Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Hamlet yn ennill gwobr theatr     

Y Canlyniadau:

Enillodd Gareth Bale wobr James Westaway am y perfformiwr ifanc mwyaf addawol
Y cynhyrchiad Cymraeg gorau: Hamlet (Cwmni Theatr Cymru)
Y cynhyrchiad Saesneg gorau: The Life of Ryan ... and Ronnie (Sgript Cymru)
Y cynhyrchiad dawns gorau: At Swim Two Boys (Earthfall Dance)
Yr ysgrifennu newydd gorau: Flowers from Tunisia (Larry Allan, cynhyrchwyd gan Theatr y Byd)
Yr actor gwrywaidd gorau: Aled Pugh (fel Ryan Davies yn The Life of Ryan ... and Ronnie)
Yr actor benywaidd orau: Alex Alderton (Alice Dell yn Somenoe Else's Rainbow, Sam Boardman-Jacob)



Enillodd cynhyrchiad Michael Bogdanov wobr y Cynhyrchiad Cymraeg Gorau yng Ngwobrau'r Theatr Gymreig. Gareth Bale, oedd yn chwarae rhan Hamlet, enillodd Wobr James Westaway ar gyfer y perfformiwr ifanc mwyaf addawol. Cyflwynir y gwobrau yng Nghanolfan y Chapter yng Nghaerdydd nos Fercher. Mae'r gwobrau'n cael eu cynnal bob blwyddyn a'r enillwyr yn cael eu dewis ar wefan y Theatr Gymreig.

Yn gyntaf, mae darllenwyr yn enwebu enwau ar gyfer y rhestr fer ac wedi i'r rhestr gael ei llunio mae cyfle i'r darllenwyr bleidleisio ar gyfer pob adran. Mae chwe phrif adran, y cynhyrchiad Cymraeg gorau, y cynhyrchiad Saesneg gorau, y cynhyrchiad dawns gorau, yr ysgrifennu newydd gorau, yr actor gwrywaidd gorau a'r actores fenywaidd orau.


Hamlet, cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru, gyrhaeddodd y brig yn adran y cynhyrchiad Cymraeg gorau gan ennill mwy o bleidleisiau na chynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Hen Rebel, a Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau, Porc Peis. Cynhyrchiad Sgript Cymru, The Life of Ryan ... and Ronnie, enillodd wobr y cynhyrchiad Saesneg gorau gan drechu fersiwn Saesneg Hamlet. Un o actorion The Life of Ryan ... and Ronnie, Aled Pugh, enillodd wobr yr actor gorau ac Alex Alderton enillodd wobr yr Actores Orau am ei rhan fel Alice Dell yn Someone Else's Rainbow. Enillodd At Swim Two Boys gan Earthfall Dance y cynhyrchiad dawns gorau a Flowers from Tunisia gan Larry Allan ac a gynhyrchwyd gan Theatr y Byd fu'n fuddugol yn yr adran ysgrifennu newydd gorau.

Yn ogystal â'r chwe adran mae gwobr ychwanegol, sef Gwobr James Westaway, ar gyfer y perfformiwr ifanc mwyaf addawol. Yn wahanol i'r adrannau eraill nid y cyhoedd sy'n penderfynu enillydd y wobr hon ond trefnydd y gwobrau, sef y ffotograffydd Keith Morris a chyfarwyddwyr byd y theatr yng Nghymru. Yr actor Gareth Bale dderbyniodd y wobr eleni a hynny am ei rôl fel Hamlet.

Ni chafodd yr actor lawer o rybudd y byddai'n chwarae rhan Hamlet. Yn wreiddiol, yr un actor, Wayne Carter, oedd i chwarae'r rhan yn y cynhyrchiad Cymraeg a Saesneg ond cafodd Bale ei ddewis ar gyfer y rhan Gymraeg wedi i Carter gyfaddef iddo gael problemau.

Dywedodd Bale ei fod yn falch iawn ei fod wedi ennill Gwobr James Westaway. "Roedd yn sioc .. Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl - dydyn ni ddim yn y busnes i gael gwobrau ond mae'n braf cael cydnabyddiaeth," meddai'r actor 25-oed o Gwm Tawe. Roedd yn falch iawn, meddai, iddo gael y cyfle i chwarae rhan Hamlet oedd yn "sialens fawr .Fydden i fyth wedi gwrthod y cynnig hwn ... fy mreuddwyd i oedd chwarae rhan Hamlet."

"Mae actorion drwy eu gyrfa yn dyheu am gael chwarae'r rhan ac wrth gael y cynnig yn 24 oed, roedd rhaid i mi gymryd y cyfle."

Dywedodd ei fod yn falch fod cynhyrchiad Cymraeg Hamlet wedi ennill gwobr. "Fe gawson ni ambell broblem ar y daith ond dyma'r cast gorau i mi weithio gyda nhw o ran talent a chefnogaeth ac mae'r ffaith i ni ennill yn ffantastig gan ei fod yn dangos yr ymdrech. "Roedd trosiad Gareth Miles yn wych ... roedd y geiriau mor gyfoethog."

Dywedodd y ffotograffydd Keith Morris, sy'n trefnu'r gwobrau'n flynyddol, eu bod yn "ffordd o helpu i godi proffil y theatr yng Nghymru a rhoi statws i'r diwydiant. Mae'n waith mawr i roi cyhoeddusrwydd a chyfri'r holl bleidleisiau ond dwi'n mwynhau ei wneud ac mae'n braf rhoi rhywbeth yn ôl i'r diwydiant."

Dywedodd Mr Morris fod y gwobrau wedi tyfu mewn pwysigrwydd dros y blynyddoedd. "Rhywbeth am hwyl oedd e i ddechrau ond roedd y rhai oedd yn eu hennill yn eu cymryd o ddifri ac maen nhw'n rhywbeth i actorion a chwmnïau theatr i'w defnyddio i hyrwyddo eu cynnyrch. Er nad ydyn nhw'n derbyn arian fel rhan o'r wobr y cyhoeddusrwydd sy'n bwysig. Yn sicr, mae'n hwb i nifer o berfformwyr a nifer o'r cwmnïau ac maen nhw'n crybwyll y ffaith iddyn nhw ennill gwobr wrth geisio am nawdd a chefnogaeth. Mae'n arf yn yr ymgyrch farchnata ac mae'n tyfu mewn pwysigrwydd."
BBC Cymru  
web site
: news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4690000/newsid_4698100/4698132.stm

e-mail:
Saturday, February 11, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk