|
Gwaith ar y we a grewyd yn ystod cyfnod preswyl ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ffrydir cynnyrch y chwe wythnos hyn ar y we ar ddydd Gwener, 27ain Awst. Fe'i ddangosir ddwywaith, am 15.00 a 18.00. Y cyfeiriad yw: http://www.unmoving.co.uk/stafellB/ Bydd cynulleidfa yn gwylio'r gwaith byw yn Stiwdio R.Gerallt Jones yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Darn dawns 30 munud o hyd ydyw, yn cydredeg a thrac sain a thestun. (Mae'n son am ffilm Roman Polanski "Repulsion" ac ymgyrch Owain Williams yn erbyn argae Tryweryn ym 1963; ychwanega hefyd nodiadau ar gyw-sbiwyr yr MI6 oddi fewn i'r brifysgol.) Ffrydir darnau o'r gwaith byw yn syth i mewn i'r darn ar y we. Fe fydd y gosodiad hwn yn rhedeg am gyfnod hir, yn dewis a dethol deunydd ar hap. |
| web site: www.unmoving.co.uk/stafellB/ |
| e-mail: |
| Friday, August 27, 2004 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
