|
Cafwyd blas o ddiwygiad crefyddol 1904-05 mewn capel yn ardal Abertawe fwrw’r Sul diwethaf. Daeth rhagor na 400 o bobl i Gapel Ebeneser, Gorseinon, ar gyfer cymanfa ganu’r emynau fu â rhan mor ganolog yn llwyddiant diwygiad a denodd 100,000 o ddilynwyr ac a gafodd effaith mor ddwys ar fywyd ysbrydol Cymru a’r byd. “Roedd canu cynulleidfaol, wrth gwrs, yn ganolog i lwyddiant y crwsâd,” meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts, fu’n arwain y gymanfa yng Nghapel Ebeneser. “Er i wres y diwygiad ddiffodd y mae’r emynau’r parhau’n ddull boblogaidd o addoli,” ychwanegodd. Cyfrannwyd elw’r noson o £1,100 tuag at Gronfa Eisteddfod Genedlaethol Abertawe’r flwyddyn nesaf. “Rydym yn gwerthfawrogi haelioni Theatr Genedlaethol Cymru’n gynnal Cymanfa Ganu i gofio’r digwyddiadau rhyfeddol gafwyd yn ardal Abertawe gan mlynedd yn ôl,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, Heini Gruffydd. “Rhoddodd y Gymanfa’n sicr flas bychan o ferw diwygiad union gan mlynedd yn ôl,” ychwanegodd. Roedd y Gymanfa Ganu’n gyd-daro gyda diwedd taith saith wythnos Theatr Genedlaethol Cymru o gwmpas prif theatrau Cymru gyda Hen Rebel, ddrama gerdd wedi’i selio ar fywyd Evan Roberts, cyn löwr a gweinidog o dan hyfforddiant o Gasllwchwr gerllaw ac un o brif ysgogwyr Diwygiad 1904-05. “Daeth Evan Roberts a’r pump o gantoresau oedd yn ei gwmni’n enwog dros nos a chofnododd gohebwyr y wasg yn lleol ac yn genedlaethol ddatblygiad eu sêl dros yr Efengyl,” ychwanegodd Cefin Roberts. “Bu hynny’n ei dro’n ddeunydd ardderchog ar gyfer cymanfa ganu yn ogystal â drama gerdd,” ychwanegodd. Cymerodd nifer o gast Hen Rebel ran yn y Gymanfa Ganu gan berfformio rhai o ganeuon y cynhyrchiad. Cynhelir perfformiadau olaf Hen Rebel yr wythnos hon yn Theatr Gwynedd, Bangor o nos Fercher tan nos Sadwrn, 16-19 Tachwedd, 2005. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o’r gloch. |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Tuesday, November 15, 2005 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
