|
Y CYFLE OLAF I ARCHEBU LLE AR GYFER CYNHADLEDD CCC Gyda llai nag wythnos i fynd cyn 3edd Cynhadledd Flynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru, penderfynwyd ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru hyd at 3pm ar ddydd Gwener 15 Gorffennaf. Er mwyn archebu eich lle yn y gynhadledd a gynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru eleni, ewch i http://www.artswales.org/conference/minisite/default.asp?lang=Welsh Bydd 'Cymru: Rhagoriaeth Ryngwladol?', a gynhelir ar 20 & 21 Gorffennaf, yn edrych ar rychwant rhyngwladol y celfyddydau yng Nghymru - ein perfformiad ar y llwyfan byd-eang a sut rydym yn cymharu â safonau rhyngwladol. Trwy gyfrwng trafodaethau llawn, gweithdai a chyfleoedd i rwydweithio, byddwn yn gofyn ym mha ffordd y mae Cymru yn ymgysylltu â gweddill y byd; sut rydym yn denu'r gorau yn y byd i Gymru; ynghyd â sut rydym yn ehangu ein profiadau rhyngwladol o ran artistiaid a chynulleidfaoedd. Nod y gynhadledd ydy annog sector y celfyddydau yng Nghymru i edrych ymhellach fyth tu hwnt i'w ffiniau, adeiladu ar hyn a gyflawnwyd gennym eisoes a mapio'r ffordd ymlaen ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Anelir y gynhadledd at bawb sydd â rôl i'w chwarae i sicrhau bod i'r celfyddydau yng Nghymru weledigaeth, dawn, arweiniaeth a'r adnoddau i lwyddo yn y dyfodol - boed yn artistiaid, gweithwyr yn sectorau preifat a chyhoeddus y celfyddydau yn ogystal â'r rheini yn y byd academaidd a'r cyfryngau. Gwahoddir holl fynychwyr y Gynhadledd i dderbyniad â diodydd a gynhelir ar ddiwedd Diwrnod 1 gan Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Freda Salway. Bydd Gillian Clarke, Bardd y Brifddinas, yn darllen ei cherddi yno yn ogystal. Beth am i chi ymuno â ni am "Hwyrnos Hudolus", noson gabaret i ddathlu 25 mlynedd o'r Cynllun Teithio Cymunedol "Noson Allan", a gynhelir am 7.45yh, Dydd Mercher 20 Gorffennaf ar Brif Lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru. Bydd llu o artistiaid sydd wedi bod yn rhan o'r Cynllun Teithio Cymunedol yn darparu'r adloniant gyda Frank Hennessy wrth y llyw. Mae tocynnau ar gael am bris gostyngol o £5 i fynychwyr y gynhadledd. |
| Arts Coouncil of Wales web site: www.artswales.org/conference/minisite/default.asp?lang=Welsh |
| Angela Blackburn e-mail: angela.blackburn@artswales.org.uk |
| Thursday, July 14, 2005 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
