Theatre in Wales

Commentary and extended critical writing on theatre, dance and performance in Wales

PWERDY NEWYDD I'R THEATR GYMRAEG

CYNIGION BARA CAWS - PAPUR TRAFOD

1. CEFNDIR
1.1
Mae'n hysbys ers tro fod angen i'r Theatr Gymraeg gael ei hail strwythuro. Dydi'r status quo ddim bellach yn opsiwn gan ei fod wedi creu hinsawdd theatrig merfaidd nad ydyw yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi creu nemor ddim sy'n dangos gwir botensial y gymuned theatraidd yng Nghymru. Mae Bara Caws o'r un farn Chyngor Celfyddydau Cymru bod creu "Pwerdy" - Theatr Genedlaethol Gymraeg - yn hanfodol i ddatblygiad a pharhad theatr Gymraeg greadigol a safonol i'r dyfodol.

1.2
Yn Ebrill eleni, dadleuodd Ian Rowlands (cyd-lynydd Artisitig Bara Caws) am y pwysigrwydd o greu system byramid i'r Pwerdy a phwysleisiwyd yr adeg honno y brys i greu strategaeth ac ymgynghoriad eang i'w osod yn ei le. Y model pyramid a amlinellwyd oedd "sector brosiect wedi ei hatgyfnerthu, yn bwydo i d ysgrifennu newydd oedd yn ei dro yn bwydo'r llwyfan genedlaethol." Yn y chwe mis a basiodd ers hynny mae'r model sy'n cael ei ffafrio gennym yn awr ychydig yn wahanol i'r uchod. Fodd bynnag mae'r nod terfynol yn dal yr un - sef creu modd i unrhyw un sy'n ymarfer y grefft theatrig yn Gymraeg ddilyn gyrfa drwy'r cyfrwng.

Rhag-dybiwyd y byddai'r broses honno yn cychwyn ym mis Gorffennaf, ond yn y cyfamser rhoddwyd blaenoriaeth i drafod Ysgrifennu Newydd.

1.3
Yn bennaf, oherwydd ein gofid y byddai trafodaeth ar y Pwerdy yn cael ei ohirio ymhellach y dechreuwyd llunio'r ddogfen hon i agor y drafodaeth rhagblaen yngln darpariaeth genedlaethol i Gymru.

1.4
Testun llawenydd yw fod y Cyngor wedi gohirio trafod Ysgrifennu Newydd am y tro a chanolbwyntio ar y Pwerdy, oherwydd credwn yn gydwybodol mai dyma'r gwir flaenoriaeth. Ni ddylid trafod Ysgrifennu Newydd fel rhan ar wahn i'r theatr Gymraeg ond yn hytrach fel rhan annatod a hanfodol o'r cynllun eang. Pan fydd y Pwerdy a Clwyd Theatr Cymru yn eu lle fel sefydliadau cenedlaethol - wedyn gellir asesu anghenion Ysgrifennu Newydd, a chreu a datblygu strategaeth intigredig iddo fydd ynghlwm 'r sefydliadau cenedlaethol.

1.5
O fewn y ddogfen hon, ceisiwn amlinellu y modd yr hoffem ni ym Mara Caws (wedi ymgynghori rhai unigolion) weld y Pwerdy a'r ddarpariaeth Gymraeg yn datblygu.
Pwrpas y ddogfen hon yw creu amlinelliad posib o fodel ar gyfer y Ddarpariaeth Gymraeg fel y gallwn wyntyllu pob syniad mewn modd adeiladol ac ar sail gwybodaeth a ffeithiau.

Yn nyddiau Cwmni Theatr Cymru gellid dadlau bod y gynulleidfa Gymraeg yn unffurf os nad yn llai soffistigedig nag ydyw heddiw. Erbyn hyn rydan ni yng nghyfnod l-ddatganoli, a her i'r theatr Gymraeg fydd darparu ar gyfer anghenion cynulleidfa fwy gwybodus a disgwylgar. Er gwell neu er gwaeth mae'r diwylliant Cymraeg wedi datblygu yn un aml-haenog sydd yn dechrau arddangos ei hun mewn cyd-destun rhyngwladol. Bydd rhaid i'r Pwerdy newydd fod ynghanol berw'r ddadl o beth yw Cymreictod a darparu ar gyfer y gymdeithas Gymraeg boed honno ym mherfeddion pridd cefn gwlad neu ar gadarn goncrit dinas. Yn ganolog i'r cyfan fe ddylai'r ymgais fod i greu gweithiau o safon a rhagoriaeth. Y cwestiwn yw, sut i greu sefydliad fydd yn codi i wynebu'r her honno.

2. UNO AI PEIDIO AG UNO?
2.1
Yn nogfen ymgynghorol Cyngor y Celfyddydau, pan nodwyd y bwriad i greu Pwerdy roedd y broses awgrymwyd yn agored i sawl dehongliad. Cymerwyd yn ganiataol gan y mwyafrif mai uniad rhwng Bara Caws a Theatr Gwynedd oedd i greu'r Pwerdy. Ond daeth yn amlwg yn weddol fuan nad oedd hynny mewn gwirionedd yn opsiwn. Rhaid fyddai creu darpariaeth newydd fyddai'n derbyn yr elfennau cryfaf a'r gorau o'r ddau gwmni fel sail i'w fframwaith - yn fwyaf arbennig efallai, yr elfen gymunedol sy'n cael ei ddarparu ar y funud gan Bara Caws. Oherwydd Bara Caws, yn anad un cwmni arall sy'n gweithio drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, sy'n llwyddo i ddenu'r gynulleidfa Gymraeg. Mae'n ymddangos yn gwrs naturiol felly i'r Pwerdy newydd i etifeddu'r enw Bara Caws fel cwmni teithiol cymunedol, tra bydd y prif gwmni llwyfan yn cael enw newydd fyddai hefyd yn enw ambarel ar y Pwerdy. Yr enw newydd hwn fyddai'n adlewyrchu dyheadau cenedlaethol y cwmni. Tra gellid dadlau mai'r Pwerdy mewn gwirionedd fyddai olynydd naturiol yr hen Gwmni Theatr Cymru, fe fyddem ni'n awgrymu y dylai darpariaeth newydd gael enw newydd ac awgrymwn Theatr Genedlaethol Cymru. (Yr ydym yn ymwybodol y gallai'r enw hwn fod wedi ei gofrestru gan y diweddar Saunders Lewis.)

2.2
Credwn fod i'r syniad o greu cwmni newydd fwy o fanteision nag a fyddai o uno Bara Caws a Theatr Gwynedd.

Mae Theatr Gwynedd (fel adeilad) yn anaddas i fod yn bencadlys i'r Pwerdy newydd. Er ein bod yn ymwybodol o gynlluniau i ychwanegu at yr adeiladau presennol yno, deallwn nad yw hynny'n opsiwn bellach. Does yna ddim darpariaeth bresennol ar gyfer ymarfer, dim darpariaeth stiwdio nac ychwaith y gofod ar gyfer y weinyddiaeth fyddai ei angen ar gwmni newydd.

2.3
Wedi ymgynghori chynghorwyr Sirol, aelodau o'r Cynulliad a'r gymuned fusnes yng Ngwynedd, ymddengys fod yr ewyllys gwleidyddol yn bodoli ar hyn o bryd i sefydlu y Pwerdy yn Noc Fictoria yng Nghaernarfon. Yno, byddai'r Pwerdy yn rhan o Ganolfan Ddiwylliannol multi-media newydd (fyddai'n cynnwys Canolfan Gerdd William Mathias ac o bosib Theatr Mewn Addysg - yn ddibynol ar benderfyniad franchise). O fewn y datblygiad hwnnw neilltuwyd gofod i greu 'canolfan berfformio' gydag efallai stiwdio/ystafell ymarfer tebyg i Theatr Brycheiniog.

Yr ydym fodd bynnag am nodi un pryder yngln pherthynas unrhyw gwmni ag adeilad penodol. Yr ydym ni o'r farn na ddylai'r Pwerdy newydd fod chysylltiad uniongyrchol ag adeilad. Yn ddelfrydol, dylai fod yn denant neu bydd perygl i'r cyllid prin fydd ganddo orfod cael ei gyfeirio at frics a mortar. Gwyddom y cyfyd cwestiynau megis, a fyddai anghenion y Pwerdy yn milwrio yn erbyn anghenion tenantiaid eraill - ond beth bynnag yw'r ateb i hynny ni allwn lai na theimlo mai datblygiad Doc Fictoria ddylai fod yn gartref i'r Pwerdy.
Ond mae'n rhaid symud ar fyrder os yw'r Pwerdy newydd yn dymuno bod yn rhan ganolog o'r datblygiad yn Noc Fictoria. Yn dilyn trafodaethau diweddar, dealla Bara Caws y gallai unrhyw oedi pellach beryglu unrhyw weledigaeth eang sydd gan Ddatblygwyr Doc Fictoria yngln 'r priodoldeb o sefydlu'r ddarpariaeth genedlaethol yno.

2.4
Hyd yn oed o'i leoli yng Nghaernarfon, gallai'r Pwerdy ddal cysylltiad agos Theatr Gwynedd ac ymrwymo i'w ddefnyddio fel un o'i brif theatrau Cymreig. Byddai hefyd yn galluogi Theatr Gwynedd i ryddhau ei hun i fod yn 'd derbyn' ac i ddatblygu ei raglen traws-gyfryngol heb gael ei lesteirio i fod yn gwmni cynhyrchu yn ogystal ag yn gwmni derbyn.

2.5
Mae creu darpariaeth newydd yn gyfle am weledigaeth artistig newydd. Yr ydym yn rhag-dybio y byddai pob swydd bresennol o fewn y ddau gwmni cynhyrchu yn peidio bod, ac y byddai'n rhaid i unigolion o fewn y cwmniau hyn gynnig am swyddi tebyg o fewn y ddarpariaeth newydd. Byddai'r dull newydd hwn yn galluogi'r Pwerdy newydd i ddiffinio'n ofalus a chynhwysfawr natur a dyletswyddau pob swydd gan harneisio'r arbenigedd presennol mewn modd cost-effeithiol.

2.6
Fe fydd hyn yn anochel yn arwain at rywfaint o ansicrwydd cyflogaeth, ond rydym yn ffyddiog mai yn y pen draw mai mater o ail-strwythuro cyflogaeth fydd hyn yn hytrach na cholli cyflogaeth, ac y bydd i bawb sydd thalent a gallu le o fewn y ddarpariaeth genedlaethol.

2.7
Am yn rhy hir, does yna ddim llwybr gyrfaol clir wedi bod i actorion / cyfarwyddwyr / ysgrifenwyr / na gweinyddwyr o fewn cymuned y theatr yng Nghymru - bu popeth ar un lefel heb na gobaith am ddyrchafiad gyrfaol ar lefel genedlaethol. Er i'r system bresennol gyflenwi rl bwysig yn y gorffennol, erbyn hyn mae wedi creu hinsawdd cyllell-yn-y-cefn - ble yn anffodus mae rhai unigolion yn amddiffyn eu hawl i aros yn eu swyddi pan fo rhawd eu bywyd cynhyrchiol wedi ei redeg. Nid yw hyn yn golygu na all unigolion fod yn gynhyrchiol mewn cyd-destun theatrig arall, ond yn unig na ddylai'r theatr Gymraeg fod yn gerbyd i 'job-am-fywyd'. Dylai'r byd theatrig Cymraeg fod yn un sy'n newid gyda llanw a thrai creadigol yr unigolion sy'n rhan ohono.

Yn y gorffennol fe welwyd tueddiad i dalent Gymraeg droi eu golygon tua Lloegr i ennill bywoliaeth. Byddai darpariaeth Gymraeg, wedi ei gyllido'n ddigonol, yn atal y duedd hon ac yn annog Cymry i berfformio ar lwyfan y Theatr Genedlaethol. A byddai'r wobr yn ddeublyg - gwaith ac anrhydedd i dalent Cymru.


3. EIN GWELEDIGAETH
3.1
O fewn y Pwerdy fe hoffem weld mwy nag un adain, pob un a'i gyfraniad unigryw ei hun. Yn nogfen wreiddiol Cyngor Celfyddydau Cymru soniwyd am ddwy - Adain Prif Lwyfan ac Adain Deithio Gymunedol. Credwn ni y dylid cael dwy adain arall. Yn benodol Adain Ysgrifennu Newydd ac Adain Hyfforddi Ieuenctid fydd yn cwmpasu pob sgil theatraidd, ac a fydd wedi ei integreiddio ar draws y ddarpariaeth.

3.2
Yr Adain Prif Lwyfan
Byddai'r rhan hon o'r ddarpariaeth newydd gofal dros gynnyrch y prif lwyfan a theithiau'r cynnyrch hwnnw o amgylch theatrau Cymru. Byddai'r cynnyrch yn falans amrywiol o'r poblogaidd, y clasurol ac ysgrifennu herfeiddiol newydd fyddai'n adeiladu ac ychwanegu at ystod bresennol y gynulleidfa. Byddai'n rhaid i'r Adain Prif Lwyfan, o'i ddiwrnod cyntaf, fynd i'r afael 'i ddisgwyliadau yngln ag ysgrifennu newydd a holi cwestiynau megis "Beth sy'n 'glasurol' o fewn y cyd-destun Cymreig?"; "Beth fydd ein hagwedd tuag at gyfieithiadau ac addasiadau?" e.e. a fydd yn addasu o ddiwylliannau cyfochrog Chymru yn unig neu a fydd yn derbyn diffiniad ehangach? O dderbyn y dewis cyntaf fe allai alluogi'r Pwerdy i ddatblygu ar hyd llwybr gwahanol i'r ddarpariaeth Saesneg a chreu ei hunaniaeth unigryw ei hun. (Strategaeth a thrafodaeth i'r dyfodol yw a ddylai'r ddarpariaeth Gymraeg a Saesneg gydweithio mewn unrhyw fodd.)

Mater i'w drafod eto fydd y rhaglennu, nifer y cynyrchiadau blynyddol a'i ymrwymiad i deithio. Ond y mae un peth y dylid ei gadw mewn cof. Yr Adain Brif Lwyfan (ynghyd 'r ddarpariaeth Saesneg) fydd 'ffenest siop' mynegiant theatraidd cenedl sydd yn newid ac yn datblygu. Yn y cyswllt hwn mae meddwl am Gymru newydd herfeiddiol heb ei Chwmni Theatr Genedlaethol Gymraeg yn anathema. Drwy'r Pwerdy newydd fe fyddwn 'r gallu i gynnal deialog gyda chenhedloedd eraill ar lefel na fu'n agored i ni cyn heddiw.

3.3
Adain y Ddarpariaeth Gymunedol
Yn y cyswllt hwn ni ellir diystyrru llwyddiant Bara Caws. Mae'n agos at galon y gynulleidfa Gymraeg - yn fwy felly nag unrhyw gwmni arall presennol. Mae gan y Cwmni gynulleidfa deyrngar, er mai ni fyddai'r cyntaf i gyfaddef na fu'r cynnyrch na'r safon yn gwbl gyson, a bod lle i wella o safbwynt gweinyddiaeth a rheolaeth ariannol. Ond ni welwn pam na all Darpariaeth Gymunedol y Pwerdy newydd adeiladu ar lwyddiant Bara Caws a'i ddatblygu yn Adain Gymunedol Genedlaethol a allai'n hawdd dorri'n rhydd o'i gadarnleoedd yng Ngwynedd a datblygu cynulleidfaoedd mewn cymunedau eraill led-led Cymru.

Eisoes y mae cynlluniau ar droed i gyd-weithio hefo Theatr y Mwldan yn y de-orllewin, ac i agor un o'n cynyrchiadau nesaf yn Rhosllannerch-rugog yn y gogledd -orllewin. Drwy gynllunio'n hir-dymor does dim rheswm pam na allai'r cynllun hwn gael ei ymestyn i ardaloedd eraill drwy Gymru benbaladr, a chreu Adain Deithio Gymunedol fyddai'n rhedeg yn gyfochrog ac yn ategiad teilwng i'r Adain Prif Lwyfan. Does dim rheswm na ellid hyd yn oed gyflogi cnewyllyn o actorion allai rannu eu hamser rhwng y ddwy adain.

Elinor Wyn Reynolds sydd yng ngofal marchnata cynnyrch Cymraeg Theatr y Mwldan. Drwy ei phrofiad o weithio yn y gymuned yng Ngheredigion, mae ganddi'r sylwadau canlynol am y ddarpariaeth gymunedol arfaethedig.

"Dylai theatr genedlaethol Gymraeg fod ynghlwm 'r syniad o genedligrwydd. Mae Cymru bellach ar ei ffordd i fod yn genedl go iawn. Dylai Theatr Genedlaethol fedru mynegi anghenion, poenau a gobeithion cenedl, - bod yn rhan o'r genedl oddi mewn i'w chymunedau yn ogystal bod yn arweiniad i'r genedl allanol. Dylai Theatr Genedlaethol fod yn enaid i genedl."

"Rhaid cofio nad un llais cytun yw cenedl o anghenrhaid. Yn wir daw cryfder cenedl o wahanol leisiau, ac o fewn un wlad rhaid cydnabod bodolaeth sawl gwahanol math o gymuned, ac mae hyn wrth gwrs yn wir yng Nghymru. Ceir sawl haen gymdeithasol o fewn gwlad a rhaid cydnabod fod gennym gynulleidfa soffistigedig o ran anghenion yng Nghymru. Byddai Theatr Genedlaethol gyda gogwydd gymunedol iach yn gweithio tuag at dynnu gwahanol elfennau Cymru a'u plethu at ei gilydd, a thrwy hynny efallai gryfhau ein hymlyniad ni tuag at ein hunain fel cenedl ac fel gwlad. Efallai ei bod yn faich anhygoel i ddisgwyl i un theatr genedlaethol i gynrychioli lleisiau cenedl gyfan o bobl ond mae'n gam na fedrir hepgor ei gymryd. Y sialens yw i greu y theatr yn un a fydd yn medru cynnwys pawb."

"Mae gwaith mawr i'w wneud yng Nghymru o fewn y cymunedau o ran y theatr, ond mae'r tir yn dir ffrwythlon. Yn aml iawn mae cymunedau clos, gwledig, yn creu eu hadloniant eu hunain o fewn gwahanol gymdeithasau drama, ysgolion ac yn y blaen ac yn mwynhau bwydlen ysgafn o ddramu un act, comediau a dramu cerdd. Mae'r diddordeb theatrig yno'n barod, felly mae gwaith mawr i'w wneud i geisio croesi cynulleidfaoedd drosodd i fewn i'r theatr broffesiynol i ddiddymu rhagfarnau sy'n bodoli yngln theatr broffesiynol yng Nghymru i wneud Cymru yn wlad sy'n cymryd theatr o ddifri. Rhaid sicrhau bod pontio effeithiol yn digwydd rhwng cynulleidfaoedd cynnyrch amatur a'r theatr broffesiynol."

"Efallai mai'r ffordd ymlaen yma yw i gorff theatr genedlaethol fedru gweithio ar y cyd hefo cymdeithasau, canolfannau a theatrau lleol o fewn cymunedau i lwyfannu a chreu theatr fydd yn berthnasol i'r gymuned gyfagos, ond hefyd fydd yn medru trawsblannu'n effeithiol i gymunedau eraill yng Nghymru a thu hwnt. Rhaid creu rhwydweithiau cryf drwy Gymru er hyrwyddo hyn, a gellid sicrhau hyn drwy sefydlu presenoldeb a gweithio oddi mewn a chyda cymunedau." (gweler Gwir Ddarpariaeth Genedlaethol)

"Dylid meddwl am raglen strategaethol ar gyfer Ysgrifennu Newydd fel llinyn amlwg o waith y theatr Genedlaethol yn Gymraeg. Yn ogystal hyn, os ydym am gael theatr Genedlaethol Gymraeg gredadwy yng Nghymru, rhaid cynnwys rhaglen o waith y to iau am resymau amlwg. Heb ieuenctid does gennym ddim dyfodol."

"Wrth edrych ar theatr genedlaethol Gymraeg ar gyfer y Cymry drwy lygaid y gymuned, mae'r angen yn fawr, a'r addewid yn euraidd ar gyfer cyd-weithio gyda theatr broffesiynol genedlaethol, - fydd yn gwrando ond hefyd yn addysgu ac yn fforwm i rannu profiadau. Rhaid i gymunedau Cymru deimlo fod y theatr broffesiynol Gymraeg yng Nghymru yn berthnasol - yn wir ar eu cyfer nhw."

3.4
Yr Adain Ysgrifennu Newydd
Y gwir yw fod y rhan fwya o'r cynyrchiadau lwyfanwyd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn yn 'ysgrifennu newydd'. Mae hyn yn rhannol oherwydd y diffyg sydd yna o 'glasuron' Cymreig. Ond mae'n dangos hefyd bwysigrwydd ysgrifennu newydd yng nghyd-destun y theatr Gymraeg.

Mae Bara Caws, fodd bynnag, yn dymuno cwestiynnu'r priodoldeb o greu T Ysgrifennu Newydd dwyieithog. Rydym am ddadlau'n gryf a digyfaddawd y dylai unrhyw ddarpariaeth Ysgrifennu Newydd yn y Gymraeg ddod o dan adain y Pwerdy newydd.

Go brin bod disgwyl i hanner miliwn o Gymry Cymraeg greu Beckett neu Saunders Lewis ym mob cenhedlaeth, er efallai bod y gynulleidfa a'r sytem yn ewyllysio hynny. Canlyniad uniongyrchol y pwysedd i gynhyrchu ydi peth o'r deunydd glastwraidd gafodd ei lwyfannu yn ystod y degawd a aeth heibio. Peth o'r cynnyrch hwnnw, o bosib na ddylai fod wedi troedio ymhellach na drysau gweithdy.

Elfen bwysicaf unrhyw Ysgrifennu Newydd ddylai fod ein gonestrwydd yngln ag ansawdd yr ysgrifennu hwnnw. Ac fe ddylai dramodwyr a darpar ddramodwyr fod yn ymwybodol mai canran yn unig o ysgrifennu newydd fydd yn gweld y llwyfan berfformio. O bosib, nid yw hynny wedi bod yn wir yn Nghymru ers peth amser.
Byddai gweithredu polisi o'r fath yn sicr o godi safonau, ac yn ennyn cefnogaeth y Writers Guild sydd wedi argymell hyn ers tro.

Fel strwythur bosib gallai'r canlynol fod yn un awgrym:-

O fod yn ymwybodol o'r helynt gododd yn sgil trafodaethau diweddar am Theatr y Sherman yr ydym yn argymell yn y lle cyntaf gwahanu'r Ysgrifennu Newydd oddi wrth Theatr y Sherman, yna 'mhellach gwahanu'r Ysgrifennu Cymraeg oddi wrth yr Ysgrifennu Saesneg. Byddid yn neilltuo'r arian ddarparwyd i'r elfen Gymraeg a'i drosglwyddo i'r Pwerdy i gyllido Uned Ddramayddol, wedi ei lleoli o bosib yng Nghaerdydd yn Theatr y Sherman, ond yn atebol yn uniongyrchol i'r Pwerdy.

Ar ysgwyddau'r Uned Ddramayddol y byddai'r baich o chwilio am dalent newydd, ei feithrin mewn cyrsiau a gweithdai yna'i gyflwyno i'r adain Brif Lwyfan, yr adain Gymunedol a'r adain Hyfforddi. Yr Uned Ddramayddol fyddai'n cyd-lynu ymdrechion presennol unigolion a sefydliadau sy'n gweld pwysigrwydd dramayddiaeth ond heb yr adnoddau i'w lawn sylweddoli. Mae trafodaethau anffurfiol gyda staff ac unigolion o fewn yr Eisteddfod Genedlaethol a T Newydd yn ein harwain i gredu y bydden nhw'n falch o gydweithredu hefo uned o'r fath.

Gallai'r Uned Ddramayddol hefyd fod yn gyswllt rhwng cwmniau Theatr Ieuenctid sy'n dymuno darparu deunydd drwy gyfrwng y Gymraeg a bod yn bont rhwng y sgwennwr proffesiynol a'r amatur (fel ym model cyngor Celfyddydau Iwerddon). Byddai iddo hefyd ei rl ryngwladol a'i gwrs yn gyfochrog a CEAD (Montreal, Quebec) a chydweithio'n glos gyda'r ddarpariaeth Ysgrifennu Newydd yn y Saesneg - dyblyg-ieithog (dual-lingual!) yw'r allwedd! Beth tybed ellid ei greu mewn hinsawdd agored-onest?

Rl arall i'r Uned Ddramayddol fyddai cyd-lynu'r gwaith rhwng y ddarpariaeth genedlaethol a'r ddarpariaeth yn y sector brosiect. Yn wir gallai'r Uned gael ei dirprwyo i rannu grantiau prosiect Cymraeg ei iaith - y confensiynol ynghyd 'r arbrofol megis theatr gorfforol gydag elfen o ddeialog - ond gyda'r amod y byddai pob cymorthdal ynghlwm rhywfaint o gymorth dramayddol. Byddai hyn yn gosod y sector brosiect yn sylfaen i'r system byramid o ddatblygu, ac yn ymestyn braich hyfforddiant yr uned.

Fe fydd gwahanu'r ddarpariaeth Saesneg a'r Gymraeg yn sicrhau tegwch i weithiau Cymraeg. Fel ymhob darpariaeth ddwy-ieithog, mae tuedd i un iaith ddominyddu. Ond o'r pwys mwyaf i'r Pwerdy newydd fyddai'r cyfle i sicrhau dablygiad cyfannol y theatr Gymraeg - drwy gael y cyfan o fewn un fframwaith fyddai'n creu partneriaethau a rhwydweithiau newydd.

Er ein bod ni yn Bara Caws yn ffafrio model fel yr uchod, yr ydym yn ymwybodol y gallai amheuon godi yngln 'r diffyg 'cystadleuaeth' o fewn darpariaeth debyg, a bod y model un cwmni yn arwain tuag at y Pwerdy yn rheoli pob darpariaeth theatrig yn y Gymraeg. Fe ellid dadlau dros fodel ble mae'r Ysgrifennu Newydd yn cadw ei hunaniaeth ond yn gysylltiedig 'r Pwerdy ar lefel y Bwrdd Rheoli. Yn ein barn ni, materion i'w trafod eto fyddai'r rheini. Yr egwyddor bwysig yw mai'r nod yw creu ac ymgyrraedd at theatr o ragoriaeth.

3.5
Yr Adain Hyfforddiant
3.5.(i)
"Heb ieuenctid, does gennym ni ddim dyfodol." Hen ystrydeb ie, ond yng nghyswllt y Pwerdy newydd dylid blaenoriaethu o'r cychwyn cyntaf mai hyfforddi pobl ifanc fydd asgwrn cefn unrhyw strategaeth hir-dymor.

3.5.(ii)
Wrth hyfforddi darpar ddramodwyr dyma ddywaid Hazel Walford Davies (Prifysgol Cymru Aberystwyth) :-

"Mae cyrsiau ysgrifennu ar gyfer y theatr i'w cael bron ymhob sefydliad addysg uwch yng Nghymru, ond yn anffodus mae nhw'n bodoli mewn wagle gan nad oes yna ddarpariaeth o fewn y cyrsiau hynny i brofi gwerth llwyfanol sgriptiau myfyrwyr. Mae cyfyngiad lle, amserlennu a phwysau gwaith academaidd traws-gyrsiol yn golygu fod dramodwyr ifanc, sy'n ysgrifennu yn Gymraeg, heb y cyfle i brofi na datblygu eu talentau."

3.5.(iii)
"Mae angen ar ddramodwyr ifanc i gyd-weithio dramodwyr profiadol os ydyn nhw i ddatblygu eu sgiliau. Mae'r angen am Bwerdy, gyda'r brff penodol i feithrin dramodwyr ifanc yn boenus o amlwg. Flwyddyn ar l blwyddyn mae'r Eisteddfodau Cenedlaethol yn dyfarnu medalau a gwobrau i awduron 'addawol'. Ond yn dilyn hynny ceir distawrwydd llethol oherwydd does yna ddim meithrinfa i ddarpar ysgrifenwyr. Mae Pwerdy a all ddenu dramodwyr ar ymweliad neu'n breswyl yn anghenraid. Ymhellach mae angen corff o actorion, cyfarwyddwyr, a chriw technegol y gellid eu rhyddhau ar adegau i ddatblygu talentau a meithrin sgiliau dramodwyr ifanc."

3.5.(iv)
"Gallai'r Pwerdy fod yn ganolfan i fyfyrwyr sy'n gweithio ar radd MA mewn ysgrifennu dramu o fewn y Canolfannau Uwch-Addysgol yng Nghymru - ar yr un patrwm 'r Allardyce Nicol Studios yn Birmingham. Mae cwrs Prifysgol Birmingham a luniwyd gan David Edgar, yn rhoi i bobl ifanc yr hyder i arbrofi, ac mae'r ffaith eu bod yn cael cyd-weithio'n adeiladol gyda dramodwyr profiadol, yn rhoi iddyn nhw'r hyder ychwanegol i sgriptio ar gyfer y theatr. Mae'r Allardyce Nicol Studios yn chwarae rhan allweddol mewn gadael i fyfyrwyr (o dan adain mentor) i ddadansoddi llwyddiant neu fethiant sgriptiau newydd pan ddont dan chwydd-wydr cyfarwyddwyr neu actorion."


3.5 (v)
"Bu Canolfan Ysgrifennu T Newydd ers blynyddoedd yn darparu cyrsiau ysgrifennu ar gyfer y theatr. Yr anfanteision ydi, nad ydi'r bwrlwm a greir ar gwrs yn ystod un bwrw Sul yn mynd dim pellach. Gallai'r Pwerdy ymestyn y bwrlwm hwnnw a does dim rheswm o gwbl pam na allai gydweithio mewn partneriaeth Th Newydd i dderbyn rhai fu ar gyrsiau yno i ddatblygu eu dramu ymhellach."

"Mae sefydliadau addysgol, sy'n cynnig cyrsiau ar y theatr, yn chwilio am 'leoliadau' i'r myfyrwyr hynny sydd am ddatblygu'n ddramodwyr. Gallai'r Pwerdy gynnig y 'lleoliadau' hynny fyddai'n sicrhau fod darpar ddramodwyr yn cael hyfforddiant mewn awyrgylch theatraidd proffesiynol. Pe byddid ymhellach yn sefydlu "Gyl Ddrama Ieuenctid" - dramau newydd gan ysgrifenwyr ifainc - yn brawf pellach i'r Sefydliadau Addysgol o werth cadw cysylltiad clos a meithrin perthynas a phartneriaeth agos 'r Pwerdy newydd."

3.5 (vi)
Wrth ategu llawer o bwyntiau Hazel Walford Davies, mae Sian Summers (Theatr Gwynedd) yn gosod ei syniadau hithau ger bron yngln rl y Pwerdy gyda myfyrwyr l-radd.

"Y mae sicrhau ffyniant y theatr i'r dyfodol yn broblem ryngwladol na ddatrysir heb neilltuo arian ac amser i ysbrydoli, hyfforddi a datblygu gweithwyr theatr ifainc ymhob maes. Gyda thwf diwydiannau teledu a fideo, y sinema, y farchnad gyfrifiadurol a chyfleusterau hamdden lleol, y mae swyddogaeth y theatr fel man i ddifyrru ac addysgu, i drafod ac i ysbrydoli yn gwegian. O'r herwydd, nid yw theatr yn apelio at dalentau ifanc fel arena briodol i ddatblygu yn greadigol. Mae cynulleidfaoedd, a gweithwyr theatr mentrus, fel ei gilydd, ar drai. Yr ateb symlaf i'r dirywiad yma fyddai i bob cynhyrchiad theatr yng Nghymru gynnig cynnwrf a boddhad unigryw ac ysgytwol. A dyna yw'r nod. Ond mae'n amhosib ymgyrraedd ato yn yr hinsawdd bresennol. Rhaid yn gyntaf gyrraedd sefyllfa gynaladwy. Mae safle brau cwmniau ac unigolion a'u cyfyngiadau ariannol yn esgor ar ddiffyg trefn, cysondeb a chyfleon i weithwyr theatr ymhob maes. Ac mae'r syniad o ddysgu crefft ac ysgol yrfaol - ffactorau hollbwysig mewn unrhyw broffesiwn - yn ffantasi llwyr. O'r herwydd mae ansawdd y gwaith yn dirywio, diddordeb cynulleidfaoedd yn pylu a chylch dieflig y sefyllfa, yn deillio o ddiffyg cynllunio hir dymor, yn parhau."

3.5 (vii)
"Adlewyrchir ddiffygion ad hoc y theatr broffesiynol ym maes addysg a hyfforddiant. Nid oes dolen glir ffurfiol wedi ei ffurfio rhwng ysgolion / colegau / mudiadau a'r proffesiwn. Os am rwydo a chadw talentau ifanc mae'n gwbl hanfodol eu bod a chyfeiriad a man sy'n darparu ar gyfer eu cyfnod interim wedi'r Coleg ac yn rhoi lle i'w doniau ddatblygu. Nid fel cardod gwastraffus ond buddsoddiad amhrisiadwy i'r dyfodol.

Yng Nghymru, er diwedd y 70au, profodd y mathau yma o brentisiaeth yn amhosibl eu cynnal. Daw'r beiau oll o ddiffyg trefn, strategaeth ac arian - ond yn anffodus maen nhw'n esgor ar broffesiwn sy'n tangyrraedd wrth i actorion, cyfarwyddwyr, cynllunwyr, technegwyr a sgriptwyr fethu manteision ar gyfleon i arbrofi gan ddysgu a datblygu'u crefft dros amser mewn amgylchfyd sy'n diogelu a meithrin. Yn rhy aml, tynged actor ifanc er enghraifft yw unai i ennill gwaith nad yw'n ddigon aeddfed amdano, neu i bydru'n ddiwaith oherwydd consyrn cyfarwyddwyr wrth gyflogi actor heb 'enw' na phrofiad helaeth."

3.5 (viii)
"Fe rydd y Pwerdy Cymraeg arfaethedig gyfle i gynnig sicrwydd cymharol a her greadigol i nifer o'r proffesiwn Cymreig. Gallai canoli adnoddau o fewn un sefydliad olygu bod cynnal a datblygu gyrfaoedd yn y theatr yn yr iaith Gymraeg yn wir bosibiliad am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Ac yn fwyaf pwysig efallai, fe rydd gyfle i fuddsoddi yn natblygiad gyrfaoedd artistiaid y dyfodol."

"Os yw'r Pwerdy am gyflawni'i swyddogaeth yn llawn, mae asgell stiwdio yn hanfodol. Y mae gwaith hyfforddi a datblygu y sefydliad lawn bwysiced chynyrchiadau graddfa fawr a theithio helaeth. Yn wir, oni ddeallir bod gwaith meithrin ac arbrawf yn rhan anhepgor o ethos y sefydliad, yna sefydliad heb wreiddiau a geir, a sefydliad all wneud dim ond styrian ar wyneb y sefyllfa ddiwylliannol bresennol. Cynigir felly gynllun hirdymor, gynaladwy i roi cyfle creadigol i gyw actorion, cyfarwyddwyr, cynllunwyr ac yn fwyaf pwysig efallai ddarpar ddramodwyr, weithiau fel ensemble i hogi'u crefft ar bwynt hollbwysig yn eu gyrfa. Dros gyfnod o flwyddyn, dyweder, a than arweiniad profiadol, byddai disgwyl i'r cnewyllyn weithio ar amrywiaeth o brosiectau, oll wedi'u cynllunio i ddatblygu eu sgiliau a'r weledigaeth theatrig Gymraeg yn y dyfodol. Ochr yn ochr chwmni ensemble i'r brif ffrwd dylid sefydlu stiwdio sy'n cysegru'i hun i ddatblygiad theatr yn yr iaith Gymraeg mewn ysbryd o fenter ac ymchwil. Rhaid wrth arbenigedd hyfforddi ym meysydd llais, symud, cynllunio, goleuo, sain, cyfarwyddo a dramayddiaeth - yn naturiol dylid rhannu adnoddau dynol gyda staff y brif ffrwd gan ddatblygu'r ethos o brentisiaeth o fewn y sefydliad. Dylai actorion ifainc gymryd rhannau llai yng nghynyrchiadau'r brif ensemble a chyw gynllunwyr ddirprwyo ar waith cynllunwyr profiadol ac yn y blaen. Dylid sicrhau hefyd bod modd i weithwyr theatr ifainc elwa o leoliadau i arsylwi ar waith cwmniau ac unigolion o fri rhyngwladol, er mwyn cyfoethogi'u profiad ac i fwydo'r proffesiwn yng Nghymru. A thrwy gadw cysylltiad cryf 'r ffransieau Theatr i Bobl Ifainc, clientiaid nawdd prosiect a'r ddarpariaerth ysgrifennu newydd yn y Gymraeg, dylai unigolion o'r stiwdio fwydo prosiectau unigol, neilltuol - yn ysgrifenwyr, actorion, technegwyr ac yn y blaen."

3.5 (ix)
Serch hynny, dylid sicrhau mai prosiectau stiwdio fyddai asgwrn cefn y cynllun.
Rhaid hefyd wrth gyfnodau priodol o weithio ar brosiect a dylid ystyried cadw peth o'r cynnyrch tu l i ddrysau caeedig. Dyma yw polisi Stiwdio'r National Theatre yn Llundain er enghraifft, a allai gynnig glasbrint posib ar gyfer stiwdio o fewn y Pwerdy. Rhan bwysig o waith y stiwdio'n ogystal fyddai i drefnu amrywiaeth o weithgareddau tymor byr mewn gwahanol ganolfannau led-led Cymru.

Mae Canolfan T Newydd a Gregynog yn enghreifftiau amlwg. Dylai'r cyrsiau hyn amrywio o ran lefel cyrhaeddiad, gan ganiatau gynifer phosibl i elwa. Byddai lle hefyd i gysylltu 'r sector amatur ac i weithio yn y gymuned. Fel mater o raid, dylid cynllunio tymor o ddosbarthiadau meistr / cyrsiau byr ar gyfer gweithwyr theatr ac yn enwedig artistiaid ifainc a photensial nad ydynt yn ran o waith y stiwdio. Yn ogystal awgrymir newid arweinyddiaeth lled gyson i'r stiwdio, gan sicrhau newydd-deb a chyffro syniadaethol."

Mater i'w drafod fyddai union gyfansoddiad a strwythur asgell datblygu o'r fath.


3.5(x)
Yn ychwanegol, mewn trafodaeth ddiweddar, daeth Cefin Roberts i gysylltiad Bara Caws yngln chwrs MA newydd y mae'n fwriad gan Ysgol Glanaethwy ei drefnu ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Yr ydym eisoes wedi cytuno i dderbyn myfyrwyr i roi iddynt brofiad ym mhob agwedd o gynhyrchu ar gyfer y theatr. Bydd y cwrs hwn eto wedi'i gyplysu chwmni teledu Ffilmiau'r Nant - ac fe rydd hyn elfen draws-media i'r cwrs - ac fe fydd y cysylltiad hwn yn allweddol i ddatblygiad y Pwerdy os am ddenu'r ifanc i feddwl yn nhermau drama theatr yn ogystal theledu.

3.6
Ymhellach, y mae adran Gomisiynu Drama S4C wedi torri tir newydd eleni yngln chyfres o ddramu sydd i'w dangos ar S4C Digidol yn 2000. Mae Ffilmiau'r Nant a Ffilmiau'r Bont ar y cyd wedi derbyn comisiwn i ffilmio 12 drama, 30 munud o hyd, fydd wedi eu hysgrifennu gan awduron newydd i deledu. Ac y mae Angharad Jones, Comisiynydd Drama S4C yn gweld hwn fel cam positif a phwysig tuag at hyfforddi a datblygu talentau ysgrifennu newydd.

3.7
Y mae'r ymwybyddiaeth o bwysigrwydd hyfforddiant a denu'r ifanc at y ddrama yn digwydd heddiw. Yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, S4C, Radio Cymru a nifer o Golegau ac Ysgolion, maen nhw i gyd yn gwneud eu rhan. Onid y Pwerdy yw'r union gerbyd i ddwyn yr oll ynghyd?

4. DARPARIAETH WIRIONEDDOL GENEDLAETHOL
4.1
I fod yn gwmni cenedlaethol bydd rhaid i'r Pwerdy newydd brofi ei ymrwymiad i bob rhan o Gymru. I'r pwrpas hwn fe fyddai strwythuraeth ffederal yn fanteisiol a dadleuwn y dylid fod iddo, fel man cychwyn, ddwy swyddfa ranbarthol.

4.2
Swyddfa yng Nghaerdydd.
Eisoes fe ddadleuwyd y gallai adain o'r Pwerdy gael ei leoli yng Nghaerdydd ac o bosib cael staff gweinyddol yno'n ogystal. Fe fydd angen datblygu cynulleidfaoedd a lleoliadau drwy dde Cymru a rhoddir gofal hyn i swyddfa Caerdydd o'r Pwerdy. Yn ogystal gallai ymgymryd dyletswyddau yr Uned Ddramayddol yn y De a byddai'n bwynt mynediad artsitig i'r cwmni, a thrwy roi i'r swyddfa y statws hwn, gobeithiwn leddfu pryderon y gymuned theatrig yng Nghaerdydd. Awgrymwn efallai mai ail-ddiffinio rl Dalier Sylw o fewn y strwythur sydd ei angen?

4.3
Swyddfa yn y Gorllewin.
Ymhellach, dadleuwn y bydd angen swyddfa hefyd yng ngorllewin Cymru gan y credwn fod rhaid i'r gorllewin hefyd gael ei integreiddio i'r strwythuriaeth genedlaethol. Y mae dau safle sydd yn cynnig eu hunain sef Theatr Felin-fach a Theatr y Mwldan. Gwyddom fod dadleuon o blaid y naill a'r llall, ond efallai, gyda'r uwchraddio buan sydd i ddigwydd yn Aberteifi, a thrac record y tm rheoli yn denu buddsoddiadau, y byddai Theatr y Mwldan yn fwy addas.

Ni fyddai angen i swyddfa'r Gorllewin ddibynu ar Gaerdydd gan na fyddai raid iddi fod yn bwynt mynediad i'r cwmni - arbenigedd Caerdydd fyddai hynny. Fe fyddem ni'n rhagweld ei rl fel un o ddatblygu cynulleidfaoedd yn ei dalgylch.

Yn y gorffennol ni chafodd y gorllewin ei sir o theatr broffesiynol yn y Gymraeg. Byddai'r Pwerdy yn unioni'r cam hwnnw ac yn dangos ei fwriad i fod yn gwmni gwir genedlaethol. Ni allwn or-bwysleisio mai datblygu cynulleidfaoedd ddylai fod agosaf at galon amcanion y Pwerdy. Drwy'r swyddfa yn y gorllewin, gellid meithrin cysylltiadau cymunedol gyda'r amcan o ddatblygu cynulleidfaoedd yn yr un modd y llwyddodd Cwmni Bara Caws i ddatblygu ei gynulleidfa yn yr ugain mlynedd ddiwethaf.

5. PRAGMATIAETH!
5.1
Fel y nodwyd, mae angen llechan ln i roi i ni'r ddarpariaeth orau bosib o'r cychwyn cyntaf.

Yr hyn sydd rhaid ei drafod a'i osod yn ei le yn fuan ydi strwythuriaeth gweinyddol i'r corff newydd. Strwythuriaeth a rydd gyfle i'r corff dderbyn arweiniad gan weledigaeth artistig gref tra'n ymwrthod chaethiwed gweledigaeth 'unben'.
Er mwyn ymgyrraedd at hyn, rhaid creu strwythuriaeth fydd yn caniatau integriti artistig tra ar yr un pryd yn atebol i'r bwrdd rheoli ac i'r cyhoedd yn gyffredinol.

Ddylai'r Pwerdy gael ei reoli gan un Cyfarwyddwr Artistig? Neu gan gyd-gyfarwyddwyr gyda phleidlais fwrw gan y rheolwr-gyfarwyddwr/prif-weithredwr neu swyddog arall sy'n atebol i Gadeirydd y Bwrdd? Beth fyddai hyd tymor Cadeirydd Bwrdd? Etholiad blynyddol a thymor heb fod yn hwy na dwy? Materion yw'r rhain y bydd yn rhaid mynd i'r afael nhw pan sefydlir y corff darpariaethol.

5.2
Edrychwn ymlaen tuag at sefydlu Bwrdd Darpariaethol , gyda darpar gyfarwyddwr artistig yn cael ei benodi gyda'r cyfrifoldeb i greu strategaeth amlinellol.

Hoffem nodi fodd bynnag, tra'n croesawu symudiad i sefydlu bwrdd yn fuan, a thra'n mynnu y bydd ar y bwrdd hwnnw drawsdoriad eang o gyrff a sefydliadau sydd diddordeb ym myd y theatr, rhaid i'r niferoedd fydd ar y bwrdd beidio bod yn rhy lluosog - nid creu lefiathan gweinyddol mo'r bwriad!

5.3
Yn olaf, dylai casgliadau'r bwrdd darpariaethol gael eu gwneud yn gyhoeddus er mwyn i'r cyhoedd gael cyfle i ymuno yn y broses drafod. Rhaid osgoi unrhyw awgrym ac amheuon o "weithio'n y cefndir" fel sydd wedi digwydd hyd yn hyn yngln 'r Pwerdy a'r ddarpariaeth Ysgrifennu Newydd. Nodwyd nifer o'r pwyntiau uchod ym mhapur Ian Rowlands "Strategaeth y Model Pyramid" (Ebrill 1999) Yr ydym yn falch fod cynifer o'i bwyntiau wedi eu cynnwys yn nogfen ddiweddar Cyngor y Celfyddydau, a'n bod o'r diwedd yn symud tuag at drafodaeth lawn.

6. AC YN OLAF
6.1
Wrth baratoi'r ddogfen hon fe dynnodd Bara Caws ar arbenigedd sawl unigolyn o fewn y "diwydiant" drama i geisio gweld sut yw'r ffordd orau i greu sefydliad fydd yn deilwng i'w alw'n Theatr Genedlaethol Cymru.

6.2
Ond ni allwn or-bwysleisio'r angen am weithredu ar fyrder. Rhaid i'r Pwerdy ddatblygu ochr yn ochr 'r ddarpariaeth Saesneg, nid bedwar neu bum cam y tu l iddo. Rhaid manteisio ar y cyfle i ddenu pob cyllid posib o bob cyfeiriad posib ac yn sicr yn achos Caernarfon, gallai oedi olygu colli arian sylweddol. Rhaid manteisio i'r eithaf ar y cyllid fedr ddod i fyd y theatr drwy arian Amcan Un.

"Y mae angen Theatr Genedlaethol ar Gymru. Os ydym ni bellach ar drothwy'r filrif yn wlad, yn genedl sy'n ymwybodol ohoni'i hun yng nghyd-destun gweddill y byd, yna mae'n angenrheidiol cael llwyfan cenedlaethol - yn llythrennol ac yn ffigurol - er mwyn medru bod yn llais effeithiol i wlad newydd."
O fesen derwen a dyf.



ar ran
Bwrdd, Aelodau a Staff BARA CAWS

author:Eurig Wyn

original source: Bara Caws
14 October 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk