Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Byddwch yn barod i ‘Rumble’     

Mae Rumble, fydd i’w weld yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am ddwy noson yn unig ar 25 a 26 Mawrth, yn ddehongliad unigryw o Romeo and Juliet - yn gyflwyniad rhyfeddol o ddawns stryd gyda chriwiau cystadleugar yn brwydro ar y llwyfan gan gwmni dawns hip hop ryngwladol Theatr Renegade.

Mae Rumble, a gafodd dderbyniad gwych yng Ng_yl Caeredin yn 2004 ac sydd eisoes wedi ennill sawl gwobr ledled Ewrop, yn gynhyrchiad gan y coreograffydd ymladd Markus Michalowski, yr arbenigwr hip hop Zekai Fenerci a’r breg-ddawnsiwr Lorca Renou.

Mae Rumble, sydd wedi ei ysbrydoli’n gryf gan Romeo and Juliet Shakespeare, yn anelu at ddenu cynulleidfaoedd ifancach ac ehangach ac mae’n teithio’r DU am wyth wythnos. Gyda chast o berfformwyr syrcas, dawnswyr stryd a dawnswyr modern, mae’r cynhyrchiad yn gyfuniad bythgofiadwy, doniol ac ysbrydolgar o ddiwylliant stryd a theatr.

Meddai Fiona Allan, Cyfarwyddwr Rhaglennu a Marchnata’r Ganolfan: “Nid ydym wedi cyflwyno dim byd o’r fath yn y Ganolfan o’r blaen, sy’n ei wneud yn fwy cyffrous byth. Prif gyfrwng y cynhyrchiad hwn yw dawnsio stryd a fydd yn agor y drws i gynulleidfa gwbl newydd.”

“Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnal penwythnos o weithgareddau celfyddyd drefol yn gysylltiedig â’r cynhyrchiad hwn o’r enw Breg-ddawnsio yn y Bae sy’n cynnwys amrywiol weithdai graffiti, rapio, hip hop, breg-ddawnsio a throelli yn ogystal â gweithgareddau eraill.”

Yn ogystal â’r amrywiol weithdai sydd wedi eu trefnu ar gyfer y penwythnos, bydd Breg-ddawnsio yn y Bae, a gynhelir o 24 i 26 Mawrth, hefyd yn cynnig cyfle i bobl ifanc recordio demos, perfformio ar Lwyfan Tesco yng nglanfa’r Ganolfan a chymryd rhan mewn cystadleuaeth ddawns.

I baratoi ar gyfer Breakin’ The Bay, mi fydd yna rapio byw (tebyg i’r ffilm 8-Mile) yn cymeryd lle yng Nghanolfan Mileniwm Cymru dydd Gwener yma (24 Chwefror) am 9pm. Fe fydd y digwyddiad yma, sydd am ddim ac wedi’i drefnu gan ‘Higher Learning’, yn cyflwyno’r ennillydd gyda £150 a £50 i’r ail safle.

This free event, hosted by Higher Learning, will provide £150 to the lucky winner and £50 to the runner-up.

Mae prisiau’r tocynnau i weld Rumble yn amrywio o £5 i £22. I archebu eich tocynnau cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 08700 40 2000 neu ewch i’n gwefan yn www.wmc.org.uk

Canolfan y Mileniwm  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Tuesday, February 21, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk