Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

FFORDD NEWYDD YMLAEN YM MAES MEITHRIN CYNULLEIDFAOEDD     

FFORDD NEWYDD YMLAEN YM MAES MEITHRIN CYNULLEIDFAOEDD Bydd Cynulleidfaoedd Cymru yn gweithio gyda dros 200 o gyrff yn y celfyddydau – gan gynnwys theatrau, orielau, amgueddfeydd a chwmnïau teithiol – i feithrin medrau marchnata, cynnig gwybodaeth i’r cyhoedd a rhedeg rhaglenni i symbylu mwy o fynychu a chymryd rhan.

Dangosodd arolwg diweddar gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Y Celfyddydau yng Nghymru, bod 76% o boblogaeth Cymru yn mynd i ddigwyddiad yn y celfyddydau unwaith y flwyddyn neu’n amlach, ac un o bob pump yn cymryd rhan mewn gweithgaredd yn y celfyddydau. Amcan Cynulleidfaoedd Cymru ydi chwyddo’r nifer o bobol sy’n cael mwynhad o’r celfyddydau.

Meddai Joanna Davies, Prif Weithredydd Cynulleidfaoedd Cymru,

“Mae gwneud y celfyddydau yng Nghymru yn fwy hygyrch yn hanfodol bwysig, ac mae Cynulleidfaoedd Cymru yn barod i chwarae’i ran. A ninnau’n hunain yn fynychwyr ac yn gyfranwyr rheolaidd yn y celfyddydau, gwyddom am y manteision aruthrol sy’n deillio o wrando ar gerddoriaeth fyw, mynd i ddigwyddiad mewn theatr, darllen gwaith llên o Gymru neu gymryd rhan mewn gweithdy yn y celfyddydau.

PARHAD…/
Mae yna gymaint i gael blas arno yng Nghymru, ac mae ansawdd y gwaith a gynhyrchir o safon mor uchel, mae arnom eisiau helpu pawb i’w fwynhau ac i fod yn rhan fwy ohono.”

Meddai Jane Clarke, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru (CCC):

“Mae CCC yn falch o fod wedi hwyluso creu Cynulleidfaoedd Cymru trwy ein rhaglen cynaladwyedd a ariannir gan y Loteri.

“Cynulleidfaoedd Cymru fydd allwedd trosglwyddo ein Strategaeth Datblygu Cynulleidfaoedd ein hunain a llathen fesur llwyddiant y corff newydd yma fydd chwyddo mynychu a chymryd rhan yn y celfyddydau trwy hyd a lled cymunedau Cymru.”

Sefydlwyd Cynulleidfaoedd Cymru o ganlyniad i gyfuno Marchnata Celfyddydau Caerdydd, Marchnata’r Celfyddydau yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin a Marchnata Celfyddydau’r Cymoedd. Cefnogwyd y cwmni trwy’r broses gyfuno yn rhan o Raglen Beilot Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Cyrff Cynaladwy, a chafodd fuddsoddiad sylweddol er mwyn sicrhau ei fod yn gallu rhoi yn eu lle raglenni datblygu cynulleidfaoedd sy’n torri tir newydd a sy’n gyffrous. Cefnogir yr asiantaeth yn gadarn hefyd gan bedwar ar ddeg o awdurdodau lleol trwy hyd a lled De a Gorllewin Cymru, ac mae ganddi gynlluniau i ehangu i Ganolbarth a Gogledd Cymru yn y dyfodol agos.

Bydd Cynulleidfaoedd Cymru yn cynnig cefnogaeth farchnata i gyrff yn y celfyddydau, a hefyd yn rhedeg rhaglenni gwybodaeth gyhoeddus. Lansir gwefan newydd sbon danlli cyn bo hir – www.whatsonwales.co.uk / www.galwgargymru.co.uk – fydd yn cynnig newyddion, gwybodaeth, rhestrau o ddigwyddiadau a chynigion arbennig ar ddigwyddiadau yn y celfyddydau trwy hyd a lled y wlad.
Cynulleidfaoedd Cymru  
web site
: www.audienceswales.co.uk
Joanna Davies
e-mail: joanna@audienceswales.co.uk
Thursday, April 6, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk