar hanes a bywyd cyfoes yng Ngogledd Cymru, o fywyd y môr i fyd y ‘Bangor Lad’, ac fe allai hynny gynnwys gwaith dwyieithog ac o bosib waith yn Saesneg. Fel un a fagwyd yn Llanfairfechan, ei mam yn Gymraes ond ei thad yn ‘Sais o’r Saeson’, mae’n ymwybodol iawn o ddeuoliaeth ieithyddol a diwylliannol yr ardal, yn enwedig y glannau, ac o’r angen i greu gwaith theatrig y gall y di-Gymraeg a’r bregus eu Cymraeg uniaethu ag ef. Syniad arall yw creu, dros gyfnod o bedair neu bum mlynedd, ddarn o waith ffyddai’n gywaith cymunedol mawr, yn cynnwys pobl leol ac yn sôn o bosib’ am Fangor, am Hirael fel ‘Calon Bangor’ ac am Ddyffryn Ogwen.
Prif flaenoriaeth arall yr arweinydd artistig newydd fydd comisiynu a chynnig cymorth, ar ffurf gweithdai a chyngor, i awduron newydd. Mae’n warthus, yn ôl Siân Summers, nad oes yr un cwmni Cymraeg, ers diflaniad Hwyl a Fflag, â pholisi clir o feithrin ysgrifenwyr, ac mae’n awyddus iawn i geisio unioni’r cam. Yn unol â’r pwyslais cymunedol newydd, mae’n arbennig o awyddus i ddod o hyd i awduron o’r gogledd sy’n teimlo bod ganddynt rywbeth i’w ddweud ‘wrth bobl y dalgylch yma’. Un syniad yw comisiynu nifer o ddramâu byr iawn – monologau neu ddramâu i ddau neu dri actor – yn rhannu’r un thema neu’n cynnwys yr un cymeriad a chyflwyno noson ohonynt. ‘Rhaid inni beidio â bod yn gaeth i hualau. Mae yna dueddiad i feddwl dim ond yn nhermau’r ddrama ddau hanner, gydag eis crîm yn y canol! Mae eisiau agor llygaid pobl i ffurfiau theatraidd gwahanol.’
Tasg fwy sylfaenol sy’n ei hwynebu yw agor llygaid pobl Bangor a’r cyffiniau i fodolaeth a gwerth yr adeilad brics coch ar Ffordd Deiniol. Mae troi’r ‘bocs’, chwedl hithau, yn ‘ganolfan ddiwylliannol fyw’ ac yn ‘fan cymdeithasu’ yn dibynnu ar gael arian i ehangu yn ôl y cynlluniau gwreiddiol. Mae’n bendant y dylai popeth fod ar un safle ac mae’n sôn nid yn unig am yr anghenion cwbl sylfaenol fyddai’n cael eu hateb yng nghynlluniau ‘Rhan II’ –yn enwedig gofod perfformio mwy hyblyg a lle i ymarfer – ond am le bwyta (fel ag y fu ar un adeg), bar sy’n agor y tu allan i amser perfformiadau a lle i grwpiau diwylliannol a chelfyddydol eraill weithio neu gyfarfod.
‘Ryden ni ar ei hôl hi’n ofnadwy o gymharu â llefydd fel Caerdydd a hyd yn oed Aberystwyth. Pam? Yden ni’n anwar i fyny fama, yn ddiddiwylliant?’ Anghrediniaeth sydd yn y llais, a mymryn o wên eironig yn y llygaid, sy’n ildio wedyn i ddifrifoldeb penderfynol. ‘Mae gynnon ni berffaith hawl i’r un cyfleusterau â phob man arall. A dwi’n bwriadu gwthio amdanyn nhw.’
awdur:Menna Baines
cyfrol:426/427, Gorffenaf/Awst 1998
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com