Yn dilyn llwyddiant ysgubol DEINAMEIT!, FRONGOCH, a CAERDROIA, mae LlwyfanGogledd Cymru yn dychwelyd i’r llwyfan yn fuan gyda cynhyrchiad cyffrous newydd – DW2416 gan Dewi Prysor. Yn 1992, bu i Dewi Prysor, brodor o Gwm Prysor, Trawsfynydd gael ei gyhuddo o ‘gynllwynio i achosi ffrwydriadau’ fel rhan o ymgyrch losgi Meibion Glyndwr. O ganlyniad bu iddo dreulio 14 mis ar ‘remand’ yng ngharchar Waltion, Lerpwl yn aros ei achos llys. Yn dilyn yr achos yn Llys y Goron, Caernarfon, cafodd Dewi yn ddi-euog. Ond sut brofiad oedd treulio 14 mis o dan glo? Sut effaith gafodd y profiad ar Dewi yn bersonnol, a sut y daeth i ddigymod ar ffaith ei fod yn gwynebu dyfodol ansicr iawn. ‘Un funud ti’n canlyn y gwynt, funud nesa’ ti yn y gist. Dipyn o newid. Rhaid i ti addasu. Ffendio dy ben carchar a’i wisgo fo. Rhag i’r gist newid dy natur rhag i’r dad-ddynoli wenwyno dy waed… Fedra nhw ddim carcharu d’ysbryd!’ Sioe un dyn di-flewyn ar dafod yn olrhain y profiad personnol a wynebodd Dewi yn ystod y cyfnod dan glo yw DW2416 – Sut y bu rhaid iddo orfod, ac y llwyddodd i addasu i’r bywyd newydd anghyfarwydd er mwyn goroesi. Nid cynhyrchiad gwleidyddol fel y cyfryw ydyw. Er fod y pwnc yn siwr o herio’r cynulleidfa. Gobaith y cynhyrchiad yw gosod y profiad personnol ochr yn ochr a’r gwleidyddol gan geisio edrych ar y ddau mewn goleuni positif. Sut y bu rhaid i Dewi wynebu newid byd yn ei fywyd personol, a sut y bu rhaid i Gymru addasu a dygymod gyda’r newidiadau yn yr hinsawdd wleidyddol gyda refferendwm 1997. Yn chware rhan Dewi Prysor yn y cynhyrchiad fydd Dyfrig Evans, prifleisydd y grwp Topper sydd hefyd wedi ymddangos yn y gyfres ‘Emyn Roc a Rôl’ yn ogystal â un o gynhyrchiadau blaenorol Llwyfan Gogledd Cymru, DEINAMEIT! ‘Fe fydd hi’n brofiad anhygoel cael chwarae rhan Dewi, yn enwedig gan mae fo sydd wedi sgwenu’r cynhyrchiad hefyd.’ Dyfrig Evans Bydd DW2416 yn teithio Cymru yn ystod Tachwedd a Rhagfyr ac yn ymweld â’r canolfanau canlynol: Tachwedd 16eg Theatr Y Gromlech, Ysgol y Preseli, Crymych Tachwedd 18fed - Theatr Felinfach Tachwedd 21ain - Chapter, Caerdydd Tachwedd 23ain - Theatr Ardudwy, Harlech Tachwedd 24ain - Tabernacl, Machynlleth Tachwedd 26ain - Gwesty’r Belmount Wrecsam Tachwedd 30ain - Neuadd Dwyfor, Pwllheli Rhagfyr 1af + 2il - Theatr Gwynedd, Bangor Rhagfyr 7fed - Neuadd Goffa, Ysbyty Ifan Rhagfyr 9fed - Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug Rhagfyr 10fed - Galeri, Caernarfon Rhagfyr 12fed - Yr Institute, Llanfair Caereinion Rhagfyr 14eg - Theatr Twm O’r Nant, Dinbych Rhagfyr 15fed - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth Rhagfyr 17eg - Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog Am fwy o fanlion, cysyllltwch a Llio Prydderch Huws ar 01286 685226 neu llio@llwyfan-gogledd-cymru.com |
| Llwyfan Gogledd Cymru web site: www.llwyfan-gogledd-cymru.com |
| Llio Huws e-mail: llio@llwyfan-gogledd-cymru.com |
| Wednesday, November 23, 2005 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Yn dilyn llwyddiant ysgubol DEINAMEIT!, FRONGOCH, a CAERDROIA, mae Llwyfan