|
Rhwng 15-19 o fis Mawrth bydd rhai o actorion, dawnswyr a storïwyr gorau’r byd yn dod i Aberystwyth. Cynhelir Agor Drysau – G_yl Theatr Ryngwladol i Gynulledifaoedd Ifanc yn y dre. Bydd cwmnïau o Denmarc, Belgium, Yr Almaen, Awstralia, Awstria a Hwngari yn perfformio yn yr _yl, ynghyd a chwmnïau o Gymru. Mae’n gyfle i ni edrych tu hwnt i ffiniau gwledydd Prydain i weld beth sy’n digwydd ym maes theatr ieuenctid mewn gwledydd eraill; mae’n gyfle hefyd i ni ddangos i’r byd safon ein theatr ni. Trefnir yr _yl hon gan Gwmni Theatr Arad Goch pob dwy flynedd, ac eleni mae’r _yl yn fwy nag erioed gyda 50 o berfformiadau. Mae’r pwyslais ar theatr i bobl ifanc o 5 i fyny. Yn sicr mae yma addewid am _yl safonol, ryngwladol a hynny ar ein stepen drws ni ein hunain. Am fanylion pellach/tocynnau cysylltwch â Arad Goch (01970) 617998 neu ymwelwch a’r wefan www.agordrysau-openingdoors.org |
| Agor Drysau web site: www.agordrysau-openingdoors.org |
| e-mail: |
| Wednesday, March 9, 2005 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
