Theatre in Wales

Theatre, dance and performance companies (professional)

 

Cwmni Mega



  current production | past productions
e-mail address | e-bost cwmnimega@hotmail.com
director
cyfarwyddwr
Dafydd Hywel
brief history
hanes cryno
Sefydlwyd Cwmni Mega ym 1994 a’i lleolwyd yn Cross Hands, Sir Gâr ers 1997. Prif ffocws gwaith y Cwmni ar y foment yw’r pantomeim blynyddol ond gwireddwyd breuddwyd y Cwmni rhai misoedd yn ôl pan derbyniodd y Cwmni nawdd oddi wrth Cyngor Celfyddydau Cymru i lwyfanu’r ddrama ‘Perthyn’ gan Meic Povey. Bydd Cwmni Mega, o dan yr un nawdd yn llwyfanu’r ddrama ‘Panto’ gan Gwenlyn Parry yn y dyfodol agos. Fe fydd yn daith cenedlaethol sy’n ymweld â theatrau amlycaf Cymru. Mae’r daith yn cychwyn yn Chwefror 2004.

Pantomeim eleni fydd ‘Pwy Laddodd Wili Gwylliaid?’ sydd yn seiliedig ar hanes cyffrous Gwylliaid Cochion Mawddwy. Comisiynwyd yr awdur Arwel John i sgriptio’r pantomeim a byddwn yn teithio ledled Cymru yn Nachwedd 2003 tan diwedd Ionawr 2004.

Mae gan Gwmni Mega draddodiad llwyddiannus o gydweithio’n effeithiol â nifer o sefydliadau gwahanol. Sefydlwyd partneriaeth waith llewyrchus â Mentrau Iaith Myrddin, Menter Aman Tawe ac erbyn hyn Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot. Rheolwyd prosiectau diweddaraf y cwmni gan swyddogion y Mentrau Iaith uchod. Derbyniwyd, yn ogystal, arian mewn da oddi wrth Cyngor Sir Caerfyrddin.

Parhau mae’r bartneriaeth â chwmni Barcud Derwen a llwyddwyd hefyd i gydweithio â Prosper Cymru i gyflogi pobl ifanc, di-waith, sydd â diddordeb mewn mentro i yrfa ym myd y theatr.

Yn ddiweddar comisiynwyd sgript ffilm gan y Cwmni sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd mewn cydweithrediad a chwmniau preifat.

Breuddwyd Cwmni Mega yw sicrhau grant refiniw oddi wrth Cyngor Celfyddydau Cymru dros gyfnod estynedig a fydd yn galluogi’r cwmni i gynnal swyddfa barhaol a staff digonol i ymestyn gwaith y Cwmni yn effeithiol i feysydd tu hwnt i’r pantomeim blynyddol.

Petai gennym aelodau o staff llawn/rhan amser ar hyd y flwyddyn, mi fyddai hyn yn caniatáu i ni farchnata ac hysbysebu gwaith y Cwmni yn fwy effeithiol tra’n cynnig y cyfle i ganolbwyntio ar gynllunio prosiectau newydd blaengar. Hyfryd o beth, hefyd, byddai’r cyfle i weithio gyda myfyrwyr ysgol a choleg drwy gynnig gweithdai ym maes y theatr, a meithrin talentau newydd.
future plans
cynlluniau at y dyfodol
Byddwn yn teithio gyda drama Gwenlyn Parry 'Panto' yn Chwefror/Mawrth 2004. Actorion yn cynnwys Sue Roderick a Bryn Fon. Bwriadwn cynnal clyweliadau yn y dyfodol agos - manylion i ddilyn.

Teitl ein pantomeim am eleni fydd 'Pwy Laddodd Wili Gwylliaid?' sy'n seiliedig ar hanes Gwylliaid Cochion Mawddwy. Eto, bydd clyweliadau yn y dyfodol agos ond mae hwn yn dibynnu ar sicrhau grant CCC.

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web deisgns / keith@artx.co.uk