|
Yn dilyn llwyddiant eu cynhyrchiad aml ieithog diweddar, “Frongoch” gan Ifor ap Glyn, mae Llwyfan Gogledd Cymru wedi cael gwahoddiad i berfformio mewn gwyl Theatr Ewropeiadd yn Hradec Králové yng Ngweriniaeth Siec ym mis Mehefin. Meddai’r Cyfarwyddwr Artistig Ian Rowlands “ Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous yn hanes y cwmni gan mai un o’n prif amcanion ni yw mynd a cynhyrchiadau Cymraeg i lwyfannau rhyng-wladol gyda’r bwriad o gyflwyno iddynt ein iaith a’n diwylliant.” Ariannir y daith gan Y Cyngor Prydeinig a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Fe fydd y ddrama , a berfformiwyd yn wreiddiol yn yr iaith Gymraeg, Saesneg a’r Wyddeleg , yn cael ei addasu ar gyfer cynulleidfa Siec eu iaith. Ychwanegodd Ian Rowlands “Ry’ni hefyd wedi penderfynu teithio “Frongoch” i ardaloedd eraill o Gymru a’r Iwerddon yn ystod yr Hydref er mwyn rhoi cyfle i gynulleidfa ehangach weld y sioe.” Mae’r cwmni ffimliau o Gaernarfon Cwmni Da wedi bod yn dilyn creu “Frongoch” , ynghyd ag ymateb cynulleidfaoedd, ar gyfer rhaglen fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C mis nesaf. Mae’r newyddion yma yn dod ar ddiwedd blwyddyn lwyddiannus yn hanes y cwmni gyda bron i 10 000 o bobol wedi dod i weld eu sioeau. Meddai Cadeirydd y Bwrdd Rheoli Mr Nic Parri “ Rydym wrth ein bodd gyda ffigyrau y llynedd ac yn gobeithio nawr y bydd yr arlwy gyffrous amrywiol sydd ar y gweill yn denu fyw fyth o gynulleidfa yn ystod y misoedd nesaf.” Cynhyrchiad nesaf y cwmni , mewn cyd weithrediad a Theatr Labyrinth Synhwyraidd Cynefin , fydd “Caerdroia”. Prosiect celfyddydau cymunedol fydd hwn lle bydd labyrinth milltir o hyd yn cael ei greu yng Ngoedwig Gwydyr uwchben Llanrwst yn Nyffryn Conwy. Yno fe fydd pobol yr ardal yn cyd weithio gyda artistiaid , beirdd a storiwyr i greu perfformiadau unigryw yn ystod nosweithiau ym Mis Gorffennaf fydd yn dathlu treftadaeth naturio la ieithyddol yr ardal. Gellir cael mwy o wybodaeth drwy ffonio 01248 370088 neu ar www.llwyfan-gogledd-cymru.com. Mi fydd Llwyfan Gogledd Cymru yn symud eu swyddfa o Fangor i Galeri , canolfan mentrau creadigol newydd Caernarfon yn ystod yr wythnosau nesaf. |
| llwyfan gogledd cymru web site: www.llwyfan-gogledd-cymru.com |
| e-mail: |
| Tuesday, April 19, 2005 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
