Drama, Dawns a Dana
GEORGE OWEN, Swyddog Drama’r Eisteddfod sy’n crynhoi arlwy Theatr y Maes a’r cystadlaethau.
Pe cynigid gwobr am frwdfrydedd perfformwyr a phe cynigid llawryf arall amboblogrwydd llwyfaniaid nid oes amheuaeth pwy fyddai’n eu cipio. Llwyfaniad blynyddol Mudiad Ysgolion Meithrin, o flaen awditoriwm dan ei sang, fyddai’n rhagori bob tro. Eleni penderfynwyd neilltuo’r Sadwrn cyntaf i gyflwyniadau gan ac i blant ac ieuenctid ac mae’n gwbl briodol mai cyflwyniad plant meithrin y dalgylch fydd yn agor gweithgareddau Theatr y Maes. Lawr yn y Jyngl y byddwn ni fore Sadwrn, 1 Awst, ac fe fyddwn yn ôl yno am ddau berfformiad arall fore Mawrth. Ar y Sadwrn cyntaf hefyd bydd dau gyflwyniad arall a fydd yn nodweddiadol o’r sylw a roir eleni i’r ifanc, gyda Theatr Bypedau Sblot yn cyflwyno Y Llygod Esgid ac yna disgyblion Ysgol Gyfun Bryntirion yn cyflwyno eu dehongliad o chwedl Blodeuwedd. Peidied â cholli chwaith frwydr ddewr Mici Plwm i gadw yn Bobl Bach – Deud Mawr yr un diwrnod. Bydd cyfle arall i glywed y plant yn doethinebu ar y Sadwrn olaf.
Mae’r pwyslais yma ar blant ac ieuenctid yn llinyn arian trwy’r wythnos. Dydd Llun bydd Theatr y Byd Bychan yn cyflwyno Manifiesta de la Sella, cyfuniad hudolus o bypedau cysgod a cherddoriaeth yn olrhain hanes cythryblus coedwigoedd glaw De America, yn cael ei dilyn gan Dawns Tân, cwmni dawns ieuenctid y dalgylch. Dydd Mawrth Domino’r clown fydd yn diddanu. Dydd Iau llwyfennir, am y tro cyntaf, gyflwyniad gan blant ail iaith ysgolion cyfun y dalgylch, Ian, gan John Owen, dan oruchwyliaeth Theatr Gorllewin Morgannwg. Mae hi bron yn draddodiad bellach i groesawu cwmni Arad Goch i’r theatr ar fore Gwener a Sadwrn; Clychau’r Môr fydd yn llesmeirio’r plant eleni, sioe sy’n cyfuno stori Cantre’r Gwaelod â straeon eraill am ddirgelwch y byd dan y tonnau.
Ar gyfer oedolion, mae’r amywiaeth yn cynnwys Y Gweinydd Mud, drama iasoer Pinter yn cael ei chyflwyno gan Frank Lincoln a Geraint Wyn Davies, Chwedl, Cân a Chwaneg gan Esyllt Harker, y storïwr Michael Harvey a’r gantores Tracey Blythe; hefyd I gan fyfyrwyr Coleg Cerdd a Drama Cymru, ac O’r Niwl i’r Nef gan Theatr Crwys, ail gyflwyniad o lwyfaniad buddugol Cystadleuaeth Drama Fer Eisteddfod Meirion. Dadansoddi trwy gyfuniad o gerddoriaeth, barddoniaeth wreiddiol a symudiad beth o argyfwng cefn gwlad fydd Jery Daboo. Rhoddwyd penrhyddid arall i rai o wynebau cyfarwydd y sgrîn i greu sioeau, rhai’n unigol, rhai gyda’i gilydd. Yn ystod yr wythnos byddwn yn croesawu Anwen Carlisle, Phil Harries a Mali, Llio Silyn a Gwen Lazarus, Marc Roberts ac efallai ambell wyneb llai cyfarwydd. Cwmni Gwaun Ddewi fydd yn cyflwyno Mae Gorfoledd Dyfroedd yn fy Nghlustiau Heno, rhaglen deyrnged i Rhydwen Williams, dydd Llun a dydd Gwener.
Bydd Theatr y Maes yn brysur gyda’r nos hefyd. Cwmni Arad Goch fydd yn meddiannu’r lle nos Lun hyd nos Fercher, gyda Cwrw, Chips a Darlith Deg gan Siân Summers, sioe un dyn am fywyd myfyriwr. Bydd diwedd yr wythnos yn cael ei neilltuo aqr gyfer prawf terfynol cystadleuaeth y Ddrama Fer. Mae dau gyn-ennillydd ymysg yr wyth cwmni sy’n cystadlu, gyda chynrychiolaeth dda o gwmnïau ifanc.
Neuadd y Dref, Maesteg fydd maes brwydro gornest flynyddol y Ddrama Hir. Eleni bydd tri chwmni’n ymddangos. Nos Lun Cwmni’r Mochyn Du, Crymych fydd yn cyflwyno Un o’r Gloch o’r T_, addasiad o ddrama gan Frank Vickery. Cyn-ennillwyr, Cwmni’r Gwter Fawr, fydd wrthi nos Fawrth gyda Dedwydd Briodas J.B Priestley, a Theatr Crwys ar y noson olaf gyda Pont Robat, ffars hwyliog Huw Roberts. Eleni mae Is-bwyllgor Drama wedi gosod cystadleuaeth arbennig ar gyfer Drama Gerdd a bydd tri chwmni’n cystadlu. Nos Iau Aelwyd Bro Maelor fydd yn cyflwyno Gwnaf, sy’n seiliedig ar hanes y gantores boblogaidd Dana. Nos Wener Cwmni Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth fydd yn llwyfannu Talu’r Pris yn Llawn, ymdriniaeth ag ymateb cymdeithas i broblem cyffuriau. Nos Sadwrn bydd sdisgyblion Ysgol Gyfun y Cymer yn llwyfannu addasiad John Owen o Godspell.
Wythnos lawn a phrysur ac wythnos fydd yn adlewyrchu’r gorau ym myd y llwyfan proffesiynol ochr yn ochr â gweithgarwch amatur a brwdfrydedd yr ifanc.
awdur:George Owen
cyfrol:426/427, Gorffenaf/Awst 1998
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com