|
Mae’r New Theatre ar flaen y gad gyda thechnoleg newydd trwy fod ymhlith y cyntaf o theatrau’r DU i gael dolen wybodaeth RSS yn bwydo o’i gwefan. Gall ymwelwyr â’n wefan www.newtheatrecardiff.co.uk danysgrifio i dderbyn gwybodaeth am ein sioeau diweddaraf ar eu cyfrifiadur pen desg neu Mac. Trwy ddefnyddio porwr RSS (mae’r rhain yn cynnwys Opera, Firefox a Safari) neu raglen ‘News Reader’ (Darllenydd Newyddion) wedi’i dadlwytho o’r we, bydd y cyflenwr RSS yn diweddaru gwybodaeth am beth sydd ymlaen yn y theatr gan sicrhau na fyddwch yn colli unrhyw un o’n sioeau yn y dyfodol. Mae’r theatr boblogaidd yng Nghaerdydd, a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed yn 2006, yn cynnig dau wasanaeth RSS, un yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg. Mae gwefan y New Theatre eisoes yn ddwyieithog a’r unig beth sy’n rhaid ei wneud i danysgrifio i’r gwasanaeth RSS yw dod o hyd i’r botwm RSS oren sy’n ymddangos ar y rhan fwyaf o dudalennau. Fel arall, gallwch gael mynediad uniongyrchol yn: http://www.newtheatrecardiff.co.uk/rsswelsh/index.html Mae’r New Theatre yn ymuno â’r sefydliadau prin hynny sy’n cynnig gwasanaeth RSS. Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau o fri fel y BBC, CNN, y New York Times a’r International Herald Tribune. Mae disgwyl i’r dechnoleg ddod yn fwy poblogaidd yn ystod y misoedd nesaf gan fod mor gyffredin â’r rhyngrwyd ei hun yn y pen draw. Credir mai’r New Theatre yw’r ail theatr yn y DU i gynnig y cyfleuster hwn i’w chwsmeriaid. Dywedodd Matt Smith, Rheolwr Marchnata'r New Theatre: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig y dull newydd hwn o hysbysu cwsmeriaid am sioeau’r theatr. Os ydych chi am weld rhestr lawn o’n perfformiadau, yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw edrych ar eich Darllenydd Newyddion neu eich porwr ac mae’r cyfan yno. Dwi’n hynod falch ein bod yn un o theatrau cyntaf y DU i gynnig y dechnoleg hon. Efallai bod yr adeilad bron yn 100 oed, ond mae’r theatr ei hun yn byw yn yr 21ain ganrif.” Mae’r New Theatre yn gweld y gwasanaeth RSS fel cyfleuster i ategu gwefan y theatr. Bydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r wefan sy’n denu tua 13,000 o ymwelwyr y mis ar hyn o bryd. |
| New Theatre Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk/rss/index.html |
| Matt Smith e-mail: msmith@cardiff.gov.uk |
| Wednesday, June 22, 2005 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
