Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y Ddrama Gomisiwn

Maen argoeli am Eisteddfod brysur iawn ir selogion drama ym Mro Ogwr. Ich helpu chi i gynllunioch wythnos, mae GWENAN ROBERTS A MENNA BAINES yn edrych ymlaen at rai or cynyrchiadau ar gyfer oedolion.

Tair gan Meic Povey (Dalier Sylw)

Biti na fasa nhwn blant am byth yn sugno bawd; yng nghysgod ffedog; yn ddiymadferth... Geiriau Laura yn Wyneb yn Wyneb, a berfformiwyd gan Dalier Sylw yn 1993 ac, ar l hiwmor a dychan amlwg Bonansa y llynedd, ymddengys fod Meic Povey wedi dychwelyd at batrwm Wyneb yn Wyneb a fel Anifail gan ddewis rhoir berthynas deuluol dan y chwyddwydr unwaith eto; ar tro hwn ei ferch ei hun, Catrin Powell, fydd yn chwarae un or prif gymeriadau. Tair nain (Lisabeth Miles), mam (Betsan Llwyd) a merch (Catrin Powell), wedi eu clymu gan fwy nag achau, yn rhannu profiadau tebyg ond eto mewn amgylchiadau gwahanol, yn unigolion ond eton oesol o debyg. Maer ddrama fel plicio nionyn meddai ei hawdur, a dwy stori o leiaf yn ymhlethu drwyddi storir gorffennol a storir presennol. Dwin dod yn l yn y pen draw, fel yn y rhan fwyaf o bethau dwin sgwennu, at y ffaith bod pwy wyt ti a be wyt ti yn ddibynnol iawn ar dy gefndir a dy deulu di.

Yn Wyneb yn Wyneb dewisodd yr awdur drafod cariad cariad rhwng dau fachgen, a rhwng un or bechgyn rheiny ai fam, gan godi cwestiynau am gariad normal ac annormal o fewn cymdeithas. Pwnc eithaf mentrus, ond roedd yr awdur eisioes wedi dangos nad oedd ganddo ofn mentro wrth gyflwyno Perthyn bum mlynedd ynghynt, drama syn trafod llosgach rhwng tad a merch. Trafod marwolaeth a wnaeth yn Fel Anifail yn 1995 a hynnyn gignoeth ac yn eofn. Ond er gwaethaf yr amrywiaeth yma o bynciau yn y rhai hyn ac eraill oi ddramu, mae rhywun bob amser yn ymwybodol o bwysigrwydd gormesol bron y teulu, y gorffenol, goddefgarwch a maddeuant o fewn yr uned deuluol ar tensiynau di-ben-draw syn deillio o fyw mewn uned gls. Dros ddeng mlynedd yn l dywedodd Povey mewn cyfweliad Gareth W. Jones, Mae perthynas deuluol (yn enwedig edliw) yn fy niddorin fawr, ac maen amlwg nad yw hynny, o leiaf, wedi newid. Er ei fod yn gyndyn o ddatgelu manylion Tair, maen fodlon dweud bod y tri chymeriad wedi bod, neu yn mynd, trwyr un profiad. Mae hefyd yn barod i fentro tynnur ffeministiaid yn ei ben trwy ychwanegu bod drama neu unrhyw waith arall syn cynnwys merched yn sicr o gynnwys dynion hefyd mewn rhyw ffordd, hyd yn oed os nad ydynt yno on blaenau. Mae on anorfod, mae o yn digwydd a dyna fo. Oddi ar y llwyfan y bydd y tri chymeriad gwrywaidd sydd yn y ddrama hon drwy gydol y chwarae, a chanolbwyntir yn llwyr ar brofiadaur merched.

Er mod i wedi sgwennu dramu efo cymeriadau benywaidd cry ynddyn nhw, don i erioed wedi sgwennu dim iferched yn unig, meddai. Daeth yr ysbrydoliaeth oi brofiad personol, a sefyllfa deuluol y bu ynddi ei hun: y wraig ac yntau wedi symud or gogledd ac wedi ymgartrefu yn y de, ei fam yng nhghyfraith wedi aros yn Ynys Mn, ai ferch hefyd wedi dal i fyw gartref. Aeth yr awdur ar l syniad lled debyg rai blynyddoedd yn l yn ei ddrama deledu Nel, ond y tro hwnnw y sefyllfa ieithyddol oedd yn ganolog. Wrth aeddfedu, meddai, mae wedi naddu ei grefft; mae llai o gymeriadau yn y ddrama lwyfan, a mwy o ganolbwyntio ar ar ymateb y tair cenhedlaeth ir sefyllfa dan sylw ac iw gilydd. Gallwn hefyd ddisgwyl set foel, fel ag y gafwyd yn rhai or cynyrchiadau blaenorol, gydar sylw i gyd ar y cymeriadau, eu geiriau ar berthynas rhyngddynt. Maer awdur yn falch o gael gweithio am y trydydd tro gyda Bethan Jones, syn cyfarwyddo ar ran Dalier Sylw, am nad oes ganddi ofn gweithio o fewn y terfynau hyn. Un peth syn dda efo Bethan ydi nad ydi hi ofn seibiau; mae hin gwneud rhywbeth ohonyn nhw, a mi fydd yna seibiau i bwrpas yn y ddrama hon hefyd.

Maen pwysleisio mai dim ond man cychwyn oedd meddwl am ei amgylchiadau teuluol ef ei hun. Nid bod y nain, nar un cymeriad arall yn y ddrama, yn debyg i nain Sir Fn, dim dyna dwin ddeud, ond mae rhaid i bob drama gychwyn yn rhywle, efo rhyw realaeth. Or sefyllfa real yma wedyn, meddai, caiff y cymeriadau dyfu. Am y tri neu bedwar mis cynta o ysgrifennu drama y fi syn gwthior cymeriadau, ond ar l hynny maen nhwn dechrau nhywys i.

A ywr awdur yn disgwyl beirniadaeth, tybed, fel dyn yn beiddio ysgrifennu am ferched yn unig? Dwi wedi gwneud fy ngorau, mae be dwin sgwennu yn ddidwyll. Chwech o bobl yn unig sydd wedi darllen y sgript, merched i gyd, a does neb wedi cwyno dim, a mi ddywedodd un, Mi wyt ti wedi mynd i mewn i feddwl merch. Dyma, yn l yr awdur, y clod mwyaf y gall obeithio amdano; os yw pobl yn eu hadnabod eu hunain neu bobl go iawn yn ei gymeriadau ef, mae wedi llwyddo. Dwin gofyn yn gynnil iddo a oes ganddo rywbeth gwahanol i ddweud am y bwlch ystrydebol rhwng y cenhedlaethau ac mae ei ateb yn hyderus o gadarnhaol. Wrth gwrs, ydi, mae o wedi ei wneud filoedd o weithiau or blaen, ond dymar tro cynta i mi ei wneud o, a dwin gwybod, yn Gymraeg, mod in sgwennu yn wahanol i bawb arall, yn sicr o ran fy neialog... Be wyt tin neud ohono fo, y gwreiddioldeb wyt tin gallu gynnig iddo fo, dyna syn cyfri.

Ac os ydych chin awyddus i weld gwaith Meic Povey yn y theatr, maen rhaid i chi frysio i weld y ddrama hon; dydi o ddim yn addo toreth o ddramu dros y blynyddoedd nesaf. Be hoffwn i i weld yn fwy na dim rwan fyddai cynyrchiad newydd o rai or dramu dwi wediu sgwennu eisioes.

Mae Perthyn eisioes yn destun gosod mewn ysgolion ar awdur yn prysur ddod yn rhan or canon. Does dim byd fel gweld drama newydd sbon yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf, ac mae Tair yn addo bod yn brofiad theatrig perthnasol i bawb. Wedir cwbl mae gwaed bob amser yn dewach na d_r.

Brwydr y Botel

Gwin Coch a Fodca gan Wynford Ellis Owen (Theatr Powys)

Yn 1992 fe dreuliodd yr actor Wynford Ellis Owen dri mis mewn canolfan ger Aberystwyth ar gyfer trin alcoholigion. Ac yntau wedi bod yn ceisio rhoir gorau i yfed am flynyddoedd cyn hynny, maen edrych ar y profiad fel trobwynt yn ei fywyd. Dywed fod ei ymdrechion i roir gorau iddi hyd at hynny wediu tynghedu i fethu gan nad oedd y cymhelliad yn ddigon dwfn.

Don i mond yn ei wneud o i drio cadw ngwaith a chadw ngwraig. Don i ddim wirioneddol isio rhoir gorau iddi ynof fy hun, a dynar unig ffordd yn y pen draw. Yn Rhoserchan wnes i sylweddoli hynny.

Pan adawodd Roserchan, fe ofynnodd cynghorydd iddo a oedd am siarad am ei alcoholiaeth ynteu cuddior peth. Penderfynodd yr actor yn y fan ar lle ei fod am fod yn agored, ac mae wedi cadw at ei air. Mae wedi siarad yn gyhoeddus droeon am ei yfed trwm, effaith hynny arno ef ai deulu, ar modd y mae wedi gallu goresgyn y broblem, er y bydd, meddai, yn alcoholig am byth.

Nid yn annisgwyl, felly, maer elfennau bywgraffyddol yn ei ddrama newydd, Gwin Coch a Fodca, yn amlwg. Rhoserchan ei hun ywr lleoliad, ac mae Meic, y prif gymeriad (Sir Llyfni), syn cyrraedd yno ar ddechraur ddrama, yn Gymro dosbarth canol, yn fab i wenidog ac yn actor a chanddo broblem yfed. Ond maer awdur yn pwysleisio bod profiadau Meic fel y datgelir hwy yn y ddrama yn rhai syn gyffredin i alcoholigion yn gyffredinol. Yr un ydir daith ir gwter yn achos bron bob un ohonom ni, meddai. Yr un hefyd allan or gwter? Does yna ddim neges hawdd o obaith yn y ddrama, yn l yr awdur.

3% or bobl syn dros eu problem yfed syn llwyddo i aros yn sobor trwyr amser. Mynd o ddydd i ddydd mae rhywun. Mae aros yn sobor heddiw yn ddigon o gamp ynddoi hun.

Y peth anoddaf wrth ysgrifennur ddrama, meddai, oedd peidio llithro i fyd nodwedd neu ddogfen. Maen gobeithio ei fod wedi llwyddo i osgoi hynny ar peryg amlwg arall, sef pregethu. Er fod sgwennur peth wedi bod yn eitha cathartig, nid trio egluro na chyfiawnhau fy alcoholigiaeth rydw i, a dwi ddim eisiau diflasu neb. Be dwin neud ydi trio cael pobl i weld yr alcoholig yng nghud-destun teulu ac i ddiosg eu rhagfarnau am y cyflwr mae gan lawer o bobl agwedd simplistig iawn at y peth.

Straeon a Symud

Mefus gan Sera Moore Williams (Y Gymraes)

Gyddfau isel, sodlau uchel a rhywun annisgwyl i swper. Cyflwr y byd o berspectif benywaidd, meddai blyrb Mefus, cynhyrchiad Y Gymraes. Maer perspectif benywaidd yn anorfod, gyda sioe wedii hysgrifennu gan Sera Moore Williams ac yn cael ei pherfformio gan ddwy ferch, Gwenllian Rhys a Carys Gwilym. Ond mae Sera Moore Williams yn prysuro i ddweud nad sioe am ferched yn unig, nac ar eu cyfer nhwn unig, mohoni.

Dweud straeon fyddwn ni, a sioe yngl_n chrefft y cyfarwydd ydi hi, ac fe ddylai hynny fod yn ddifyr i bawb. Mi fyddwn nin dweud cyfuniad o straeon traddodiadol a rhai personol gan edrych ar y ffordd y bydd y rhai personol fallen tyfu i fod yn rhyw fath o chwedloniaeth yn y dyfodol.

Mae dilynwyr gwaith Y Gymraes yn gyfarwydd phwyslais delweddol, corfforol eu gwaith ac mae Mefus yn yr un mowld. Gwaith corfforol ydi nghefndir i, fel rhywun fun gweithio efo cwmnau fel Brith Gof, meddai Sera Moore Williams. Dwin treulio llawer mwy o amser yn coreograffun fanwl nag a fydda i yn cymeriadu, er enghraifft. Ond maer defnydd o iaith yn bwysig. Ar l y gwaith cynnar, corfforol, mi ddes in ymwybodol fod rhaid defnyddio iaith yn y theatr Gymraeg, a bod yn rhaid i honno fod yn fath arbennig o iaith iaith lafar yn hytrach na iaith rhy delynegol, ond heb fynd yn l at y ddrama gegin gefn chwaith. Dwin defnyddio geiriau oherwydd eu rhythmau yn ogystal u hystyr.

Nodwedd arall ar waith y cwmni yw eu defnydd o hiwmor ac addewir cryn dipyn or digri y tro hwn hefyd. Y gobaith wrth lwyfannur sioe yn y Chapter yw denu nid yn unig Eisteddfodwyr a fydd yn aros yng Nghaerdydd ond rhai o Gymryr brifddinas hefyd. Maer dewis yn ysgafnhaur baich trefnu ar ysgwyddau cwmni bychan, gan eu galluogi hefyd i gyflwyno gwaith mwy theatraidd nag a fyddain bosib mewn neuadd neu festri capel. Ddwy flynedd yn l, yn Eisteddfod Llandeilo, treuliodd aelodaur cwmni amser yn trawsnewid festri capel yn focs gwyn ar gyfer Mae Sin yn Gadael Cymru. Eleni mae Sera Moore Williams yn edrych ymlaen at yr her o drosglwyddo ei straeon ir llwyfan heb orfod poeni am bethau felly, o leiaf.

Sanau Diflanedig a Phethau Eraill

Clymu Cymyle gan Ian Staples (Cwmni 4Q)

Ydych chi erioed wedi gofyn beth syn digwydd ir sanau unig rhein y syn diflannu yn y peiriant golchi? Dyma un or cwestiynau mawr a godir yn nrama Ian Staples, Clymu Cymyle, a ysgrifennodd yn wreiddiol yn y Saesneg The Wind Netters. Mae teitl y ddrama yn y ddwy iaith yhn athronyddol o amhosibl, ond nid drama ddwys am natur bywyd a geir yma ond comedi, yn l yr awdur, syn trafod popeth o bwysigrwydd cymdeithasol jelly babies i natur Duw a ffawd. Mae hyn yn cael ei ategu gan natur hap a siawns y siop fetio, lleoliad y ddrama, ac wrth wrando ar yr awdur yn trafod y madcap conversation syn digwydd rhwng dau gymeriad y ddrama, mae rhywun yn cael ei atgoffa o bopeth o Beckett i Reeves a Mortimer.

Bydd y cynhyrchiad hwn dan gyfarwyddyd Menna Price rywfaint yn fwy haniaethol, maen debyg, nar cynhyrchiad Saesneg gwreiddiol a berfformiwyd yn 1995 gan Gwmnir Sherman. 4Q fydd yn perfformio y tro hwn, cwmni a sefydlwyd yn 1993 ar gyfer perfformio drama gyntaf Ian Staples, Breuddwyd Icarus, yn Eisteddfod Llanelwedd. Y gobaith yw teithior ddrama yn y ddwy iaith yn y flwyddyn newydd. Maer awdur yn eiddgar iawn i weld dramu Cymraeg yn cael eu gwerthfawrogi ar yr un lefel rhai Saesneg, ac maen gobeithio y bydd Clymu Cymyle yn caelei pherfformio yn Nulyn yn ogystal. Efallai fod cenhadaeth or un natur yn amlwg yn ei waith sgriptio ar gyfer Pam Fi Duw?, cyfres sydd wedi dod yn boblogaidd iawn er gwaethaf y feirniadaeth gban buryddion y genedl ar ei Valley Welsh. Mae Ian Staples yn credu mewn ffordd fyw o ddefnyddior Gymraeg a fydd yn denu gwylwyr ifanc yn y dee at y sianel, ac maen ysgrifennu fel y maen siarad ei hun.

Ond nid at yr ifanc yn arbennig yr anelir Clymu Cymyle, ac er nad ywn ddrama gonfensiynol maer awdur yn mynnu nad oes fawr ddim ynddi fydd yn siocio, fel y disgwylid efallai gan awdur ifanc. Ei boen fawr yw mai am 6 or gloch y nos y bydd y ddrama yn cael ei pherfformio ac y bydd selogion yn dal i ymlwybro or maes yr adeg hynny, tra bydd yr ifanc yn dechrau llenwir tafarndai. Deugain munud yw hyd y ddrama, ac os oes arnoch awydd rhywfaint o wreiddioldeb a hiwmor gan awdur sydd yn ymddangos fel petai yn mynd o nerth i nerth, yng Nghymru a thu draw, brysiwch or cadeirio neur coroni hwyr yna, rhowch orffwys ir iau am ryw awr fach, a cherwch iw gwylio. Cafodd ymateb da iawn yn y Saesneg, a gwaer Cymry os ydynt am ymddangos yn amharod i roi cyfle i rywbeth newydd. Wedir cyfan, ym myd theatr mae hyd yn oed clymu cymylau yn bosibl.

Serch a Gwleidyddiaeth

Skylight gan David Hare / addas. John Owen (Theatr Gorllewin Morgannwg)

Gwelodd John Owen Skylight David Hare dair blynedd yn l yn y Cottesloe, yn y National Theatre, Llundain, a chael ei gyfareddu. Mae ganddo gof arbennig am yr ail-gread byw ar lwyfan or ystafell mewn fflat lle maer ddrama gyfan yn digwydd, yn enwedig y gwynt spaghetti bolognese hyfryd oedd yn hofran dros y gynulleidfa. Ond maen cofior ddrama am resymau mwy sylfaenol hefyd, yn bennaf am ei bod yn stori garu gref wedii phlethu gyda sylwebaeth wleidyddol finiog.

Skylight yw ugeinfed drama David Hare, ac ym marn John Owen, awdur y cyfieithiad Cymraeg, maen ddrama ysgubol. Er taw Sais yw David Hare, wedii eni yn Portsmouth, maen feirniadol iawn o Loegr ac or diwylliant Saesneg, meddai. Yn Skylight, ei ugeinfed drama, ryn nin cael darlun deifiol or cyfnod Thatcheraidd ai werthoedd. Wedi dweud hynny nid polemig sydd yma ryn ni cael y wleidyddiaeth i gyd yng nghud-destun y stori garu.

Maen pwysleisio mae wedi cyfieithur ddrama y mae yn hytrach nai haddasu. Yr East End, Llundain, yw cefndir y gwreiddiol, a doeddwn i ddim yn gweld angen i newid hynny. Am yr un rheswm dwi wedi penderfynu cadwr teitl yn Saesneg. Dwin ffyddiog fod y ddrama fel ag y mae yn cynnwys digon o gyfeirnodau y bydd Cymryn gallu uniaethu nhw.

Maer ddraman digwydd mewn cwta naw awr yn ystafell fyw flr twll o fflat yn yr East End. Rhwng naw or gloch y nos a thri y bore, mae Kyra, merch ifanc ddeniadol ddeg ar hugain oed, yn cael dau ymwelydd. Y cyntaf yw mab ei chyn-gariad; yr ail ywr cyn-gariad ei hun. Trwy sgyrsiau datgelir inni sut y tyfodd y garwriaeth rhwng Kyra, fel Saesnes ddosbarth canol a gyrhaeddodd Lundain pan oedd yn ddeunaw oed, a Tom, dyn busnes llwyddiannus, canol oed a g_r priod.

Cawn wybod fod y berthynas wedi para am bum mlynedd hapus, ond fod Kyra wedyn wdi cyfnewid ei hawddfyd gyda Tom am yr her o fod yn athrawes yn un o ysgolion gwaethaf Llundain. Pam? Ac a fydd cynnau tn ar hen aelwyd? Nid yw John Owen am ddifethar stori i neb, ond maen addo noson ddifyr, lawn tydra a fydd yn o peri inni ailystyried diffiniadau du a gwyn o gyfalafiaeth a sosialaeth, o dde a chwith. Maen frwydr syniadol ac yn frwydr emosiynol, bersonol.

awdur:GWENAN ROBERTS A MENNA BAINES
cyfrol:426/427, Gorffenaf/Awst 1998

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk