Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

SLEEPING BEAUTY YN DOD I GYMRU     

SLEEPING BEAUTY YN DOD I GYMRU Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno yr unig berfformiadau yn y DU o gynhyrchiad newydd Bale Cenedlaethol Norwy o’r bale clasurol, The Sleeping Beauty, fis Mehefin.

Bale Cenedlaethol Norwy, sydd wedi’i leoli yn Oslo ac sy’n cael ei gyfarwyddo gan Espen Giljane, fydd y trydydd cwmni bale i berfformio yn y Ganolfan ers iddi agor fis Tachwedd 2004, yn dilyn perfformiadau llwyddiannus Cwmni Bale Kirov a Chwmni Bale Awstralia yn 2005.

Caiff y cynhyrchiad hwn, a gefnogir gan Lywodraeth Norwy er mwyn datblygu cysylltiadau diwylliannol rhwng Oslo a Chaerdydd, ei lwyfannu gan feistr bale y Cwmni, Janek Schergen. Mae The Sleeping Beauty yn agos at galon Schergen ac ynddo mae’n cyfuno elfennau gorau’r saith cynhyrchiad blaenorol a lwyfannwyd ganddo ledled y byd.

Eglura Cyfarwyddwr Marchnata a Rhaglennu Canolfan Mileniwm Cymru, Fiona Allan, “Gwnaed y daith hon yn bosibl drwy gefnogaeth Llywodraeth Norwy, fel prawf o’i hymrwymiad i ddatblygu cysylltiadau diwylliannol rhwng Norwy a Chymru. Yn 2008 bydd Bale Cenedlaethol Norwy yn symud i gartref newydd - t_ opera a dawns nodedig sy’n cael ei adeiladu ar lan y d_r yn Oslo, a fydd hefyd yn gartref i gwmni Opera Norwy. Mae’r daith hon yn paratoi’r ffordd ar gyfer rhagor o gydweithio diwylliannol rhwng y Ganolfan a’r ganolfan newydd yn Oslo, dwy o ganolfannau celfyddyd mwyaf newydd Ewrop.

“Dyma gynhyrchiad tylwyth teg traddodiadol o glasur poblogaidd, a fydd yn sicr o ddiddanu cynulleidfaoedd ledled y DU. Mae cynnal tymor unigryw o gynhyrchiad Bale Cenedlaethol Norwy, un o gwmnïau bale mwyaf cyffrous Ewrop, yn atgyfnerthu ymrwymiad y Ganolfan i gyflwyno cynyrchiadau newydd gorau’r byd i gynulleidfaoedd yng Nghymru a’r DU.

“Mae ein llwyfan, sydd ymhlith y mwyaf yn y DU, yn meddu ar yr offer i ddelio â chynhyrchiad ar raddfa fawr ac mae’n bleser gennym gyflwyno Bale Cenedlaethol Norwy am y tro cyntaf. Bydd Cerddorfa Gala Llundain, wedi’i arwain gan Terje Boye Hansen, hefyd yn chwarae’n fyw ym mhob un o’r perfformiadau.”

Mae’r cynlluniau a’r gwisgoedd wedi eu hysbrydoli gan gyfrolau Edmund Dulac o’r 19eg Ganrif, darlunydd enwog ac un o gyfoeswyr Petipa a greodd y cynhyrchiad gwreiddiol o Sleeping Beauty, y mae bale Schergen yn seiliedig arno.

Mae Sandra Woodall, y cynllunydd o San Francisco, wedi ymchwilio’n drylwyr i ddarluniau Dulac ac wedi eu hail-greu mewn amrywiaeth eang o wisgoedd a thwtwau wedi’u creu o sidan o Tseina, brodwaith a gomisiynwyd yn arbennig o India ac appliqué disglair o Affrica. Hwn yw’r cynhyrchiad mwyaf i’r cwmni ei lwyfannu mewn 61 o flynyddoedd ac mae mewn cyferbyniad llwyr â’r cynhyrchiad tywyll o Sleeping Beauty a goreograffwyd gan Mats Ek sydd hefyd yn rhan o’i repertoire (perfformiwyd am y tro cyntaf gan Fale Cenedlaethol Norwy yn 2001).

Fel un o’r goreuon ymhlith y clasuron bale, mae The Sleeping Beauty, wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn gonglfaen gyrfaol i rai o ddawnswyr a choreograffwyr mwyaf enwog y byd: hwn oedd y bale cyntaf i Anna Pavlova a Serge Diaghilev ei weld erioed; hwn oedd sgôr fale lwyddiannus gyntaf Tchaikovsky; perfformiodd Nureyev am y tro cyntaf yn y Gorllewin yn The Sleeping Beauty; ymddangosodd Balanchine am y tro cyntaf ar lwyfan fel ciwpid yn The Sleeping Beauty yn Theatr Maryinsky; a chafwyd cynhyrchiad bythgofiadwy gan gwmni Bale Sadler’s Wells o The Sleeping Beauty fel y Bale Brenhinol am y tro cyntaf mewn perfformiad i ddathlu ail-agor y T_ Opera Brenhinol ar ôl yr ail ryfel byd.

Bale Cenedlaethol Norwy yw unig gwmni bale clasurol Norwy ac mae wedi ei gyfarwyddo gan gyn-ddawnsiwr o Fale Dinas Efrog Newydd, Espen Giljane ers 2002. Mae gan y cwmni wreiddiau ym Mhrydain, ar ôl cael ei sefydlu ar y cyd gan y dawnsiwr o Brydain, Louise Brown a’i gyfarwyddo gan Joan Harris a Brenda Last ar sawl achlysur. Ar hyn o bryd mae gan y cwmni 10 dawnsiwr o Brydain a sawl un arall a hyfforddodd gyda’r Bale Brenhinol.

Cyflwynir Bale Cenedlaethol Norwy yn y DU gan Ganolfan Mileniwm Cymru a rheolir y daith gan Askonas Holt Ltd. Perfformiodd y cwmni ddiwethaf yn y DU yn Theatr Sadler’s Wells yn Llundain yn 1999.

Mae tocynnau ar gyfer y sioe hon yn amrywio o £5 i £34 ac i archebu eich tocynnau, cysylltwch â swyddfa tocynnau a gwybodaeth y Ganolfan ar 08700 40 2000 neu ewch i: www.wmc.org.uk


Perfformiadau am 7.30pm ar ddydd Mer 21, Iau 22, Gwen 23, Sad 24 Mehefin
Perfformiadau am 1.30pm ar ddydd Iau 22 & Sad 24 Mehefin
Perfformiadau am 3pm ar dydd Sul 25 Mehefin
Wales Mllennium Centre  
web site
: www.wmc.org.uk
Esther Eckley
e-mail: esther.eckley@wmc.org.uk
Thursday, April 6, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk