Theatre in Wales

Commentary and extended critical writing on theatre, dance and performance in Wales

Cyflwr y Chwarae yng Nghymru: Ble mae’r straeon?

Mae cynulleidfaoedd Cymru yn dyheu am straeon sy’n adlewyrchu eu bywydau a’u pryderon

Mae cynulleidfaoedd Cymru yn dyheu am straeon sy’n adlewyrchu eu bywydau a’u pryderon. Dylai’r straeon yma ddathlu, amlygu a datgan gwirioneddau am fywydau Cymry heddiw. Dylent hefyd fod yn straeon y mae angen i’r Cymry eu clywed, nid eisiau eu clywed yn unig – straeon sydd yn heriol, cyffrous a chynhyrfus. Ar hyn o bryd, yng Nghymru, mae yna gyfle euraid i’r straeon yma gyrraedd ein llwyfannau. Heb gefnogaeth i waith dramodwyr sydd dal yn fyw, mae dyfodol y ddrama yn y fantol, ac mae hynny’n wir ledled y byd. Mae dramodwyr o Gymru yr un mor dalentog ac maent yr un mor gynhyrchiol â dramodwyr o Loegr, Iwerddon a’r Alban, felly pam fod cyn lleied o broffil ganddynt yng Nghymru a thu hwnt? Mae’r ateb i hynny yn boenus, ond allwn ni ddim ei anwybyddu. Nid yw Cymru wedi poeni digon i ddarparu dramodwyr Cymraeg a Chymreig gydag awyrgylch lle y gallant flodeuo a mynd o nerth i nerth.

Cyflwr y Chwarae: Pam fod dramodwyr yn bwysig?
Dylai gwaith newydd ac ysgrifennu newydd i’r llwyfan fod yn ganolbwynt pwysig i gelfyddydau Cymru, a hynny am mai’r dramodwr yw’r artist mynegiannol sydd yn y sefyllfa orau i gyflwyno cynrychiolaeth gyfoes o Gymru heddiw i gynulleidfaoedd gwahanol yn ein cymunedau ni a thu hwnt. Tra bod Lloegr yn derbyn buddsoddi digyffelyb mewn theatr sy’n newydd, amrywiol ac o fewn cyrraedd pawb, nid yw’r un peth yn wir am Gymru. Mae’r Theatr yng Nghymru yn fregus o ganlyniad i ddegawd a mwy o ddiffyg buddsoddiad teilwng a strategaeth wan. Mae’r gwahaniaeth yn gywilyddus ac mae’n rhaid i bethau newid. Er mwyn creu synnwyr o obaith a phosibiliadau, mae’n rhaid i’r theatr yng Nghymru ddechrau rhoi blaenoriaeth i’w dramodwyr.

Cyflwr y Chwarae: Beth y dylid ei wneud?
Mae’n bryd i ni fabwysiadu agwedd ddifrifol a chyfannol sy’n cynnig y gefnogaeth briodol i gynhyrchu drama gyfoes. Dylai’r agwedd hefyd osod gwaith y dramodydd wrth wraidd strategaeth fyddai’n meithrin gwaith newydd o bob math. Er mwyn creu diwylliant egnïol a chyfoes wedi ei sefydlu ar ddyfeisgarwch, amrywiaeth ac arbenigedd, credwn y dylid cymryd y camau sydd i ddilyn:

Pwynt Gweithredu 1: Mwy o gynhyrchiadau#
Y tu hwnt i Sgript Cymru (cwmni sy’n derbyn nawdd strategol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi ysgrifennu newydd) mae gan nifer o sefydliadau eraill botensial i gynhyrchu dramâu newydd. Dylid clustnodi nawdd i gryfhau a gwella gallu cynyrchiadol sefydliadau sydd ag ymroddiad pendant i ysgrifennu newydd, fel Sgript Cymru a chwmnïau eraill, fel bod ystod eang o gynhyrchwyr Cymreig yn medru comisiynu gwaith gwreiddiol gan ddramodwyr Cymreig. Mae’n hollbwysig bod nawdd ychwanegol ond yn cael ei gynnig ar sail rhaglenni ymarferol a chynhwysfawr i gynyddu cefnogaeth i waith dramodwyr Cymreig - yn hytrach nag ar sail gobeithion aneglur neu fwriadon niwlog. Dylid anelu at greu mwy o ddramâu hir sydd yn newydd a gwreiddiol, a chreu proses o ddatblygu ymarferol llawn dychymyg o fewn cwmnïau, a hynny er mwyn meithrin gwaith dramodwyr.

Pwynt Gweithredu 2: Datblygu Cynulleidfa#
Yn ddealladwy, mae’r mwyafrif o theatrau (cwmnïau cynhyrchu a’r rhai sy’n derbyn), yn wyliadwrus rhag cyflwyno gwaith sy’n beryglus iddynt yn nhermau gwerthiant tocynnau. Dylid cynnig cefnogaeth ariannol ddigonol i’r theatrau yma fel y gallant ddatblygu cynulleidfaoedd. Ni ddylid defnyddio nifer cynulleidfa yn unig fel mesur i lwyddiant drama. Serch hynny, dylid cynnig nawdd ychwanegol i alluogi’r theatrau i gyflwyno cynlluniau sy’n llawn dychymyg i gefnogi derbyniad ysgrifennu newydd, o fewn lleoliadau unigol neu fel rhan o daith bellach.

Pwynt Gweithredu 3: Nawdd comisiynu annibynnol#
Ar hyn o bryd, mae bwrsariaethau hyd at £10,000 ar gael i nofelwyr a beirdd gan yr Academi Gymreig, ond does dim cyfle tebyg i ddramodwyr. Y wobr uchaf sydd ar gael i ddramodwyr yw £5,000 trwy gynllun Cymru Greadigol y CCC. Serch hynny, nid yw’r wobr yn arbenigol, ac o ganlyniad, mae’r dramodwyr yn cael eu rhoi mewn sefyllfa gystadleuol rhwng trawsdoriad eang o artistiaid a disgyblaethau eraill. Dylid creu nawdd annibynnol, sydd wedi ei ddatganoli, lle y gall dramodwyr fel unigolion, neu ddramodwyr a chynhyrchwyr ar y cyd, dderbyn comisiynau a chefnogaeth.

Pwynt Gweithredu 4: Canolfan ymroddedig i ysgrifennu newydd#
Does gan Gymru ddim gofod theatr sydd wedi ei neilltuo’n gyfan gwbl ar gyfer ysgrifennu newydd drwy gydol y flwyddyn sydd yn darparu ffocws i ddramodwyr Cymreig. Dylai’r gofod yma nid yn unig arddangos gwaith newydd gorau Cymru, ond dylai fod yn llwyfan i waith cyffrous o dramor yn ogystal. Dylid sefydlu canolfan a chymryd ysbrydoliaeth oddi wrth theatrau megis The Traverse (Caeredin), The Tron (Glasgow), The Door (Birmingham) a theatrau’r Royal Court, The Bush a Soho (Llundain). Dylid cymryd camau brys tuag at greu, neu ddynodi canolfan yng Nghymru sydd wedi ei hymroi i ysgrifennu newydd gydol y flwyddyn, fel sydd yn bodoli ym mhob gwlad arall yn y D.U., ac yn wir, ym mhob dinas ranbarthol arall.

Pwynt Gweithredu 5: Theatr i Bobl Ifanc#
Mae cwmnïau yng Nghymru a grëodd Theatr i Bobl Ifanc wedi bod yn gyfrifol am ddyfeisio a chomisiynu llawer o waith newydd gwych. Mae’r wyth o’r cwmnïau yma ar fin cael cynnydd mewn nawdd a bydd hynny’n gyfle gwych iddynt sefydlogi a datblygu elfennau o’u gwaith na chanolbwyntiwyd arnynt yn flaenorol o ganlyniad i bwysau ariannol. O hyn ymlaen, dylai CCC gydweithio gyda’r cwmnïau hyn i roi sylw arbennig i’r ffyrdd y gall y nawdd newydd yma gefnogi comisiynu gwaith dramodwyr Cymraeg a Chymreig, tra ar yr un pryd a lle bo’r angen, geisio creu cyfleoedd datblygu partneriaethau ar draws y sector.

Pwynt Gweithredu 6: Partneriaeth a Datblygiad Traws-gyfryngol#
Mae cynhyrchu drama a gweithgareddau yn ymwneud ag ysgrifennu yn bethau cyfarwydd iawn yn y cyfryngau, yn cynnwys darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu ffilm, teledu a theatr, asiantaethau’r cyfryngau a darparwyr hyfforddiant, ond ychydig iawn o gyswllt strategol sydd rhwng y cyfryngau gwahanol a llai fyth o anogaeth i gydweithio. Mae’n rhaid dechrau cydnabod y bylchau mewn cefnogaeth ac archwilio yr angen am ganolfan i gefnogi ysgrifennu dramatig rhyng-gyfryngol yn y ddwy iaith, a all o leiaf annog rhannu gwybodaeth a dechrau ar y dasg o adeiladu llwybr gyrfaol mwy positif i ysgrifenwyr dramatig.

Cyflwr y Chwarae yng Nghymru – Canlyniad?
Mae’n bryd i Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Celfyddydau Cymru ddatblygu a defnyddio strategaeth ddrama genedlaethol sydd yn adlewyrchu proses di-duedd a chynhwysol, gan roi ysgrifennu newydd wrth ei wraidd. Byddai’r adroddiad a gyflwynwyd gan Peter Boyden i Gyngor Celfyddydau Lloegr yn 2000 yn fodel perffaith i’r broses a galwn ar y cyrff yma i gymryd y camau angenrheidiol.

Cefnogir y datganiad hwn gan y dramodwyr canlynol:

Stuart Allen
Meredydd Barker
Jon Blake
Sam Boardman Jacobs
Fflur Dafydd
Lewis Davies
Denise Deegan
Angharad Devonald
Clare Duffy
Manon Eames
Dic Edwards
Sion Eirian
Angharad Elen
Menna Elfyn
Luned Emyr
Rob Evans
Alex Ferris
Geraint Lewis
Delyth George
Gwyneth Glyn
Lucy Gough
Bethan Gwanas
Tracy Harris
David Hedley Williams
Jane Houston
Anwen Huws
Bridget Keehan


Dafydd Llewelyn
Gareth Miles
Sera Moore Williams
RL Nesvet
Kaite O’Reilly
Louise Osborn
Gary Owen
Fiona Padfield
Anthony Pickthall
Meic Povey
Ian Rowlands
Mark Ryan
Laura Santana
Penny Simpson
Othniel Smith
Llinos Snelson
Adam Somerset
Emily Steel
Michael Stevens
Sian Summers
Mared Swain
Ed Talfan
Jon Tregenna
Charlie Way
Roger Williams
Manon Wyn
Meleri Wyn James





Paratowyd y datganiad hwn gan:
Sarah Argent (Cyfarwyddwr Theatr), Steve Fisher (Cyfarwyddwr Cyswllt – Theatr y Sherman), Simon Harris (Cyfarwyddwr Artistig – Sgript Cymru), Sara Lloyd (Actores), Gary Owen (Dramodydd), Chris Morgan (Cyfarwyddwr Artistig - Theatr Y Byd), Helen Raynor (Cyfarwyddwr Theatr/Uned Ysgrifenwyr BBC Cymru), Othniel Smith (Dramodydd) and Roger Williams (Dramodydd).

author:Simon Harris

original source: Sgript Cymru
03 December 2003

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk