|
Rhwng 15-19 o fis Mawrth bydd rhai o actorion, dawnswyr a storïwyr gorau’r byd yn dod i Aberystwyth. Cynhelir Agor Drysau – G_yl Theatr Ryngwladol i Gynulledifaoedd Ifanc yn y dre ac am y pum niwrnod hyn bydd ambell i iaith dra gwahanol i’w clywed ar ein strydoedd gan bod cwmnïau o Denmarc, Belgium, Yr Almaen, Awstralia, Awstria a Hwngari yn dod yma i berfformio. Bydd nifer o gwmnïau o Gymru hefyd yn cynnal sioeau. Trefnir yr _yl hon gan Gwmni Theatr Arad Goch pob dwy flynedd, ac eleni mae’r _yl yn fwy nag erioed gyda 50 o berfformiadau. Mae’r pwyslais ar theatr i bobl ifanc, ac yn wir mae rhywbeth yn yr arlwy i bawb o 5 oed i fyny. Mae llawer o’r perfformiadau yn rhai cyhoeddus ac mae’r trefnwyr yn si_r y bydd oedolion yn ogystal a phlant yn mwynhau’r sioeau. Eleni perfformir nifer o sioeau sy’n mynd i apelio i bobl ifanc yn eu harddegau. Dyma, efallai, y gr_p mwya beirniadol, ond mae’r trefnwyr yn sicr y byddant yn cael eu plesio. Mae ‘Freefall’, er engraifft, yn sioe syfrdanol – gyda chriw o 10 o bobl ifanc yn sglefrio a thorddawsio ar hanner piben ar y llwyfan. Mae yna glasuron hefyd – ond nid fel dach chi’n eu adnabod efallai! Mae ‘Henry V’ Shakespeare yn cael ei pherfformio o amgylch castell tywod sy’n malu’n araf mewn cylch paffio, tra bod ‘Wonderfully Grimm’ yn addasu storïau’r brodyr Grimm yn sioe sy’n cyfuno dawns, storïa, cymeriadau cyffrous a doniol a delweddau ffilm hudolus. Pa ffordd well i codi chwant ar y plant a’r bobl ifanc i ddarllen y llyfrau gwreiddiol? Ymdrinir mewn cynhyrchiadau eraill â phynciau cyfoes iawn. Cwmni Theatr y Sherman o Gaerdydd sy’n cloi’r _yl gyda dwy ddrama ar y nos Sadwrn. Mae ‘The Shadow of a Boy’ yn gofyn sut allwn ni, mewn byd lle mae pethau ofnadwy yn digwydd yn feunyddiol, ddweud y gwir wrth ein plant heb eu dychryn? Mae drama arall y cwmni – ‘Waves in the Chatroom’ yn sôn am gyfeillgarwch rhithiol ar y we rhwng merch o Gymru a chrwt o Ganada. Yn sicr mae’r cynhyrchiadau hyn yn berthnasol iawn i’n hieuenctid. Blas yn unig yw hyn o’r wledd sydd ar gynnig. Mae’n gyfle gwych i weld cynnyrch gweldydd eraill - a hynny ar ein tomen ein hunain. Mae nifer o’r cwmniau hefyd yn perfformio mewn lleoliadau eraill ar hyd a lled Cymru – Pwllheli, Felinfach, Caerdydd, Y Fenni, Rhondda-Cynon-Taf, Aberteifi, Port Talbot, Abertawe, Llanelwy, Ystradgynlais, Llanllechid a’r Wyddgrug. Am docynnau a manylion pellach cysylltwch â Arad Goch (01970) 617998; post@aradgoch.org neu ymwelwch â’n gwefan www.agordrysau-openingdoors.org |
| Arad Goch web site: www.agordrysau-openingdoors.org |
| Dana Edwards e-mail: post@aradgoch.org |
| Friday, February 18, 2005 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
