Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

TYMOR HYDREF/GAEAF 2004 YN Y NEW THEATRE     

Unwaith eto, mae gan y New Theatre wledd o adloniant o’r ansawdd gorau ar ein cyfer yr hydref a’r gaeaf hwn. Ym mis Hydref, mae’r New Theatre yn ffarwelio ag Opera Cenedlaethol Cymru wrth iddyn nhw berfformio’u tymor olaf yma. I newid cywair, byddwn yn ein dyblau wrth i Lenny Henry ddod atom am un noson yn unig tra bydd Jerome Flynn yn ein cymell i hel atgofion wrth bortreadu Tommy Cooper yn JUS’ LIKE THAT!. Mae rhaglen wych o ddramâu yn cynnwys tair o ddramâu Shakespeare; Merchant of Venice, Cymbeline a Twelfth Night gan The Wales Theatre Company, Rosemary Leach yn THE SHELL SEEKERS, a chlasur Arthur Miller, THE CRUCIBLE gyda Tony Britton. Yn y flwyddyn newydd, gallwch edrych ymlaen at weld Nigel Havers yng nghampwaith Daphne Du Maurier, REBECCA a THE DRESSER gan Ronald Harwood gyda Nicholas Lyndhurst a Julian Glover. Os mai sioeau cerdd sy’n mynd â’ch bryd, bydd CHICAGO, llwyddiant ysgubol ar Broadway, yn dychwelyd ar ôl cael ymateb mor dda yn 2002. Bydd Orbit Theatre, Caerdydd yn cyflwyno’r sioe fytholwyrdd WEST SIDE STORY ym mis Hydref tra bydd y flwyddyn newydd yn dechrau gyda thaith i Ysgol Celfyddydau Perfformio Efrog Newydd gyda FAME - Y Sioe Gerdd. Gan edrych ymlaen at fis Ebrill, bydd TOMMY gan The Who yn rhan o raglen y New Theatre ar gyfer G_yl Ryngwladol Theatr Gerdd Caerdydd. Bydd adloniant gwych i’r teulu cyfan hefyd gyda’r pantomeim mawreddog, CINDERELLA gyda Dave Benson Phillips a Danny La Rue yn ogystal â hwyl ac egni’r CARDIFF GANG SHOW. A bydd dau gynhyrchiad hudol pellach yn y flwyddyn newydd, THE WITCHES gan Roald Dahl a THE JUNGLE BOOK.

Mae’r tymor yn agor ddydd Mawrth 12 Hydref gyda JUS’ LIKE THAT gyda Jerome Flynn fel y bythgofiadwy Tommy Cooper. Yn enedigol o Gaerffili, Tommy Cooper oedd un o’r rhai prin a oedd yn haeddu cael ei gydnabod fel digrifwr heb ei ail. Roedd ei hiwmor unigryw a thwyllodrus o syml yn ychwanegu tipyn o hud a lledrith i gomedi Prydeinig - ac mae’r dathliad rhyfeddol hwn yn dod â’r diddanwr poblogaidd yn fyw, Jus’ Like That!

Yn ffres o’u llwyddiant gyda Under Milk Wood, mae The Wales Theatre Company yn dychwelyd i’r New Theatre ddydd Llun 18 Hydref gyda gwledd o ddramâu Shakespeare. Wedi eu cyfarwyddo gan Michael Bogdanov, mae’r dathliad hwn o’r bardd yn cynnwys dwy o’i ddramâu mwyaf poblogaidd, Twelfth Night a The Merchant of Venice ochr yn ochr ag un sydd prin yn cael ei pherfformio, Cymbeline. Dyma wythnos o ddrama wych gyda chymeriadau cofiadwy, dyfyniadau cyfarwydd a rhai o’r straeon gorau i gael eu hadrodd erioed a bydd y cyfan yn cyrraedd penllanw ddydd Sadwrn 23 Hydref pan fydd y tair drama’n cael eu perfformio mewn un diwrnod.

O ddydd Mawrth 26 Hydref ymlaen, bydd y cwmni theatr lleol, Orbit Theatre, yn cyflwyno WEST SIDE STORY, un o’r sioeau cerdd mwyaf poblogaidd erioed. Yn dilyn llwyddiannau ysgubol gyda PETER PAN, a JESUS CHRIST SUPERSTAR, mae Orbit Theatre yn dychwelyd i lwyfan y New Theatre gyda chlasur o stori am gariad gwaharddedig sydd wedi bod yn ffefryn ers cenedlaethau. Gyda chaneuon cofiadwy fel America, I Feel Pretty a Tonight, mae WEST SIDE STORY yn parhau i swyno cynulleidfaoedd bron i hanner canrif ers ei pherfformio gyntaf.

Bydd LENNY HENRY yn ymddangos am un noson yn unig gyda “So Much Things To Say” ar 31 Hydref. Mae’r sioe yn trin a thrafod amrywiaeth o bynciau gan gynnwys: Rhieni, Cariad, Rhyw, Rhyfel a cherddoriaeth reggae. Dyma sioe fywiog â llu o gymeriadau digrif sy’n cael eu portreadu gan y dyn ei hun...Lenny Henry. Dewch i’w weld ar ei orau, yn fyw ac yn ddiflewyn ar dafod!

Rosemary Leach fydd seren drama newydd sy’n seiliedig ar nofel ryngwladol lwyddiannus Rosamunde Pilcher, THE SHELL SEEKERS o 2 Tachwedd ymlaen. Dyma glasur modern nwydus ac atgofus sy’n adrodd hanes torcalonnus teulu modern yn Llundain a Chernyw rhwng yr Ail Ryfel Byd a’r presennol. Hanes Penelope Keeling, ei theulu a’r cyfrinachau, angerdd a thrallod sydd wedi eu clymu am dair cenhedlaeth ydyw. Mae hefyd yn adrodd hanes The Shell Seekers - paentiad sy’n rhan o etifeddiaeth y teulu sy’n bygwth bodolaeth y teulu Keeling.

Wedi hir aros, mae’r sioe gerdd o Broadway, CHICAGO yn dychwelyd i’r New Theatre am bythefnos o ddydd Llun 8 Tachwedd ymlaen. Gwerthwyd pob tocyn yn ystod ei hymweliad diwethaf â Chaerdydd yn 2002 ac mae tocynnau eisoes yn gwerthu fel pys y tro hwn. Hanes cusan a chlecs yw CHICAGO gyda Roxie Hart, dawnswraig mewn clwb nos sy’n lladd ei chariad; Billy Flynn, cyfreithiwr cyfrwys sy’n gwneud Roxie’n seren; a Velma Kelly, carcharwraig â dawn dawnsio sydd â chlust am stori a llygad am ddawn. Mae’n gipolwg hoffus ar ddyddiau vaudeville ac yn ddychan amserol ar y system gyfiawnder. Yn anad dim, dyma’n hatgoffa pa mor wych yw theatr ar ei orau.

Mae’r cwmni opera cyfoes uchel ei glod Music Theatre Wales yn dychwelyd i’r New Theatre yn yr hydref gyda THE PIANO TUNER ddydd Sul 21 Tachwedd. A hithau ar fin cael ei throi’n ffilm fawr, mae THE PIANO TUNER wedi bod yn nofel gyntaf hynod lwyddiannus i Daniel Mason. Mae’n stori brydferth a grymus am diwniwr piano diniwed yn Llundain sy’n cael ei alw i wneud gwaith go anarferol yng nghyrion pellaf yr Ymerodraeth yng nghoedwigoedd Burma yn yr 1880au. Bydd MTW yn gweithio gyda cherddorion o ddiwylliannau tra gwahanol am y tro cyntaf erioed mewn opera atgofus newydd sy’n coleddu eu bydoedd cerddorol ac ysbrydol.

Bydd y CARDIFF GANG SHOW yn llamu i’r llwyfan o ddydd Mercher 24 Medi ymlaen gyda sioe hwyliog i’r teulu cyfan. Bydd cast enfawr o fechgyn a merched Caerdydd a’r Fro yn cyflwyno caneuon cyfarwydd o fyd y ffilmiau a’r sioeau, sgetshis comedi doniol a brwdfrydedd heintus yr ifanc.

Daw THE CRUCIBLE gan Arthur Miller i’r New Theatre o ddydd Mawrth 30 Tachwedd ymlaen gyda Malcolm Storry, Tony Britton a Paul Shelley. Dyma un o ddramâu gorau’r ganrif ddiwethaf, gydag Achosion Gwrachod Salem yn gefndir iddi. Cyflwyna hanes ysgytwol gwirionedd a theyrngarwch, camddefnyddio awdurdod ac effaith ddamniol amheuaeth a drwgdybiaeth.
I godi’r ysbryd, bydd tymor y Nadolig yn y New Theatre yn dechrau’n swyddogol ar 11 Rhagfyr gyda CINDERELLA, sef ein pantomeim blynyddol i’r teulu. Gyda Dave Benson Phillips fel Buttons a Danny La Rue fel y Ddewines Dda, mae CINDERELLA’n addo bod yn sioe liwgar lachar. Bydd Powys a Jones, Tony Wright o Capital Gold yma unwaith eto ac, wrth gwrs, yr Olive Guppy Olivettes.

Os byddwch yn dioddef o felan y flwyddyn newydd, bydd y sioe ddawns hynod lwyddiannus FAME - Y SIOE GERDD, sydd yma am un wythnos yn unig o ddydd Llun 24 Ionawr ymlaen, yn si_r o godi’ch calon. Mae FAME yn dilyn hynt a helynt disgyblion â’u bryd ar fod yn sêr wrth iddynt flasu gorfoledd, torcalon a rhamant yn Ysgol Celfyddydau Perfformio Efrog Newydd. Mae’r plant hyn yn benderfynol o fyw am byth wrth iddynt wibio o un ddawns anhygoel i’r llall a chanu caneuon bythgofiadwy’r sioe fyrlymus hon.

Daw’r flwyddyn newydd â llu o enwogion i’r New Theatre yn ogystal â hwyl a sbri i’r teulu cyfan.

O ddydd Llun 31 Ionawr ymlaen, bydd Nigel Havers yn ymddangos yn REBECCA gan Daphne Du Maurier. Dyma’r stori orau am ddirgelwch a rhamant erioed a bydd cynulleidfaoedd Caerdydd ymysg y cyntaf i weld y cynhyrchiad gwefreiddiol hwn cyn iddo fynd i’r West End a Broadway. Drama arall uchel ei chlod, a fydd yn cael ei pherfformio gan gast heb ei ail, gan gynnwys Nicholas Lyndhurst a Julian Glover, yw THE DRESSER gan Ronald Harwood. Fe’i ysbrydolwyd i ysgrifennu’r portread atgofus, craff a hynod ddoniol hwn o fywyd cefn llwyfan gan ei atgofion o’r blynyddoedd y bu’n gweithio fel gwisgwr Donal Wolfitt.

Daw adloniant i’r teulu yn y flwyddyn newydd gan ddau o’r awduron plant mwyaf poblogaidd, sef Roald Dahl a Rudyard Kipling. Bydd THE WITCHES gan Roald Dahl yn dod â hud a lledrith i’r theatr o ddydd Mawrth 8 Chwefror ymlaen, ac yna THE JUNGLE BOOK, gyda chaneuon newydd sbon, o 22 Chwefror ymlaen.

Yn olaf, bydd y sioe gerdd roc wreiddiol TOMMY yn dod i’r New Theatr fel rhan o _yl Ryngwladol Theatr Gerdd Caerdydd ym mis Ebrill. Bydd tocynnau TOMMY ar werth o 4 Hydref ymlaen.

Y perfformiadau hydref/gaeaf a gwanwyn fydd yn cael eu dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain fydd CHICAGO (dydd Sadwrn 20 Tachwedd 5.30pm), THE CRUCIBLE (dydd Sadwrn 4 Rhagfyr 2.30pm), CINDERELLA (dydd Sadwrn 15 Ionawr 2.30pm, dydd Sul 16 Ionawr 1.00pm a dydd Mawrth 18 Ionawr 7.00pm) a THE WITCHES (dydd Sadwrn 12 Chwefror 2.30pm). I’r rhai sydd â nam ar eu golwg bydd Disgrifiad Clywedol byw ar gael yn y perfformiadau canlynol: WEST SIDE STORY (dydd Sadwrn 30 Hydref 2.30pm), THE SHELL SEEKERS (dydd Sadwrn 6 Tachwedd 3.00pm), CINDERELLA (dydd Gwener 21 Ionawr 7.00pm a dydd Sadwrn 22 Ionawr 2.30pm), THE DRESSER (dydd Sadwrn 19 Chwefror 2.30pm), a TOMMY (dydd Sadwrn 23 Ebrill 4.00pm). Erika James fydd yn dehongli neu’n disgrifio’r perfformiadau hyn.

Mae tocynnau ar gyfer y sioeau hyn i gyd ar werth yn awr yn Swyddfa Docynnau’r New Theatre ar Gaerdydd (029) 2087 8889 neu ar-lein yn www.newtheatrecardiff.co.uk.
New Theatre Cardiff  
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk
Julia Barry, Adran Farchnata
e-mail: jbarry@cardiff.gov.uk
Monday, September 13, 2004back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk