Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Rhoi Bywyd Mewn Bocs

Merch 31 syn hanu o Lanfairfechan ond a aeth ir ysgol uwchradd ym Mangor yw arweinydd artistig newydd Theatr Gwynedd. Bu SIN SUMMERS yn sn am ei chefndir ai chynlluniau wrth MENNA BAINES.

Sin Summers ywr gyntaf i gyfaddef fod y syniad o fod yn gyfrifol am raglen artistig Theatr Gwynedd yn ei chyfanrwydd yn codi ofn arni. A hithau wedi canolbwyntion ddiweddar ar ysgrifennu a gwaith ar gyfer plant a phobl ifanc, maen ymwybodol iawn fod y swydd newydd yn ei sodro yn llygad y cyhoedd. Ar ben hynny mae rhai or bobl sydd wedi ei llongyfarch wedi rhoir argraff eu bod yn disgwyl gwyrthiau ganddi, er ei bod yn dechrau ar ei gwaith fel Arweinydd Artistig Theatr Gwynedd mewn cyfnod sydd, oherwydd toriadau, gydar anoddaf erioed yn hanes y sefydliad. Ei hymateb syml a di-lol i orawen y bobl hynny yw dweud nad chwyldroadwraig mohoni. Mae ganddi, er hynny, syniadau pendant iawn am y ffordd yr hoffai ddatblygu Theatr Gwynedd ar rheinyn deillio o flynyddoedd o brofiad fel cyfarwyddwraig, perfformwraig ac awdures.

Fe allai fod wedi mynd i gyfeiriad gwahanol iawn. Ddeng mlynedd union yn l roedd hin graddio mewn Saesneg o Goleg Iesu, Rhydychen. Maen cyfaddef mai yn erbyn ei hewyllys, i raddau, yr aeth yno: ei thad, syn Sais, yn pwyso arni i fynd a hithaun gweld ei bod yn anodd gwrthod y cyfle er ei bod wedi rhoi ei bryd ar wneud drama yn Aberystwyth. Maen dweud iddi gasu hanner cyntaf y tair blynedd gan deimlor hiraeth mwya ofnadwy a mwynhaur ail hanner. Y trobwynt mawr oedd mynd ati, gyda pherswd cyfeillion, i gyfarwyddo sioe lwyfan ar ei liwt ei hun. Canlyniad wythnosau o waith caled oedd cynhyrchiad o ddrama epig ddwy awr Pam Gems, Piaf.

Roedd on waith caled iawn, ond mi wnes i fwynhau ac mi fuodd on lles mawr i mi, meddai. Er mod in treulio llai o amser uwchben fy nhraethodau yn ystod y cyfnod yna, roedden nhwn well, achos mi wnes i ddysgu ymddiried yn fy meddwl fy hun yn hytrach na darllen, darllen a darllen, un beirniad ar l y llall. Erbyn hyn dwin falch mod i wedi mynd i Rydychen. Roth o hyder i mi yn sicr.

Wedi dychwelyd i Gymru, roedd hi angen pob owns or hyder hwnnw ynghyd dogn go dda o benderfyniad wrth geisio gwneud bywoliaeth yn y theatr. Ar l cyfnod gyda Hwyl a Fflag ym Mangor, roedd yn wynebur cyntaf o sawl cyfnod anodd ar y dl. A hithau yn byw yn Aberystwyth ar y pryd, un a fun help ac yn ysbrydoliaeth iddi oedd Emily Davies, a oedd bryd hynny newydd ymddeol oi swydd yn adran ddramar Brifysgol. Hwb arall oedd cael ei derbyn i goleg actio East 15 yn Llundain, yr un pryd dau arall oi chydnabod, Huw Garmon a Deian Creunant. Wedi cael sylfaen dda o hyfforddiant technegol, bun actio ar lwyfan ac ar deledu mewn pethau mor wahanol Dinas ar Bacchae, tran magu profiad cyfarwyddo gydag amwyriol gwmnau. Ond yn ystod un arall or cyfnodau segur ar y dl, yng Nghaerdydd y tro hwn, y dechreuodd ysgrifennu a hynny, meddai, er mwyn cadwi phwyll. Y canlyniad oedd Un Funud Fach, ei drama go-iawn gyntaf, a berfformwyd yn 1993 yn un o wyliau Hwyl a Fflag. Roedd honnon sn am unigolion oedd u breuddwydion eu hunain ond a oedd wedi cyfaddawdu yn eu bywydau bob dydd. I raddau mae Sin Summers ei hun wedi gorfod dysgu cyfaddawdu wrth dal ati i ysgrifennu.

Mae ngwaith i, am ryw reswm, wedi bod yn eitha swrrealaidd or dechrau. Ond rwyt ti yn cyfaddawdu dipyn bach, yn anwybodol bron, bob tro tin sgrifennu ar gyfer cwmni arbennig mae on anorfod. Er enghraifft, rhyw fath o noson allan dda oedd gan Arad Goch mewn golwg wrth gomisiynu dwy sioe un dyn am fywyd myfyriwr, Aderyn Glas Mewn Bocs Sgidie yn gynta a wedyn Cwrw, Chips a Darlith Deg, ac roeddwn innaun gwybod hynny wrth sgrifennu. Ie, chwaraen saff i ryw raddau. Ac eto, mae rhywun eisiau cynulleidfa a dwin bls iawn fod cymaint o blant a phobl ifanc wedi mynd i weld y ddwy sioe yna, rhai ohonyn nhw ddim yn arfer mynd ir theatr.

Maen ymwybodol hefyd fod yna rywfaint o snobyddiaeth yng Nghymru tuag at y math o waith ysgrifennu y mae hi wedi arbenigo ynddo hyd yma, gwaith Theatr Mewn Addysg (I Theatr Clwyd, Arad Goch ar Frn Wen) neu waith ar gyfer pobl ifanc; snobyddiaeth sydd, meddai, yn codi or obsesiwn gydar Ddrama Fawr, maen gweld mair unig ffordd tuag at y delfryd hwnnw yw yn ara deg, gam wrth gam. Dysgu yw y peth arall y bun ei wneud cyn dod i Theatr Gwynedd. Treuliodd ddwy flynedd fel darlithydd yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a chael blas ar y gwaith. Y pwysau i ymrwymo i wnaeth iddi benderfynu troin l at weithio ar ei liwt ei hun. Mae na ran ohona i yn mwynhau ymchwilio, ond mae na ormod iw neud y tu allan, does? Dwin teimlo y galla i gyfrannu mwy at dwf y theatr yng Nghymru mewn ffyrdd eraill.

Mae hi wedi dod r agwedd ymarferol yna gyda hi i Theatr Gwynedd, ac wrth iddi amlinellu ei chynlluniau maer gair gwasanaeth yn codi dro ar l tro. Mae angen a wl i wasanaethu pobl Gwynedd yn ganolog iw gweledigaeth o ddyfodol y sefydliad, ac yn hynny o beth mae ei phwyslais yn wahanol, efallai, i eiddo ei rhagfleunydd. Cwmnin canolbwyntio ar gyflwynor clasuron, ynghyd rhai dramu newydd, i gynulleidfaoedd ledled Cymru oedd y cwmni y bu Graham Laker wrth ei lyw am dros ddeng mlynedd. Roedd yn anghytunon chwyrn ag argymhelliad Cyngor y Celfyddydau eu bod yn rhoir gorau i deithion genedlaethol ac yn canolbwyntio ar gynyrchiadau llai yn Theatr Gwynedd ei hun, ac roedd hynnyn ffactor yn ei benderfyniad i adael. Ar penderfyniad i dderbyn yr argymhelliad wedii wneud cyn iddi gyrraedd, does gan Sin Summers ddim dewis ond plygu ir drefn. Ond mae wedi hen arfer ymateb ir her o weithiogydag adnoddau bach iawn ac maen gweld y newid fel cyfle cyffrous i gryfhau cysylltiadaur theatr r ardal oi chwmpas.

Dwin teimlo bod y dyddiau lle mae rhywun yn mynd phopeth ar y daith arferol yna i Aberystwyth, Y Drenewydd, Abertawe a lle bynnag, heb hyd yn oed feddwl am y peth, wedi mynd heibio. Dydi o ddim yn gwneud synnwyr ariannol erbyn hyn. Ond be fyddwn in licioi weld fyddai mwy o deithio yng Ngwynedd ei hun. Mae pobl yn Aberdaron, ym mhen draw Sir Fn, yn Llandudno a Llanrwst yn talu trethi does bosib na ddylen ni fod yn eu gwasanaethu nhw mewn rhyw ffordd? Mi hoffwn i fynd ag o leia un sioe y flwyddyn ir cymunedau yna.

Er nad ywn gweld unrhyw beryg i Gwmni Theatr Gwynedd ddyblygu gwaith Bara Caws, gan na fyddant yn teithion gyson, maen fwy na bodlon arddell y disgrifiad cymunedol am y gwaith sydd ganddi mewn golwg. Cwmni cymuned yden ni mewn gwirionedd, dim ond fod y gymuned honnon un fawr, am fod y dalgylch mor anferth. Maen gobeithio llwyfannu gwaith fydd yn adlewyrchu gwahanol agweddau ar hanes a bywyd cyfoes yng Ngogledd Cymru, o fywyd y mr i fyd y Bangor Lad, ac fe allai hynny gynnwys gwaith dwyieithog ac o bosib waith yn Saesneg. Fel un a fagwyd yn Llanfairfechan, ei mam yn Gymraes ond ei thad yn Sais or Saeson, maen ymwybodol iawn o ddeuoliaeth ieithyddol a diwylliannol yr ardal, yn enwedig y glannau, ac or angen i greu gwaith theatrig y gall y di-Gymraeg ar bregus eu Cymraeg uniaethu ag ef. Syniad arall yw creu, dros gyfnod o bedair neu bum mlynedd, ddarn o waith ffyddain gywaith cymunedol mawr, yn cynnwys pobl leol ac yn sn o bosib am Fangor, am Hirael fel Calon Bangor ac am Ddyffryn Ogwen.

Prif flaenoriaeth arall yr arweinydd artistig newydd fydd comisiynu a chynnig cymorth, ar ffurf gweithdai a chyngor, i awduron newydd. Maen warthus, yn l Sin Summers, nad oes yr un cwmni Cymraeg, ers diflaniad Hwyl a Fflag, pholisi clir o feithrin ysgrifenwyr, ac maen awyddus iawn i geisio unionir cam. Yn unol r pwyslais cymunedol newydd, maen arbennig o awyddus i ddod o hyd i awduron or gogledd syn teimlo bod ganddynt rywbeth iw ddweud wrth bobl y dalgylch yma. Un syniad yw comisiynu nifer o ddramu byr iawn monologau neu ddramu i ddau neu dri actor yn rhannur un thema neun cynnwys yr un cymeriad a chyflwyno noson ohonynt. Rhaid inni beidio bod yn gaeth i hualau. Mae yna dueddiad i feddwl dim ond yn nhermaur ddrama ddau hanner, gydag eis crm yn y canol! Mae eisiau agor llygaid pobl i ffurfiau theatraidd gwahanol.

Tasg fwy sylfaenol syn ei hwynebu yw agor llygaid pobl Bangor ar cyffiniau i fodolaeth a gwerth yr adeilad brics coch ar Ffordd Deiniol. Mae troir bocs, chwedl hithau, yn ganolfan ddiwylliannol fyw ac yn fan cymdeithasu yn dibynnu ar gael arian i ehangu yn l y cynlluniau gwreiddiol. Maen bendant y dylai popeth fod ar un safle ac maen sn nid yn unig am yr anghenion cwbl sylfaenol fyddain cael eu hateb yng nghynlluniau Rhan II yn enwedig gofod perfformio mwy hyblyg a lle i ymarfer ond am le bwyta (fel ag y fu ar un adeg), bar syn agor y tu allan i amser perfformiadau a lle i grwpiau diwylliannol a chelfyddydol eraill weithio neu gyfarfod.

Ryden ni ar ei hl hin ofnadwy o gymharu llefydd fel Caerdydd a hyd yn oed Aberystwyth. Pam? Yden nin anwar i fyny fama, yn ddiddiwylliant? Anghrediniaeth sydd yn y llais, a mymryn o wn eironig yn y llygaid, syn ildio wedyn i ddifrifoldeb penderfynol. Mae gynnon ni berffaith hawl ir un cyfleusterau phob man arall. A dwin bwriadu gwthio amdanyn nhw.

awdur:Menna Baines
cyfrol:426/427, Gorffenaf/Awst 1998

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk