Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Creu Boneddiges     

Bydd tocynnau ar gyfer My Fair Lady, a ddisgrifiwyd fel “Probably the best musical of all time” gan y Daily Telegraph ac yn “The revival againt which all others will be measured” gan y Daily Mail, nawr ar werth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Bydd cynhyrchiad Cameron Mackintosh a’r Theatr Genedlaethol o sioe gerdd Lerner a Loewe, My Fair Lady yn ymddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 25 Gorffennaf a 12 Awst gydag Amy Nuttal a Lisa O’Hare yn rhannu rhan heriol Eliza Doolittle.

Mae Richard Tynen, Cyfarwyddwr Datblygu Canolfan Mileniwm Cymru yn egluro, “Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cofio fersiwn ffilm 1965 o sioe gerdd Lerner a Loewe yn cynnwys Audrey Hepburn a Rex Harrison. Mae My Fair Lady yn glasur oesol sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd o bob oedran gyda’i eiriau bythgofiadwy a’i blot rhamantus. Er mwyn osgoi siomedigaeth, rwy’n cynghori pobl i archebu eu tocynnau’n gynnar.”

Yn llawn o ganeuon gwych megis On the Street Where You Live ac I Could Have Danced All Night, mae My Fair Lady yn adrodd stori merch sy’n byw ar y strydoedd yn Llundain a gaiff y cyfle i brofi ei hun yn y gymdeithas barchus, ac sy’n llwyddo i ddangos y gall fod y ferch decaf ohonynt i gyd.”

Daw’r sioe i’r Ganolfan i ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed gyda chast llawn sêr yn cynnwys Christopher Cazenove fel Professor Higgins, Gareth Hale fel Mr Doolittle ac Amy Nutall, sy’n adnabyddus fel cymeriad Chloe Atkinson yn Emmerdale, a Lisa O’Hare fel Eliza.

Mae tocynnau ar gyfer y cynhyrchiad hwn, sydd wedi ennill pum Gwobr Olivier yn cynnwys ‘Cynhyrchiad Cerddorol Gwych’ a ‘Coreograffydd Theatr Gorau’ (ar gyfer Matthew Bourne), yn amrywio o £10 i £35. Am ragor o wybodaeth a thocynnau, cysylltwch â swyddfa docynnau’r Ganolfan ar 08700 40 2000 neu ewch i’n gwefan yn www.wmc.org.uk
wales millennium centre  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Friday, March 3, 2006back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk