Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Esther [stori Cymraeg]     

Esther [stori Cymraeg] Bydd gwaith dramodwr a aned ac a fagwyd ar Lannau Mersi, ond a aeth yn ei flaen i fod yn un o lenorion mwyaf Cymru’r Ugeinfed Ganrif, yn agor yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, yr wythnos nesaf.

Esther gan Dr Saunders Lewis yw cynhyrchiad nesaf Theatr Genedlaethol Cymru ac mae’r cast yn cynnwys Nia Roberts, seren y ffilm a enwebwyd ar gyfer Oscar, Solomon and Gaenor, a’r enillydd BAFTA am ei ran fel paffiwr yn y ffilm, Cylch Gwaed, Rhys Richards.

Ganed Dr Lewis yn Wallasey yn fab i Weinidog yr Eglwys Bresbyteraidd. Ar ôl gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf a graddio mewn Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl bu’n byw yng Nghymru gan fod yn rhan allweddol o fywyd y Genedl. Roedd yn academydd, yn newyddiadurwr, yn nofelydd, yn ddramodydd, dehonglwr gwleidyddol, ac yn feirniad llenyddol. Roedd yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru ac yn ysgogydd i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac ymgyrchoedd y Gymdeithas a ddilynodd. Fe’i henwebwyd ar gyfer Gwobr Llenyddiaeth Nobel ym 1970.

Mae Esther yn hanes arwrol o’r Beibl sy’n llawn hunan aberth a chynllwyn
Cyfarwyddwr y cynhyrchiad hwn yw cyn-enillydd Gwobr Richard Burton, Daniel Evans. Cafodd brofiad helaeth o weithio gyda Chwmni Drama Shakespeare a’r Theatr Genedlaethol yn Llundain. Dyma yw ymgais gyntaf yr actor o Gwm Rhondda ar gyfarwyddo yn ôl yma yng Nghymru.

“Rwy’n ei hystyried hi’n fraint cyfarwyddo actorion mor amlwg mewn gwaith clasurol dramodydd sydd o bwys ac enwogrwydd Ewropeaidd,” meddai Daniel Evans.
“Heb os roedd y diweddar Dr Saunders Lewis yn ?r o weledigaeth mawr, ac erys ei ddramâu’n dystiolaeth i’w egwyddorion gwleidyddol, cymdeithasol ac ysbrydol,” ychwanegodd.

Bydd Esther yn cychwyn ar daith chwech wythnos y gwmpas prif theatrau Cymru yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, 20-22 o Ebrill, 2006. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.45 o’r gloch.

Yn ôl traddodiad roedd Esther (o’r Hebraeg o olygu seren, hapusrwydd) yn Iddewes ac yn wraig i Ahasferus, Brenin Persia (485-465 C.C.). Fodd bynnag, rhoddodd y cwbl yn y fantol, gan gynnwys ei bywyd ei hun, i amddiffyn ei theulu, ei ffydd a’i phobl

“Mae’r dewis o gymryd y llwybr cyfiawn tuag at hunan aberth yn amlwg yng ngwaith Saunders Lewis,” ychwanegodd Daniel Evans.
“Buasai rhai’n dweud bod y nodwedd yma’n adlewyrchiad o fywyd Saunders Lewis ei hun,” meddai

Mae aelodau eraill o gast Esther yn cynnwys Julian Lewis Jones, sy’n chwarae rhan Moz yn nrama gyfres boblogaidd BBC Cymru, Belonging;
Rhys Parry Jones (Llew yn Pobol y Cwm); a’r actor ifanc o Fôn gafodd ei hyfforddi yn y Guildhall yn Llundain, Carwyn Jones.

“Rydan ni’n eithriadol ffodus o allu denu cyfarwyddwr a chast mor brofiadol i ymuno â Theatr Genedlaethol Cymru er mwyn llwyfannu un o ddramâu mwyaf
Saunders Lewis,” meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.
“Bydd Esther yn sicr o greu profiad theatrig na â’n angof am flynyddoedd i ddod,” ychwanegodd.

Yn dilyn y perfformiadau yng Nghlwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, bydd Esther yn mynd ymlaen i:

• Theatr y Lyric, Caerfyrddin, am 7.30 o’r gloch, nos Fawrth, Ebrill 25, 2006;
• Y Canolfan Celfyddydau, Aberystwyth am 7.30 o’r gloch, nosweithiau Mercher a Iau, Mai 3-4, 2006;
• Theatr y Sherman, Caerdydd, am 7.30 o’r gloch, nosweithiau Iau a Gwener, Mai 11-12, 2006;
• Theatr Mwldan, Aberteifi, am 7.30 o’r gloch, nosweithiau Mawrth a Mercher, Mai 16-17, 2006;
• Theatr Taliesin, Abertawe, am 7.30 o’r gloch, nos Sadwrn, Mai 20, 2006; ac yn
• Theatr Gwynedd, Bangor, am 7.30 o’r gloch, nosweithiau Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, Mai 24–27, 2006.
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Tuesday, April 11, 2006back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk