|
Allwch chi ddim cadw cyfrinach yng Nghymru am fwy nag wyth deg saith munud… |
Ffaith?‘Neuthon nhw astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd rhyw flwyddyn yn nôl trwy ollwng sgandal fudur ofnadwy am Glenys Kinnock am un o gloch y pnawn yn dop Sir Fôn. Erbyn hanner'di dau oedd hi 'di cyrraedd Rhws'. - Alison, Cymru Fach. Mewn gwlad lle na ellir cadw cyfrinachau mae’r ddrama Cymru Fach, gan Wiliam Owen Roberts, yn cynnig golwg feiddgar ar fywyd cyfoes Gymraeg. Yn seiliedig ar La Ronde gan Arthur Schnitzler cawn ein tywys i grombil gwleidyddiaeth, y cyfryngau a masnach y Gymru gyfoes. Trwy gyfres o gipluniau dychanol, cawn ein harwain drwy anffyddlondeb, sgandal a chwymp pileri cymdeithas mewn gwlad dlawd ar gyrion Ewrop. Gyda statws cymdeithasol a seicolegol y Cymry Cymraeg o dan y chwyddwydr, dyma ddychan fydd yn codi cwestiynau dyrys am ddyfodol ein cenedl. 'Ma' 'na adeg yn d_ad pan ti'n gorfod gofyn cwestiyna gonest i chdi dy hun'. -Jimmy, Cymru Fach. Bydd Cymru Fach yn teithio trwy Gymru o Fawrth 1af hyd at 25ain 2006 |
| Sgript Cymru web site: www.sgriptcymru.com |
| Carys Shannon, Swyddog Marchnata e-mail: carys@sgriptcymru.com |
| Thursday, January 5, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Ffaith?