Sioe yn seiliedig ar y cartwn poblogaith y Bobinogi fydd sioe haf plant Cwmni Theatr Arad Goch eleni sef Penbobi Hapus. Crëir y sioe mewn cydweithrediad â BBC Cymru a bydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r gyfresi teledu yn Gymraeg ac yn Saesneg wedi cael derbyniad da iawn ymhlith plant ac mae’n nhw’n gyfarwydd iawn â’r cymeriadau – Bobin, Nib ac Ogi. Disgwylir i’r Bobinogi gael cryn sylw yn y misoedd nesaf gyda chyfres deledu newydd yn cychwyn yn mis Ionawr a Gwasg Gomer yn lawnsio’r llyfrau Cymraeg yn Chwefror 2006. Nid y BBC yw unig bartner Arad Goch yn y fenter gyffrous hon – mae cwmni Masquerade Productions o Gaerdydd, cwmni sy’n creu setiau gwych, hefyd ynghlwm yn y cynllun. Gyda’r fath gyfuniad disgwylir sioe fydd yn wledd i’r llygad a’r glust. Bydd y sioe yn teithio i theatrau a neuaddau led led Cymru rhwng 22ain o Fai a 15fed o Orffennaf 2006 (ag eithrio wythnos hanner tymor 29ain o Fai a’r 2ail o Fehefin) a bydd yn addas ar gyfer plant 3-7 oed. Arad Goch’s summer show this year - Happy Bobiday - is the offered in co-operation with BBC Wales and will be based on the television cartoon the Bobinogs. The cartoon – shown in English on BBC Wales and in Welsh on S4C is extremely popular and children will be very familiar with the characters Bobin, Nib and Ogi. The fourth series of the cartoon is scheduled to be broadcast in January 2006 and Gomer Press are launching the Welsh version of the books in February. Arad Goch will also work with Masquerade Productions from Cardiff who are renowned for their fantastic sets on this production. Considering the partners involved the show is sure to be a great treat and will delight children aged 3-7. This production is being offered in both English and Welsh and will tour to theatres and halls throughout Wales between 22nd May and 15th July 2006. |
| Arad Goch web site: www.aradgoch.org |
| e-mail: |
| Friday, January 20, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Sioe yn seiliedig ar y cartwn poblogaith y Bobinogi fydd sioe haf plant Cwmni Theatr Arad Goch eleni sef Penbobi Hapus. Crëir y sioe mewn cydweithrediad â BBC Cymru a bydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.