|
Mae CCC am benodi mwy o Aelodau Annibynnol I vBwyllgor Rhanbarthol y Canolbarth a'r Gorllewin |
|
Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am gyllido a datblygu celfyddyd o bob math ledled Cymru, ac fe’i sefydlwyd trwy Siarter Frenhinol ym 1994 gyda phedwar prif nod: datblygu a gwella gwybodaeth, dealltwriaeth ac arferion y celfyddydau; sicrhau bod y celfyddydau yn fwy agored i’r cyhoedd; cynghori a chydweithio gydachyrff cyhoeddus eraill; a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hyn yn cynnwys dosbarthu £35m o nawdd ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Loteri Genedlaethol i’r celfyddydau yng Nghymru. Mae partneriaeth yn allweddol i waith CCC. Y tri Pwyllgor Rhanbarthol yn y Gogledd, y De a'r Canolbarth a'r Gorllewin yw'r prif gyswllt rhwng awdurdodau lleol, cynrychiolwyr y celfyddydau a'r Cyngor. Maen nhw’n dod ag ymarferwyr y celfyddydau ac aelodau etholedig awdurdodau lleol ynghyd bedair gwaith y flwyddyn ym mhob rhanbarth, i gyfrannu’n uniongyrchol at ffurfio, gweithredu a monitro cynlluniau strategol a gweithredol CCC, a allai olygu mynychu rhai digwyddiadau wedi’u noddi, a chyflwyno adroddiad arnynt. Er na chewch chi’ch talu am y gwaith, mae costau teithio ar gael. Mae'r Cyngor bellach am benodi nifer o Aelodau Annibynnol yn cynnwys ymarferwyr celfyddydol I Bwyllgor Rhanbarthol y Canolbarth a'r Gorllewin am hyd at dair blynedd. • Bod gennych wybodaeth drylwyr o seilwaith y celfyddydau yn yr ardal a’ch bod yn deall prif faterion y sector diwylliannol hwn • Eich bod yn ymroddedig i ddatblygu a hyrwyddo gwaith artistig o’r radd flaenaf, o brosiectau celfyddydau yn y gymuned i gwmnïau sy’n teithio’r wlad, gan sicrhau fod y celfyddydau yn parhau I wneud cyfraniad canolog i fywyd economaidd a diwylliannol Cymru . • Eich bod yn gallu cyfrannu’n wrthrychol at drafodaethau am faterion celfyddydol cenedlaethol a rhanbarthol. • Eich bod yn cyfuno rhinweddau creadigrwydd, gweledigaeth a diddordeb angerddol gyda chyfrinachedd, priodoldeb ac ymarferoldeb. • Eich bod yn fodlon i ni gyhoeddi eich enw a’ch bywgraffiad ar restr o aelodau’r Pwyllgor Rhanbarthol. Byddai’n ddymunol pe baech yn siarad Cymraeg, er nad yn hanfodol. Dydd Gwener 8 Ebrill 2005 yw’r dyddiad cau. Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn cychwyn 18 Ebril 2005. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal o 25 Ebril 2005 ymlaen. Am ffurflen gais, ewch I www.celfcymru.org.uk neu ffoniwch Wendy Davies ar 01267 234248. www.celfcymru.org.uk |
| web site: www.celfcymru.org.uk |
| wendy davies e-mail: |
| Tuesday, March 22, 2005 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
