Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Gwaith Cymreig Newydd yn y Ganolfan     

Gwaith Cymreig Newydd yn y Ganolfan Neithiwr (24 Ebrill 2006) cyhoeddodd Canolfan Mileniwm Cymru lansio cynllun newydd, y Prosiect Deori, sy'n ceisio meithrin, datblygu ac annog talent a gwaith newydd ar draws amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol yng Nghymru.

Mae tri chwmni celfyddydol yng Nghymru, sy'n cynnwys Theatr na n'Og, Antic Corporation a Llwyfan Gogledd Cymru, wedi'u dewis i gymryd rhan ym mlwyddyn gyntaf y prosiect a gwnaed hyn yn bosibl gyda chymorth Ymddiriedolaeth Elusennol Tregolwyn.

Dywed Cyfarwyddwr Rhaglennu a Marchnata'r Ganolfan, Fiona Allan, "Un o'n huchelgeisiau yw bod yn ffwrnais o ysbrydoliaeth - lle i ddatblygu gwaith Cymreig newydd a'i lwyfannu am y tro cyntaf. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Elusennol Tregolwyn am alluogi'r Ganolfan i lansio'r Prosiect Deori ac yn falch y byddwn yn llwyfannu tri darn newydd o waith yr Hydref hwn, lai na dwy flynedd ar ôl i ni agor.”

Un o'r cwmnïau i fanteisio ar y cynllun newydd hwn yw Theatr na n'Og, a adwaenwyd yn flaenorol fel Theatr Gorllewin Morgannwg tan 2000. Gan arbenigo yn bennaf mewn theatr i blant, bydd Theatr na n'Og yn torri cwys newydd pan fyddant yn dechrau gwaith ar gomedi cerddorol wedi'i anelu at oedolion.

Ar y llaw arall, bydd Antic Corporation, a leolir yn Abertawe, yn canolbwyntio eu hymdrechion ar waith a bywyd yr Artist o Wlad Pwyl, y diweddar Josef Herman, a oedd yn byw yn Ystradgynlais. Roedd Herman, a lwyddodd i ddianc pan gyrhaeddodd byddin yr Almaen ei famwlad, wedi ffoi i Ewrop ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd ac yna ymgartrefodd yn Ystradgynlais.

Bydd y trydydd cwmni, Llwyfan Gogledd Cymru, yn datblygu digwyddiad thematig yn seiliedig ar berthynas Cymru â chwedl a ffaith rhyfel. Bydd Nid oes gennym hawl ar y sêr gan Iwan Llwyd, yn ymdrin â dyddiau olaf bywyd y bardd enwog Hedd Wyn.

Bydd gan bob cwmni fynediad i le ar gyfer cynnal sesiynau ymarfer yn y Ganolfan, Stiwdio Weston ar gyfer cyfnod o ddatblygu creadigol dwys a gallant gysylltu â staff y Ganolfan i gael cyngor ym meysydd cynhyrchu technegol, marchnata, cysylltu â'r cyfryngau a noddi os bydd angen. Yn ogystal, bydd y Ganolfan yn gweithio'n agos gyda'r cwmnïau sy'n cymryd rhan er mwyn rhoi cipolwg iddynt o ofynion lleoliadau eraill ledled y DU a rhoi cysylltiadau consortiwm defnyddiol iddynt yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Yn ogystal, mae ail theatr Canolfan Mileniwm Cymru, Stiwdio Weston, yn ategu'r cynyrchiadau ar raddfa fwy ar y prif lwyfan, Theatr Donald Gordon. Mae maint a chyfleusterau technegol y Stiwdio yn galluogi'r Ganolfan i lwyfannu gwaith mwy arbrofol ac arbenigol, gan alluogi'r Ganolfan i weithio gyda grwpiau perfformio arloesol sefydledig a thalent newydd sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru a ledled y byd.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) y bydd yn noddi Stiwdio Weston am 12 mis a bydd hyn yn rhoi manteision i'w myfyrwyr megis prosiectau hyfforddi proffesiynol, llwyfan i lwyfannu eu gwaith, sgyrsiau gydag artistiaid a mynediad breintiedig i berfformiadau ar gyfer myfyrwyr a staff. Cynorthwywyd y prosiect hwn ymhellach gan Arts and Business Cymru fel rhan o'i gynllun buddsoddi 'Partneriaid Newydd'.



NODIADAU I AR Y CWMNIAU:

Yngl_n â Theatr na n'Og
Theatr Gorllewin Morgannwg gynt, tan 2000, bu’r cwmni yn cynhyrchu theatr o'r radd flaenaf i bobl ifanc yn Gymraeg a Saesneg am dros ugain mlynedd.
Mae polisi artistig y cwmni yn seiliedig ar y syniad bod theatr yn gyfrwng byw sy'n difyrru, addysgu, herio a chymell y person cyfan, o bob oed. Mae'n rhaid i theatr fod yn berthnasol i fywyd cymunedau a phobl, er mwyn iddi allu eu hadlewyrchu, ac ar yr un pryd yn cyfathrebu ei hanfod i eraill.
Bydd y cwmni yn creu cynyrchiadau a phrosiectau yn Gymraeg a Saesneg sy'n difyrru ac yn addysgu plant a phobl ifanc o bob oed, gan ehangu ac annog eu canfyddiad o theatr fel cyfrwng bywiog sy'n berthnasol iddynt. Yn ogystal, anogir pobl ifanc i gymryd rhan yng nghrefft creu theatr ac i ddatblygu cariad tuag at y theatr fydd yn eu gwneud yn ymwybodol o'i hud.

Yngl_n ag Antic Corporation
Sefydlwyd Antic Corporation ym mis Ionawr 2004, gan Michael Waters a Niki Neale, a'i leoli yn Abertawe. Nod y Cwmni yw darparu theatr weledol o'r radd flaenaf, gyda diddordeb penodol mewn gweithiau newydd a gwaith sy'n cael ysbrydoliaeth yn uniongyrchol o'r gymuned. Y prosiect cyntaf oedd taith o ddrama newydd, Gull, a ysgrifennwyd gan Michael Waters, a berfformiwyd yn Stiwdio Depot yn Theatr y Grand, Abertawe a Chanolfan Celfyddydau Chapter. Arweiniodd llwyddiant y prosiect hwn at gomisiwn gan _yl Cyrion Abertawe, sydd newydd ei ffurfio, a chyhoeddi drama gan Sgript Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Yn ystod hydref 2004 cafwyd cynhyrchiad o Crazy Gary's Mobile Disco gan Gary Owens, a ehangodd enw da'r cwmni am theatr ddyfeisgar a chyfoes ymhellach.

Yngl_n â Llwyfan Gogledd Cymru
Mae Llwyfan Gogledd Cymru yn un o gleientiaid refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru a ariennir i gynhyrchu theatr yn y gogledd ar gyfer y gogledd, Cymru gyfan a thu hwnt. Pan rannwyd Cwmni Theatr Gwynedd a Theatr Gwynedd yn d_ derbyn a chwmni cynhyrchu ar wahân, achubodd bwrdd newydd Cwmni Theatr Gwynedd ar y cyfle i ail-frandio ac ailddiffinio ethos y cwmni.

O dan gadeiryddiaeth Nic Parry a Chyfarwyddiaeth Artistig Ian Rowlands, mae Llwyfan Gogledd Cymru wedi arbenigo mewn creu theatr amlieithog herfeiddiol sy'n ceisio gosod y profiad diwylliannol Cymreig mewn cyd-destun ehangach.
Canolfay Mileniwm Caerydd  
web site
: www.wmc.org.uk
Esther Eckley
e-mail: esther.eckley@wmc.org.uk
Tuesday, April 25, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk