Theatre in Wales

Commentary and extended critical writing on theatre, dance and performance in Wales

Ail-greu Arwr, Nid Superman

Mae cynhyrchiad nesaf Dalier SyIw, Y Madogwys, yn dilyn siwrnai ryfeddol Cymro o'r VVaun Fawr yn 1792 i bellteroedd yr Unol Daleithiau I geisio dargan

Braint ac anrhydedd, yn wir oedd derbyn gwahoddiad yn 1995 gan gyfarwyddwr Theatr Gwynedd, ar y pryd, Graham Laker, i sgrifennu drama am fy niweddar gyd-bentrefwr John Evans (177o-1799), yn enwedig gan mai o goffrau llywodraeth ddemocrataidd ein gwlad enedigol, Cyngor Sir Gwynedd, y telid y rhan fwyaf o'r comisiwn

Dechrau'r ymchwil angenrheidiol oedd ailddarilen ac astudio'n fanwl iawn Madoc Gwyn A. Williams ac ysgrif gynharach David Williams, 'John Evans's Strange Journey' (Trafodion y Cymmrodorion, 1948). Dilynwyd hynny gan ymdrech hir a phenderfynol i leihau f'anwybodaeth ynglyn a Chymru, Lloegr, yr Unol Daleithiau a'r Waun-fawr yn y ddeunawfed ganrif, y Tadau Methodistaidd, pregethau Daniel Rowlands, nofeligau William Williams, Llandygai, daearyddiaeth Gogledd America a gwareiddiad brodorion y cyfandir hwnnw cyn y mewnlifiad Ewropeaidd, ac yn y blaen.

Cytunai Graham Laker a minnau nad oedd y sgript a anfonais ato ymhen ychydig fisoedd yn agos at fod yn barod i'w chyflwyno ar lwyfan a hyd yn oed ar ol oriau o drafod ar lafar a thrwy lythyn ni lwyddasom i lunio strategaeth a'n galluogai i symud i'r cyfeiriad hwnnw. Erbyn hyn, mae Graham a minnau o'r farn mai'r maen tramgwydd oedd fod angen rhagor oamser arnaf i 'leibio i'm cyfansoddiad' yr oll a ddysgais am John Evans a'i fyd.

Dyma ddyfyniadau o'm hochr i i'r ohebiaeth:

Yr hyn a geir yw gwrthdaro rhwng dwy estheteg a dwy ideoleg. Credaf mai teg yw disgrifio estheteg Theatr Gwynedd fel naturolaeth gonfensiynol, ryddfrydol neu neo-ryddfrydol. Sylfaen athronyddol fy nramau innau yw realaeth sosialaidd, wladgarol

Hanfod hanesyddiaeth sosialaidd yw'r egwyddor nad cyflwr, eithr proses symudol, gyfnewidiol yw Hanes ac mai'r modur sy'n ei gyrru yn ei blaen yw'r croestynnu a'r gwrthdaro rhwng dosbarthiadau Ilywodraethol a dosbarthiadau israddol. Mynnir mai ei safle cymdeithasol a'i berthynas a pherchnogaeth dulliau cynhyrchu pwysicaf yr oes sy'n Ilunlo ymwybyddiaeth unigolyn, ynghyd a' ddelfrydau a' ddyheadau. Rhaid i awdur y ddrama hanes fod yn gymdeithasegydd gwrthrychol, tra'n ymwrthod a'r demtasiwn i wylio'r drin yn 'diduedd' o lethrau rhyw Olympws rhyddfrydol.

Cefnlen yw Hanes i'r awdur naturiolaidd. Gwlad Arall. Lleoliad egsotig lle y darlunnir yr Arwr yn tramwyo tua'i dynged anorfod - tynged a bennwyd gan ei nwydau a'i serchiadau, neu ffawd, neu ffawt gynhenid yn ei gymeriad ef ei hun. Gall 'digwyddiadau hanesyddol' effeithio ar hynt yr Arwr, drwy hap a damwain, ond mewn gwirionedd, nid yw fawr owahanlaeth nag o bwys ym mha gyfnod y cyflawna ei orchestion a'i gamweddau, gan mai'r un yw'r Natur Ddynol ym mhob oes. Er enghraifft, yr un fenyw ddelfrydol yw pob un o arwresau theatr Saunders Lewis - Siwan, Esther, yr larlles Else ar Ileill, waeth ymhle neu ym mha gyfnod y'u ganed.

Hanfod pob drama o bwys yw stori dda, ac y mae stori John Evans yn un dda iawn. Dylai'r Cymry ei ystyried yn arwr cenedlaethol. Ar hyn o bryd, Os clywsant amdano enoed, tybiant fod llanc a groesodd yr lwerydd i chwilio am Indiaid Cochion Cymreig, o reidrwydd, yn ynfytyn. Nid ywr farn gyffredinol fawr caredicach am lolo Morganwg a'r Dr William Price, dau wr o athylith, o'r un Ilinach radicalaidd. Canlyniad ein cyflwr trefedigaethol a hegemoni Methodistaidd y ddwy ganrif ddiwethaf yw hyn.

Un o swyddogaethau'r Ddrama o'i dechreuad fu egluro wrth gymdeithas o ble y daeth, trwy adrodd ac ailadrodd chwedlau am ei gwroniaid a'i gorffennol. Eithr nid digon oedd rhoi disgrifiad bras o daith John Evans o'r Waun i Flaenau Missouri; rhaid oedd ceisio egluro beth a'i gyrrodd ac arwyddocad ei anturaeth.

Er fod yr estheteg naturiolaidd yn ymddangos yn un anwleidyddol, ar yr olwg gyntaf, nid yw felly mewn gwirionedd, gan iddi dderbyn bod y status quo yn anorfod, waeth faint y gwrthryfel yn ei erbyn. Seilir Naturiolaeth ar y rhagdybiaelh mai'r Farchnad Rydd yw'r unig gyfundrefn economaidd ddichonol a bod methiant pob ymgais i newid y byd yn anochel. Fel hyn y'i harddelir gan un o'ch Darllenwyr:

Yn fy marn i, mae'r cyfan yn dibynnu ar gymeriadaeth. Rhaid i'r ddrama droi o amgylch John Evans. Arwr ifaeledig, clasurol ydyw, un y mae ei ymdrechion aruthrol, goruwchddynol yn ofer. Dylai ei fethiant trasig liwior holl ddrama. Rhaid i John Evans fod ar dan gyda'r syniad hwn o hil golledig y mae ef yn benderfynol o brofi ei bodolaeth. Mae hon yn genhadaeth obsesiynol a di-ildio ac yntau'n superman sy'n ymaflyd codwm a'r diafol ac a'i wendidau ef ei hun, gan yrru ei hun ddiwedd, trasig ac anorfod. Rhaid ei ddyrchafu er mwyn ei ddymchwel.

Ychydig iawn o debygrwydd a welaf i rhwng y superman hwn a'r John Evans y deuthum i'w adnabod tnvy ei Iythyrau ef ei hun a barn ei gyfeillion a'i gydnabod amdano. Gwr ifanc deallus, delfrydgar, anturus, ac arwrol, hyd yn oed, ydoedd, ond un diniwed ac ansicr iawn ohono'i hun a'i amcanion pan adawodd y Waun. Eithr cynyddodd yn fawr mewn doethineb ac adnabyddiaeth o'r byd erbyn diwedd y daith.

'Pa ots am hynny?' medd yr awen naturiolaidd gan awgrymu yn Ilais un arall o'ch Darllenwyr y gallai awdur 'nad yw mor gyfarwydd a'r fleithiau hanesyddol' wella fy sgript.

Ni welaf ddiben sgrifennu drama am ryw 'John Evans' ffantasiol nad yw'n debyg i'r un hanesyddol, a dodi ar Iwyfan alter ego rhyddfrydwr dadrithiedig a aned ddwy ganrif yn ddiweddarach na John, gan honni mai drama am y Methodyn ifanc a aeth ar drywydd y Madogwys ydyw. Gwn y bydd rhai'n anghytuno a mi gan fynnu mai dyletswydd bennaf em hawduron yw helpu achub yr laith' trwy lunio adloniant hwyliog yn Gymraeg. Chwedl Darllenydd arall:

Yr addewid o spectacle sydd yn y disgrifiadau o'r lndiaid yw'r peth mwyaf theatrig a diddorol sydd yn y ddrama... Clywais fod y John go-iawn yn dipyn o ddyn am y merched pan oedd yn y Waun. Hawdd derbyn iddo lamu i gol merch o Indiad Coch pan gafodd y cyfle.

Arddel gwerthoedd Hollywood er mwyn yr laith. Pam lai? F'ateb i yw fod 'Yr laith' wedi disodli 'Y Genedl' fel yr elfen hanfodol yn hunaniaeth y rhan fwyaf o Genedlaetholwyr yr oes hon ac mai dyfodol pur ansicr sydd i'r Gymraeg oni rydd y caredigion hynny y dadleuon dros ei pharhad mewn cyd-destun cymdeithasol a chenedlaethol dyfnach a lletach na'u lles materol hwy eu hunain a'r dosbarth y perthynant iddo. Fel y gwnai cenedlaetholdeb chwyldroadol, Jacobinaidd, cyfanfydol lolo Morganwg a radicaliaid Cymreig eraill diwedd y ddeunawfed ganrif.

Gofynnais i Bethan Jones am gyngor ynglyn a throi fy nrama ddogfen am John Evans yn waith theatrig. Nid wyf yn cofio erbyn hyn sut yr aethom ati ac eithrio iddi fy nghymell i dorri lot fawr o bethau da iawn. Ta waeth, roedd cyfarwyddwr Dalier Syiw yn ddigon bodlon ar y llawfeddygaeth i brynu'r Madogwys. Ac i minnau bu'r profiad o gydweithio a hi'n bleser

Wrth dorri ac ailwampio ac ysgrifennu o'r newydd, cofiais sylw beirniadol gan Graham Laker; sef fod John y fersiynau cynharaf yn ei atgoffa o Candide, Voltaire: digriflun o gymeriad sy'n tramwyo trychinebau a galanastra'r ddeunawfed ganrif heb i'w anturiaethau na'i brofedigaethau effeithio nemor ddim ar ei ddiniweidrwydd hanfodol.

Roeddwn wedi adweithio yn erbyn goddrycholdeb naturiolaidd trwy wneud ffenomen hanesyddol, ddieneiniad o John Evans. Euthum ati i roi cig a gwaed am y sgerbwd cymdeithasegol ac ddychmygu rhywioldeb a chrefyddoldeb f'arwr, ei ddelfrydiaeth a'i fateroliaeth, ei wladgarwch a'i egoistiaeth, ei barodrwydd i aberthu ei hun dros egwyddor a thros eraill a'i uchelgais.

Gobeithio na wnes ormod o gam a'r 'John go-iawn'.


author:Gareth Miles

original source: Barn #431/32 Ionawr 1999
01 January 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk