CRASHSIOE GYMUNED NEWYDD GAN ARAD GOCH ‘Crash’ yw teitl sioe gymuned newydd Arad Goch a fydd yn teithio o amgylch Cymru ddechrau flwyddyn nesaf. Mae holl angst ac ansicrwydd pobl ifanc yn eu harddegau yn nrama newydd Arad Goch – ‘Crash’; fel y dywed un o’r cymeriadau: “Ti’n hitio 13, piwbs, instant acne, plus ma’ dy rieni di’n colli’r plot!” Drama yn iaith pobl ifanc heddiw yw hon, a’u consyrns nhw sy’n cael y sylw. Mae yma wirioneddau oesol hefyd – y gagendor rhwng y cendlaethau; diffyg cyfathrebu; ofn siomi; pwysau cyfoedolion; yr awydd i ffitio fewn; yr ysfa i ddianc o fywyd diflas pob dydd. Ond mynegir hyn oll drwy sefyllfaoedd sy’n gyfredol iawn. Sawl rhiant fydd yn adnabod ei hun o’r disgrifiad o rieni Rhys ac Elin fel “Fortysomethings – programmed i fod yn boen”, a’u blaenoriaeth ar sicrhau bod eu plant yn llwyddo mewn arholiadau a sicrhau swyddi da?; a sawl plentyn fydd yn gweld ei hun yn y cymeriadau sy’n bwrw yn erbyn y tresi? Addas i oedolion a phobl ifanc dros 14 oed. Am fwy o fanylion cysylltwch â: Nia Wyn Williams Arad Goch Stryd y Baddon Aberystwyth Ceredigion Rhif ffôn: 01970 617998 e-bost: nia.wyn@aradgoch.org Pris y sioe: £440 y perfformiad Dyddiadau Teithio: 19 o Ionawr - 4ydd o Chwefror 2005 |
| Arad Goch web site: www.aradgoch.org |
| Nia Wyn Williams e-mail: nia.wyn@aradgoch.org |
| Monday, January 17, 2005 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

CRASH