Theatre in Wales

Theatre, dance and performance companies (professional)

  Cwmni Theatr Martyn Geraint

Cwmni Theatr Martyn Geraint


Pontypridd

  current production | past productions
director
cyfarwyddwr
Martyn Geraint
artistic policy
polisi artistig
Dechreuodd Cwmni Theatr Martyn Geraint diolch i wahoddiad gan Eleri Retalick, rheolwraig Theatr Y Glowyr, Rhydaman yn ystod y flwyddyn 2003. Roedd angen pantomeim mewn theatr heb lawer o oleuadau, llwyfan arferol na llenni; roedd angen sioe Gymraeg a Chymreig ar gyfer ardal Rhydaman [oedd dan sylw arbennig Bwrdd yr Iaith ar y pryd]; ac roedd MG yn awyddus i berfformio mewn pantomeim – a’r cyfuniad yma oedd yn gyfrifol am y pantomeim cyntaf “Y Panto Pop” gyda chymorth Iwan John fel y cymeriad “Eddie Butler”, y grwp pop “Trysor” a chanwr ifanc o’r cymoedd Alun Cowles. 4 diwrnod o sioeau bu yn ystod 2003 – 2 yn Rhydaman a 2 yng Nghwmaman, Aberdar.

Ers hynny, mae’r cwmni a’r cynhyrchiadau wedi tyfu’n raddol, a diolch i gefnogaeth Geoff Cripps ac Angela Gould o Theatrau Rhondda Cynon Taf a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae’r cynhyrchiad presennol “Sinderela” yn para 8 wythnos ac yn teithio theatrau ledled Cymru.

Mae’r sialens o gynhyrchu Pantomeim proffesiynol sy’n symud yn ddyddiol o leoliad i leoliad yn enfawr. Ond gyda chymorth criw technegol arbennig a chefnogaeth staff ymroddgar a brwdfrydig theatrau Cymru, nod y cwmni yw creu sioe fythgofiadwy i’r gynulleidfa ar bob achlysur gan geisio cyflwyno hud y theatr, efallai am y tro cyntaf, i bobl o bob oedran.

Pantomeimiau eraill Cwmni Theatr Martyn Geraint;
“Martyn, Eddie a’r Trysor coll”[2004], “Martyn ap Croeso”[2005+6], “Martyn a’r Pws mewn Bwts”[2007], “Martyn, Mam a’r wyau aur”[2008] a “Martyn Geraint a’r losin hud”[2009] “Martyn Geraint a’r Lamp Hudol”[2010] “Jac a’r Goeden Ffa”[2011]

Martyn Geraint’s Theatre Company started on a very small scale as a result of an invitation from Ammanford in 2003. Since then the company has developed every year thanks in no small way to the support of Rhondda Cynon Taf Theatres and the Arts Council of Wales, and is still striving to bring new experiences and entertainment of a high standard to Welsh audiences. Due to the nature of the travelling theatre, we’re not able to compete with the scale and magnificence of some of the established pantomimes – but what we lose on that front we hope to make up for in knowing our audience and bringing those unique little touches that MG has developed during his 22 years of experience entertaining the children of Wales – and their Mams, Dads, Grannies, Grandads, Teachers, Headteachers ……


Cynhyrchiad nesaf ;
Draw Dros Enfys y Cyfnod Sylfaen – Gwanwyn 2013 –
Taith i ddathlu gyrfa Martyn Geraint yn dathlu plant Cymru ers 22 mlynedd.

Next Production;
Over the Foundation Phase Rainbow – Spring 2013 –
A bi-lingual tour celebrating Martyn Geraint’s 22 year career entertaining Wales’ children.

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web deisgns / keith@artx.co.uk