|
|
Theatr y Dyfodol 10, Queen Charlotte Drive |
|
| current production | past productions | |
| phone | ffôn | 02920 892 323 |
| fax | ffacs | 02920 891 811 |
| e-mail address | e-bost | wynfordowen@aol.com |
| director cyfarwyddwr |
Wynford Ellis Owen/Morfudd Hughes |
| administrator
gweinyddydd |
W.E.Owen |
| artistic
policy polisi artistig |
I gyflwyno cyfoeth dramau Cymru i'r byd gan ddefnyddio is-deitlau byw a dulliau newydd y 'gwyddoniaeth o actio' o gyrraedd y gwirioneddau sy'n gudd yn y geiriau. |
| brief history hanes cryno |
Bu Morfudd Hughes yn astudio cyfarwyddo yn The School of the Science of Acting' yn Llundain. Dychwelodd i Gymru a chyfarfod Wynford Ellis Owen, actor profiadol, a oedd yn chwilio am ddulliau newydd ei hun o dreiddio dan groen cymeriadau mewn dramau - ac a oedd yn bryderus, oherwydd priner cyllid a'r pwysau cynyddol ar actorion i ymarfer mewn llai a llai o amser - eu bod yn dueddol o bwyso fwy-fwy ar yr un hen gymeriadau stoc. Dyma, yn ei hanfod, oedd wrth wraidd problem 'yr un hen wynebau' glywid cwyno amdano gymaint ar y teledu ac yn y theatr. Yr un hen gymeriadau stoc oedd yn cael eu cynnig mewn gwirionedd dro ar l tro! Roedd dullai newydd Morfudd yn golygu ail edrych ar y broses ymarfer, a chael yr actorion i edrych o'r newydd ar eu meddyliau cudd a'u prif bwrpasau o fewn y ddrama, ac o anghenion y cymeriadau yn sgil y wybodaeth hynny. Cynhaliwyd gweithdai i ysgolion a cholegau yn ystod y daith, a bu cryn drafod ar y dulliau o ymarfer - a'r wedd newydd gyflwynai ar y ddrama enwog |
| selected
past productions rhai cynhyrchiadau'r gorffenol |
"Siwan" gan Saunders Lewis. 1998 (Cymhyrchwyd ar y cyd Chwmni Theatr Gwynedd. Fe'i perfformwyn yn Theatr Gwynedd, ac ar daith o Gymru. Gyda Morfudd Hughes yn cyfarwyddo, a Wynford Ellis Owen, Rhian Morgan, Sara Lloyd a Ryland Teifi yn y prif gymeriadau.) |
| future plans
cynlluniau at y dyfodol |
Dim manylion eto |
Want to advertise here? Contact