|
Caiff traddodiad corawl Cymru ei droi â’i ben i waered wrth i Opera Cenedlaethol Cymru gyflwyno’i brosiect cymunedol graddfa fawr cyntaf ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ar Awst 27 400 o aelodau’r côr wedi eu casglu o drefi porthladd De Cymru 70 o aelodau Cerddorfa OCC 11 o aelodau Corws OCC 23 o aelodau band pres (o, ie ac 1 dyn prydferth) Gwaith corawl gwahanol iawn yw The Most Beautiful Man From The Sea, a gaiff ei berfformio gan drigolion trefi porthladd De Cymru ac aelodau o Gwmni OCC ar un o lwyfannau gorau’r byd. Mae’n daith i mewn at galon cymuned forwrol, effaith a gyflawnir trwy drawsffurfio theatr y Ganolfan i fod yn fyd o fôr, golau a gwyntoedd sy’n chwibanu. Bydd mynd i mewn i’r lleoliad yn brofiad unigryw, yn cael ei greu gan gorws anhygoel – yn amrywio mewn oed o wyth i wyth deg chwech – cerddorfa lawn a’r band pres llwyddiannus – Band Tref Tredegar. Cantorion amatur yw aelodau’r côr, ond mae ganddyn nhw amrywiaeth o brofiad proffesiynol rhynddyn nhw – o beirianneg i gadw gwenyn. Bydd dawnswyr wedi eu cipio ar ffilm yn creu awyr symudol uwchben ton symudol o aelodau’r côr yn canu sgôr o wreiddioldeb hynod, un sydd yn hollol wahanol i’r amgyffrediad cyffredin o draddodiad corawl Cymreig. Mae’r cyfansoddwyr Richard Chew ac Orlando Gough yn teithio’r byd mewn sgôr sy’n cyfuno seiniau hudol y tango o’r Ariannin a chaneuon cynhyrfus cymuned bysgota Ynysoedd Heledd. Ysgrifenwyd geiriau’r gwaith gan Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cyntaf Cymru, ac awdur yr arysgrif ddwieithog sydd mor amlwg ar flaen y Ganolfan. Wedi ei ysgrifennu tra’n hwylio ar hyd Arfordir yr Alantig, mae libreto gwyneth yn llawn o naws, lliw a seiniau cymuned ynys, sydd â’i bywoliaeth yn dibynnu ar y môr. Cafodd The Most Beautiful Man From The Sea ei ysbrydoli gan stori fer gan yr awdur enwog o Dde America Gabriel García Márquez. Mae’n stori hudol o adfywiad a gwaredigaeth, yn sôn am ddieithryn carismataidd sy’n cyrraedd y gymuned glan y môr sydd wedi colli tir ers meityn ac sydd wedi rhoi’r gorau i freuddwydio am ddyfodol gwell. Mae’r dieithryn yn creu argraff anhygoel ar y gymuned, gan achosi cyfres o ddigwyddiadau sy’n trawsffurfio bywydau. Associated British Ports, catalydd y newid a’r adfywiad ym Mae Caerdydd, yw noddwyr y cynhyrchiad gyda chefnogaeth oddi wrth y Foyle Foundation. Mae Iain Paterson, a fu unwaith yn ‘leiddiad’ yn troi’n ddyn prydferth ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Canodd Iain gyda OCC yn eu cynhyrchiad diweddar o Rigoletto lle cymrodd ran y dihiryn gwarthus Sparafucile. “Mae mor gas ag y gall fod,” eglura Iain. “Mae’r trawsnewid o’r cymeriad hollol anfoesol hwn i fod yn gymeriad mor wych o gymodlon yn sialens anferth.” Mae logisteg tynnu at ei gilydd brosiect ar y raddfa hon wedi gofyn am gynllunio militaraidd bron – bydd pob twll a chornel o gyfleusterau ymarfer newydd sbon OCC yn cael eu defnyddio ar gyfer ymarferion yn cynnwys cannoedd o bobl ar tro, tra bod yr arolygwraig gwisgoedd Clarissa Bromelle yn prynu galwyni o lifyn glas ar gyfer gwneud gwisgoedd ac yn chwilota trwy dwmpathau o ddillad mae wedi eu casglu yn ystod ei gwaith ar gyfer ffilm a theledu. (Mae wedi gweithio ar amrywiaeth o raglenni o Smack the Pony i The Vicar of Dibley). Mae The Most Beautiful Man from the Sea yn hynod mewn ffordd arall hefyd: mae’n gydweithrediad gyda Chanolfan Mileniwm Cymru a bydd yn manteisio ar dalentau ac adnoddau y saith cwmni preswyl yn y Ganolfan: Academi, Cwmni Dawns Diversions, Cwmni Theatr Hijinx, Ymddiriedolaeth Cyffwrdd, T_ Cerdd ac Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Ewrop. |
| WNO web site: www.wno.org.uk |
| Penny Simpson e-mail: penny.simpson@ukonline.co.uk |
| Thursday, August 11, 2005 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
