Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Dominos     

Dominos Mae pedair dramodwraig ifanc wedi cyd-ysgrifennu drama o’i chwr gan dorri tir newydd fydd yn apelio’n bennaf ar gyfer pobl ifanc.

“Roedd y broses fel hwrli bwrli o’r dechrau i’r diwedd,” meddai Mared Swain, 24 mlwydd oed, o Llantrisant ger Caerdydd a gyd-ysgrifenodd Dominos gyda Manon Wyn o Landwrog ger Caernarfon, Branwen Davies o Landegfan, Ynys Môn, ac Angharad Llwyd o Brion ger Dinbych.
“Fy ngobaith yw y bydd y ddrama’n denu cynulleidfaoedd o bob oed ond os y gallwn ddenu cenhedlaeth newydd i’r theatr byddaf wrth fy modd,” ychwanegodd.

Cymerwyd bron i flwyddyn i gwblhau’r prosiect. Pob dramodydd yn cyfrannu tuag ar gyfanwaith ac yn cydweithio gydag actorion roddodd gig a gwad am y cymeriadau a ddarparwyd ar eu cyfer. Bydd Dominos, sy’n gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru’n cychwyn ar daith chwe wythnos o gwmpas rhai o brif theatrau stiwdio neu gymunedol Cymru yn ddiweddarach y mis hwn.

“Gyda’n gilydd datblygwyd drama, sydd wedi’i lleoli mewn dinas, gyda saith cymeriad o gefndiroedd a natur gwahanol i’w gilydd,” ychwanegodd Manon Wyn, fydd yn 24 mlwydd oed ar ddyddiad perfformiad cyntaf Dominos.
“Mae’r adegau clasurol ddramatig ynghyd â cyfnodau o gomedi du’n cyfuno i greu profiad theatrig sy’n hwyl yn ogystal â bod yn ysgogiad,” meddai.

Drama gyfoes yw Dominos yn dilyn diwrnod ym mywyd y saith cymeriad – bywydau sy’n cyd-daro yn dilyn un digwyddiad ar hap.

“Mae’r cwbl yn digwydd megis cwymp rhes o ddominos a dyna sy’n rhoi’r teitl i’r ddrama,” meddai Branwen Davies, sy’n 25 mlwydd oed.
“A dweud y gwir dyna fu hanes y broses ysgrifennu hefyd wrth i ni benderfynu ar y ddrama a’i chymeriadau wrth i syniadau ddeilio ar syniadau eraill,” ychwanegodd.

Mae’r gerddoriaeth ar gyfer Dominos wedi’I gyfansoddi gan Osian Gwynedd gynt o’r grwp Big Leaves. Mae ei gr?p presennol, Sibrydion, yn amlwg yn y sîn roc Cymraeg.

“Mae’r cynhyrchiad terfynol yn gyfuniad o dalent a ddeilliodd o broses gynhyrchu gynhyrfus, buddiol ac arbrofol,” ychwanegodd Angharad Llwyd, sy’n 26 mlwydd oed.
“Mwynheais y profiad yn fawr ac rwy’n si?r y bydd cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru’n rhannu’r boddhad hwnnw,” meddai.

Bydd taith Dominos yn cychwyn yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug ar nos Iau a nos Wener, 26–27 o Ionawr, 2006, cyn mynd ymlaen I Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth (nos Fawrth a nos Fercher, 31 Ionawr -1 Chwefror, 2006), Galeri Caernarfon (nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau, 7-9 Chwefror, 2006), Theatr Sherman Caerdydd (nos Fawrth, nos Fercher, nos Iau a nos Wener, 14-17 Chwefror, 2006), Theatr Brycheiniog, Aberhonddu (nos Lun a nos, 20-21 Chwefror, 2006), Theatr y Grand, Abertawe (nos Iau a nos Wener, 23-24 Chwefror, 2006), a Theatr y Gromlech, Crymych (nos Lun a nos Fawrth, 27–28 Chwefror, 2006). Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30pm.

“Mae Dominos yn torri’r mowld artistig yn ogystal ag o ran y mannau y bydd y ddrama’n ymweld â hwy,” meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.
“Bydd y cynhyrchiad hwn heb os yn cynnig cyfleon newydd i Theatr Genedlaethol Cymru fydd yn sail i drafodaeth ac yn ysbrydoliaeth i’r gynulleidfa,” ychwanegodd.

Fel arfer gyda chynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru cynhelir sesiwn cyn un perfformiad ym mhob theatr ar gyfer dysgwyr y Gymraeg.

“Y tro yma rydan ni’n anelu’n arbennig ar gyfer y rhai sydd newydd ddechrau dysgu,” ychwanegodd Elwyn Williams.
“Rydan ni hefyd yn cynnig gweithdai ysgrifennu ar gyfer myfyrwyr drama lefel “A” neu mewn coleg o dan arweiniad profiadol ein Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Judith Roberts,” meddai.

Dylai’r rhai sydd â diddordeb yn y gweithgareddau ychwanegol hyn gysylltu â’u theatr leol neu ffonio Judith Roberts ar 01554 780650 (e-bost: judith@theatr.com) neu drwy ymweld gwefan unigryw Dominos mewn sain a llun ar www.dominosyddrama.com
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.dominosyddrama.com

e-mail:
Tuesday, January 10, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk