Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Dramâu’r Gwanwyn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru     

Bydd drama yn rhan amlwg o raglen Stiwdio Weston, theatr 200 sedd Canolfan Mileniwm Cymru, dros y ddau fis nesaf, a fydd yn cyflwyno chwe drama gyfoes o fis Mawrth i fis Ebrill.

Bydd pob un o’r chwe pherfformiad yn cynnig cymysgedd o bynciau ac emosiynau yn amrywio o gariad, cyfiawnder ac achubiaeth i ddial, chwant a llwgrwobrwyo.

Y perfformiad cyntaf yn Stiwdio Weston ym mis Mawrth fydd Crush, sef perfformiad llawn dychymyg wedi ei selio ar nofel boblogaidd Jane Austen, Sense and Sensibility sy’n dilyn bywydau dwy chwaer yn Llundain yr 1980au. Mae’r fersiwn anghyffredin hon yn cynnig rhywbeth at ddant pawb, o gynulleidfaoedd ifanc i’r rheini sydd wrth eu bodd yn darllen llenyddiaeth glasurol.

Byddwch yn barod am ddrama llawn bwrlwm o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau yn ein perfformiad nesaf (17-18 Mawrth), Get Carter. Dyma’r addasiad llwyfan cyntaf o nofel Ted Lewis a’r ffilm glasur o’r 70au gyda Michael Caine a Britt Ekland.

Bydd Old Times gan Harold Pinter yn ymddangos dros dair noson o 30 Mawrth i 1 Ebrill. Mae Pinter, a enillodd Wobr Llenyddiaeth Nobel yn 2005, wedi ysgrifennu 29 o ddramâu gan gynnwys The Birthday Party, Betrayal a The Caretaker a 21 o ddramâu ar gyfer y sgrin gan gynnwys The Servant a The French Lieutenant’s Woman.

Bydd Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys a Theatr Powys yn cydweithio i gyflwyno The Children gan Edward Bond ar yr 8fed Ebrill. Ystyrir Bond yn gyffredin fel dramodydd byw pwysicaf yr iaith Saesneg.

Bydd Theatr Sitting Pretty, cwmni theatr newydd o Aberystwyth, yn cyflwyno Banshee’s ar y 10fed Ebrill wedi ei ddilyn gan ddrama Gymraeg Llwyfan Gogledd Cymru, Theatr Freuddwydion, wedi ei sgriptio gan Dewi Rhys ar 11 a 12 Ebrill.

Meddai Louise Miles-Crust, Rhaglenwr Theatr Canolfan Mileniwm Cymru, “Mae gennym raglen amrywiol ar y gweill yn Stiwdio Weston y gwanwyn hwn yn cynnwys perfformiadau dawns a chyngherddau, ond mae nifer y dramau a gaiff eu llwyfannu dros y ddau fis nesaf yn rhywbeth rydym yn falch iawn ohono.”

I gael rhagor o wybodaeth a thocynnau cysylltwch â swyddfa tocynnau a gwybodaeth y Ganolfan ar 08700 40 2000 neu ewch i’r adran wybodaeth a’r system archebu ddiogel ar ein gwefan yn www.wmc.org.uk
wales millennium centre  
web site
: www.wmc.org.uk
esther eckley
e-mail: esther.eckley@wmc.org.uk
Saturday, February 18, 2006back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk