Bydd drama, sy’n trafod meddyliau mwyaf dwys llanc ifanc sy’n gwirioni’n lan ar Ffilmiau Cowbois er mwyn anghofio magwraeth poenus a dryslyd, yn teithio theatrau led led Cymru’r mis hwn.Mae Sundance, sy’n gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, yn fonolog ddeifiol gan un o ddramodwyr mwyaf dadleuol Cymru, yr Offeiriad o Borthmadog, Aled Jones Williams. “Mae’r cynhyrchiad hwn yn barhad o’n polisi o lwyfannu dramâu clasurol bod nhw’n perthyn i’r traddodiad confensiynol neu’r abs?rd,” meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams. “Heb os mae Sundance yn perthyn i’r ail deulu gan gynnig golwg cignoeth o fannau tywyllaf ein meddyliau a’n cydwybod,” ychwanegodd. Chwaraeir Sundance gan yr actor ifanc o Fôn, Owen Arwyn. Mae’n un o actorion craidd Theatr Genedlaethol Cymru a chafodd glod arbennig am ei bortread o Sundance pam lwyfannwyd y ddrama ar faes Eisteddfod Genedlaethol Eryri yn y Faenol y llynedd. Mae hefyd wedi chwarae rhannau blaenllaw ym mhob un o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru ers sefydlu’r cwmni ddwy flynedd yn ôl. “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at fynd â Sundance i gynulleidfa ehangach,” meddai Owen Arwyn, sy’n hanu o Lanfachraeth. “Mae’n ddrama sy’n procio’r meddwl ac yn sicr o aros yn y cof am amser maith,” ychwanegodd. Bydd taith Sundance yn ymweld â: • Caerfyrddin - Neuadd San Pedr - ar nos Fercher, Mawrth 22, 2006, am 7.30 o’r gloch; • Caerdydd - Theatr y Chapten, ar nos Iau, Mawrth 23, 2006, am 8.00 o’r gloch; • Rhydaman - Theatr y Glowyr - ar nos Sadwrn, Mawrth 25, 2006, am 7.30 o’r gloch; • Abergwaun - Ysgol Bro Gwaun - ar nos Lun, Mawrth 27, 2006 am 7.30 o’r gloch; • Rhuthun -Theatr John Ambrose yn Ysgol Brynhyfryd - ar nos Fercher. Mawrth 29, 2006, am 8.00 o’r gloch; • Llangefni -Theatr Fach - ar nos a nos Wener, Mawrth 30 a 31, 2006, am 7.30 o’r gloch. “Rydym yn ymweld â bron pob un o’r canolfannau hyn am y tro cyntaf,” ychwanegodd Elwyn Williams. “Mae hyn eto’n gyson â’n polisi o fynd â chynyrchiadau i gymunedau yn y gobaith y bydd hyn yn denu cynulleidfa newydd i’r Theatr Gymraeg,” meddai. Nid yw Sundance yn addas ar gyfer y rhai o dan 15 mlwydd oed. |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Tuesday, March 7, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Bydd drama, sy’n trafod meddyliau mwyaf dwys llanc ifanc sy’n gwirioni’n lan ar Ffilmiau Cowbois er mwyn anghofio magwraeth poenus a dryslyd, yn teithio theatrau led led Cymru’r mis hwn.